|

Newyddion Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin

Ymweliad Sharon
Morgan:
Cafodd
disgyblion Drama blwyddyn 12 a 13 ymwelydd enwog iawn yn yr ysgol ar y
seithfed ar hugain o Fedi 2010. Mae Mrs Sharon Morgan yn adnabyddus i
lawer ohonom gan ei bod yn actores o fri. Mae wedi bod yn actio ar lawer
o ddramâu ac operâu sebon ar S4C a llawer o sianeli eraill, er
enghraifft, hi oedd Martha yn y ffilm boblogaidd ddiweddar ‘Martha, Jac
a Shanco’ a bu’n action hefyd yn y ffilm ‘Gadael Lenin’ a
‘Pobol y Cwm’.
Cawsom drafodaeth dda iawn gyda hi ynglŷn â’i gyrfa a’i datblygiad hyd
heddiw. Darganfuwyd ei bod yn fenyw llwyddiannus iawn. Mi wnaethom ofyn
llawer o gwestiynau gwahanol iddi - un o’r rhain oedd. “Pryd ddechreuodd
eich
diddordeb mewn actio?” Yr ateb a gawsom oedd “Dechreuodd fy niddordeb
pan o'n i'n dair
oed mae'n debyg pan o'n i'n arfer perfformio ar ford y
gegin i gynulleidfa fach iawn sef fy Mam a'm mrawd. Roedd fy mrawd yn
mynd a het o gwmpas y gynulleidfa
anferth ddychmygol oedd yn rhannu'r perfformiad gyda ni! Wedyn tra o'n
i'n byw yng Nglan y Fferi ger Caerfyrddin, o bedair i saith oed roedd fy
Mam yn cynhyrchu dramâu fel 'The Late Christopher Bean' a 'The Wishing
Well'.”
Roedd yn bleser mawr cael actores mor freintiedig yn yr ysgol ac fe
wnaeth pawb wir fwynhau. Hoffwn ddiolch i Mrs Lowri Davies, Miss Meinir
Wyn Jones, Mrs Siân Roberts Jones a Chwmni Theatr Genedlaethol Cymru am
drefnu ein bod yn cael y profiad o gyfarfod â Sharon Morgan.
Adroddiad
gan Mared Dafydd blwyddyn 12

Pencampwriaeth Rafftio y Byd
Dros yn
haf bu Mrs Nerys Blue, athrawes chwaraeon yn yr ysgol, yn cystadlu ym
Mhencampwriaeth Rafftio’r Byd yn Hwngari. Bu’n cynrychioli Prydain mewn
amryw o gystadlaethau a oedd yn gofyn am feistrolaeth ar nifer o
dechnegau. Ar ôl llwyddiant mewn nifer gwahanol o ddulliau gorffennodd
tîm menywod Prydain yn y drydydd safle gan gipio’r fedal
efydd.
Llongyfarchiadau i’r tîm ac yn enwedig i
chi Mrs Blue.
Ychydig o hanes un
ras gan Mrs Blue:
“Roedd
y ras ddygnwch yn boenus trwy orfod cyflawni 5 lap o’r dŵr gwyn ar lyn
gan orfod neidio allan o’r rafft a rhedeg lan grisiau gyda’r rafft cyn
neidio mewn i’r rafft eto er mwyn padlo lawr y dŵr gwyn. Cawsom
ddechreuad gwael a bu’n rhaid brwydro timau ar yr ochr chwith ac yna ar
yr ochr dde wrth fod 8 rafft yn dechrau gyda’i gilydd. Ond ar ôl y lap
gyntaf a rhai timoedd yn cael anlwc ar y dŵr gwyn fe symudo’n ni lan i’r
ail safle. Fe lwyddon ni i gynnal y safle yma er i’r Unol Daleithiau
ein gwthio’n galed a llwyddo i fynd heibio ni am ryw 20 eiliad cyn i ni
frwydro nôl i’r ail safle. Roedd Siapan tipyn ar y blaen ac amhosib oedd
ceisio am y safle 1af. Pedwar diwrnod bythgofiadwy!”

Taith Celf i Rwsia:
Yn
ystod gwyliau’r haf cafodd 10 o ddisgyblion o Gaerfyrddin siawns
anhygoel i fynd i St. Petersburg yn Rwsia, wedi iddynt dderbyn
ysgoloriaeth gelf. Dyma’r ail waith iddynt ymweld â gwlad dramor i
astudio celf gain ar ôl mynd i Fflorens y flwyddyn diwethaf. Fe fuodd
tri disgybl o Bro Myrddin ar y daith yma, sef
Mabli Eustace, Lowri
Roberts a Tom James. Cafodd y disgyblion siawns i astudio anatomeg,
athroniaeth ac yn arbennig, techneg
unigryw Rwsiaidd o arlunio a pheintio. Astudiwyd yr holl bynciau yma yn
y Repin Academy Of Arts sef yr academi gelf fwyaf yn Ewrop. Yn ogystal â
hyn aethon nhw i weld orielau enwog fel y Hermitage, nifer fawr o
balasau, er enghraifft, palas Mechikof a Mikhailofski a chael y cyfle i
drio nifer fawr o fwydydd Rwsia, yn enwedig eu pwdinau enwog!. Er mawr
syndod iddynt, fe fuodd y tymheredd rhwng 30 a 40 gradd selsiws trwy’r
cyfnod fuon nhw yn Rwsia ac oherwydd y nosweithiau ‘gwyn’ doedd yr haul
ddim yn machlud ac roedd y strydoedd yn orlawn trwy gydol y nos! Mae’n
amlwg eu bod wedi mwynhau a dysgu llawer iawn o’r profiad bythgofiadwy
yma.
Adroddiad gan Lowri Roberts Blwyddyn 12

Hwyl yn y Mwd
Ar
y 3ydd o Fedi , aeth criw o’r chweched dosbarth i Fae Morfa i wneud
amryw o weithgareddau dan ofal yr Athrawon. Cychwynnodd y bws yn brydlon
am 9
ac roedd pawb yn barod i fynd. Pwrpas y daith oedd datblygu’r
berthynas rhwng disgyblion y chweched. Cyrhaeddom yn brydlon am ddeg a
chafodd y disgyblion eu rhannu mewn i grwpiau. Yn anffodus, dechreuodd y
glaw ddisgyn wrth i ddechrau’r diwrnod. Roedd y cwrs mwd yn hwylus iawn
ac roedd yr athrawon hyd yn oed wedi mwynhau’r profiad. Ar ôl cinio,
aeth y naw deg o ddisgyblion yn ôl i’r gweithgareddau - aeth rhai i’r
môr, rhai i’r wal ddringo ac eraill i’r cwrs mwd. Roedd eu dillad yn
llawn mwd ond er gwaetha’r llanast roedd pawb wedi cael diwrnod
arbennig. Cychwynnon adre am bedwar o’r gloch gyda chriw o bobl wedi
blino’n llwyr. Profiad bythgofiadwy a diolch i’r holl drefnwyr!
Adroddiad gan Jac Thomas
ac Ioan Hughes, Blwyddyn 12

Y Garreg ar
y Clos

Cast y
sioe Y Garreg ar y Clos sy’n brysur ymarfer ar gyfer ei Sioe yn y Lyric,
Tachwedd 18fed ac 19eg. Cofiwch archebu eich tocynnau yn gynnar!


|