Newyddion Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin

 

Jiwdo: Llongyfarchiadau mawr i’r disgyblion canlynol am eu llwyddiant ym mhencampwriaeth Jiwdo Ysgolion Prydain;  Fe ddaeth Catrin Davies o flwyddyn 9 yn drydydd o dan un ar bymtheg i ferched  a Gareth Davies o flwyddyn 7 yn drydydd o dan dair ar ddeg i fechgyn.  Yng nghystadleuaeth Pencampwriaeth Cymru, cipiodd Catrin Davies y wobr gyntaf, daeth Gareth Davies yn ail a Sioned Harries yn drydydd.  Da iawn chi! 
 

Llwyddiant i Gweirydd:
              (
Adroddiad gan Georgina Edwards Bl 12)

Cynhaliwyd gweithdy cyfansoddi ar gyfer cystadleuaeth Cyfansoddwr Ifanc Dyfed 2008 nôl yn yr Hydref ac aeth nifer ohonom o’r ysgol.  Pwrpas y bore oedd dysgu sut i gyfansoddi heb ddefnyddio’r ffurfiau traddodiadol, er enghraifft sgôr â lluniau yn lle nodiant traddodiadol.  Cawsom berfformiad gan grŵp o’r enw “Electric Voice Theatre” ym Mhontyberem, grŵp lleisiol sy’n arbrofi ar gerddoriaeth gyda chymorth technoleg sain.  Yn flynyddol, mae’r gystadleuaeth Cyfansoddwr Ifanc Dyfed yn cael ei selio ar grŵp preswyl y sir, sef EVT eleni.  Her cystadleuaeth 2008 oedd cyfansoddi darn arbrofol i’r EVT berfformio. Wedi’r cyflwyniad i gerddoriaeth arbrofol yn yr Hydref aeth y gyfansoddwraig breswyl, Lynne Plowman, o amgylch yr ysgolion i helpu’r cystadleuwyr.  Ar nos Sadwrn 19eg o Ebrill aeth criw ohonom i Theatr Mwldan yn Aberteifi i gefnogi Gweirydd Davies o flwyddyn 12 a oedd wedi cyrraedd rownd derfynol y gystadleuaeth.  Cawsom wledd o berfformiadau gan yr EVT o ddarnau’r 8 cystadleuydd oedd bellach yn y rownd derfynol.  Ar ddiwedd y noson, daeth Timothy Raymond y beirniad o Goleg Cerdd a Drama Brenhinol Cymru i’r llwyfan i gyflwyno’r feirniadaeth.  Enillydd gwobr y gynulleidfa, tarian Greenhalgh ac enillydd y wobr i fyfyrwyr Lefel A ac iau oedd Gweirydd Davies.  Llongyfarchiadau mawr iddo.