Newyddion Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin

 


 

NOSON WOBRWYO CAVS:
Nos Fercher 2/12/09 cynhelir Noson Wobrwyo CAVS yn y Mountain Gate, lle derbyniodd Elin Daniels, Shona Humphreys, Llinos Thomas ac Alaw Ifans dystysgrif am waith gwirfoddol o 50awr (10 wedi ennill tystysgrif i gyd - ond rhain aeth i'r noson wobrwyo). 60 arall wedi ennill tystysgrif ysgol am wneud 20awr o waith gwirfoddol...

Sesiwn gyda’r Sgarlets

Cafodd y disgyblion gyffro arbennig ar ddydd Llun y 30ain o Dachwedd pan ddaeth chwaraewyr tim rygbi'r Sgarlets Llanelli mewn i’r ysgol er mwyn cwrdd â’r disgyblion. Roedd y tîm yn ddigon parod i arwyddo lluniau, a chymryd cwpwl o luniau i’r cefnogwyr brwd yn ein mysg.  Yn sicr, fe roddodd yr ymweliad tipyn o sbarc i’n dydd Llun. Nid yn unig y tîm rygbi oedd yno, ond fe ddaeth radio Sir Gaerfyrddin a BBC Wales i ymweld â’r ddigwyddiad yn yr ysgol ar brynhawn eithaf gwahanol i’r arfer. Ymysg y tîm oedd y cyn ddisgyblion Rhys Priestland, Kenneth Owen a'r seren fwyaf ohonynt y capten, Stephen Jones. Achlysur cofiadwy iawn i rai disgyblion rwy’n siŵr wrth gyfarfod â’u harwyr.

 

Roedd yn amlwg i weld bod pawb wedi mwynhau sgwrsio a chyfarfod gyda’r tîm.  Derbyniodd y cefnogwyr hefyd docynne hanner pris i ymweld â’r gêm nos Wener, Rhagfyr 4ydd yn erbyn Caeredin. OGI OGI OGI! OI OI OI!!

 

PICTON yn y dŵr

Mae Daniel Picton Jones, disgybl yn y chweched wedi bod yn chwarae polo dwr ers yn saith mlwydd oed. Mae o wedi bod yn llwyddiannus iawn dros y blynyddoedd wrth fod yn aelod o dim polo Caerfyrddin, Cymru a’r Deyrnas Unedig erbyn hyn. Yn gynharach eleni fe gafodd Daniel ei gap cyntaf dros y Deyrnas unedig wrth chwarae mewn twrnament yn Twrci yn erbyn Ffrainc, Wcrain, Twrci tim A a B a’r Almaen. Ar ddiwedd y twrnament llwyddodd y tim i ddod yn bedwaredd allan o chwech.

 

Ar y 3ydd o Ragfyr mae Daniel yn mynd i geisio cael mwy o lwyddiant wrth fynd allan i Wlad Pwyl i chwarae yn erbyn clybiau dros Ewrop gyda gweddill  tim y Deyrnas Unedig.

 

Y Cyngor Ysgol

Mae wedi bod yn dymor prysur unwaith eto i’r cyngor ysgol.  Ar ddydd Llun, 23ain o Ragfyr aeth y cyngor ar ymweliad i Barc y Sgarlets i gynhadledd arbennig ar gyfer cynghorau ysgol.  Bu’r disgyblion hynaf yn ran o sesiwn cynghori gyda chynghorwyr lleol a braf oedd cael gwahodd y prifathro a’r pennaeth cynorthwyol newydd i ddau o gyfarfodydd y cyngor.  Mae’r disgyblion yn edrych ymlaen nawr i drefnu ymweliad â chyngor ysgol arall a threfnu gweithgaredd codi arian i elusen. 

 

Diwrnod Plant mewn angen 2009 

Fel rhan o ddathliadau i godi arian i blant mewn angen y  flwyddyn hon fe ddaeth blynyddoedd 7-11 i’r ysgol gan wisgo teis lliwga ac fe gafodd y chweched dosbarth ddiwrnod gwisg ffansi o dan y thema ‘Disney’. Gwelwyd amryw o wisgoedd yn y chweched o fôr ladron i Mickey Mouse. 

Gwerthwyd cacennau melys amser egwyl er mwyn hybu cronfa yr apêl. Yn ogystal â hyn fe aeth nifer o aelodau’r Gerddorfa linynnol i’r dre er mwyn diddori’r  cyhoedd wrth chwarae nifer o ganeuon Nadoligaidd  a  chodi fwy o arian.

Y cyfanswm a gasglwyd dros y diwrnod cyfan oedd £1076.77. Fe fydd hyn yn helpu nifer o blant yng Nghymru ac a’r  draws y byd.

Adroddiad gan Curon Howells ac Enlli Lewis.

  

Taith i’r cenhedloedd Unedig

Ar ddydd Mercher Tachwedd yr 18fed fe wnaeth grŵp gwleidyddiaeth blwyddyn 12 ymweld â chynhadledd cenhedloedd unedig ffug. Bwriad yr ymweliad oedd codi ymwybyddiaeth o’r CU ac o fygythiad cynhesu byd eang.

 

Cafodd blwyddyn 12 ei rhannu i mewn i ddau grŵp, roedd un grŵp yn cynrychioli De Affrica a’r llall yn cynrychioli Ffrainc. Fe dreuliwyd y dydd yn dadlau dros ac yn erbyn polisau rhyngwladol i gwtogi ar effaith cynhesu byd eang.

 

Cafodd y ddau dîm o Fro Myrddin eu camol am eu gwaith caled yn ystod y dydd ac fe ddiolchodd arlywydd y cyfarfod i bawb am ei gwaith caled. Roedd pawb o flwyddyn 12 yn cytuno eu bod wedi  mwynhau ac wedi dysgu llawer am rôl y cenhedloedd unedig.        


Tîm siarad cyhoeddus

Llongyfarchiadau gwresog i’r tîm siarad cyhoeddus sydd wedi mynd trwodd i rownd derfynol Cymru y Rotari. Aelodau’r tîm oedd Daniel a Steffan Hywel o dan arweiniad y cadeirydd, Gethin a dderbyniodd y wobr am y cadeirydd gorau yn y gystadleuaeth. Pob lwc iddynt yn y rownd derfynol.