Newyddion Ysgol Bro Myrddin
Ysgoloriaethau: Mae’r flwyddyn ysgol yn prysur ddirwyn i ben a buan y byddwn yn ffarwelio â disgyblion
Blwyddyn 13 sydd ar hyn o bryd yn paratoi ar gyfer eu harholiadau terfynol yn yr ysgol. Mae nifer helaeth wedi sicrhau llefydd mewn colegau. Llongyfarchiadau i’r disgyblion canlynol am ragori yn eu harholiadau mynediad i brifysgol. Enillodd Heulwen Evans wobr teilyngdod gwerth
tair mil o bunnoedd i astudio’r Gyfraith ym Mhrifysgol Bangor; Eleri Jenkins, ddwy fil, pum cant o bunnoedd i astudio Cymraeg ym Mhrifysgol Bangor; Heledd Edwards, fil o bunnoedd i astudio Busnes a Rheolaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth a Hanna Hopwood a Siôn Ifan bedwar can punt yr un i astudio’r Gymraeg yng Nghaerdydd.
Tlws y Llenor: Cafodd Gweirydd Davies o Flwyddyn 11 anrhydedd arbennig yr wythnos ddiwethaf pan enillodd Dlws Llenor yr Ifanc ynghyd â gwobr ariannol yn Eisteddfod Rhydlewis am ysgrifennu stori fer. Tipyn o gamp o ystyried bod dros drigain wedi cystadlu a’i bod yn gystadleuaeth i lenorion dan 25 oed.
Gwobr am gyfieithu: Bu grŵp o ddisgyblion Blwyddyn 12 yn gweithio ar brosiect ar y cyd â Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc. Y bwriad yw cystadlu am wobr Defnyddio’r Gymraeg ym Maes Iechyd Meddwl. Bu Rhian Jones, Sioned Powell, Sarah John, Sam Amesbury, Rhys Davies a Mathew Anthony yn cynhyrchu adnoddau ar gyfer siaradwyr Cymraeg ynghyd â phecyn y bydd gweithwyr proffesiynol a mentoriaid ysgol yn gallu ei ddefnyddio gyda phlant a phobl ifanc.
Amazing Grace: Trefnwyd taith i Theatr Elli i ddisgyblion Blwyddyn 9 gan yr Adran Addysg Grefyddol i weld y ffilm newydd. Profiad ysgytwol oedd gweld erchylltra’r fasnach caethweision a’r gwrthwynebiad i William Wilberforce wrth iddo geisio diddymu caethwasiaeth. Dysgwyd am gefndir John Newton, y capten llong i gaethion a gyfansoddodd yr emyn Amazing Grace o ganlyniad i’w edifeirwch.