Newyddion Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin

 


 

Ymweliad gan Goleg Purcell:  Adroddiad gan Mared Dafydd Bl 10

 

Ar Ebrill y cyntaf 2009 fe ymwelodd myfyrwyr o Ysgol Purcell, Llundain â disgyblion Blwyddyn 10 TGAU Cerddoriaeth Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin. Yn y bore cynhaliwyd gweithdy cyfansoddi ar lwyfan yr ysgol.

Cafodd disgyblion y dosbarth eu rhannu i bedwar grŵp a oedd yn cynnwys amryw o offerynnau gwahanol, er enghraifft, telyn, clarinet, soddgrwth, ffidl, piano, gitâr drydanol, sacsaffôn, tiwba, llais, ffliwt a llawer mwy! Roedd y myfyrwyr o Lundain yn arbenigo yn yr offerynnau hyn felly roedd y profiad o gyd-weithio’n un arbennig iawn. Roedd gan bawb sawl syniad gwahanol a oedd yn bwysig iddynt hwy, ac felly roedd rhan fwyaf o’r syniadau yn dod oddi wrth ddisgyblion Bro Myrddin.  Trosglwyddwyd y syniadau hyn i ddisgyblion Ysgol Purcell er mwyn eu datblygu ymhellach. Felly roedd pawb yn cydweithio’n dda gyda’i gilydd.

 Y noswaith honno fe gynhaliwyd cyngerdd mawreddog yn neuadd yr ysgol i ddangos ein gwaith a thalentau eraill yr ysgol, a pherfformiwyd llawer o eitemau gan Ysgol Purcell hefyd. Hyfryd oedd clywed perfformiadau hynod safonol a graenus.  Daeth y darnau a gyfansoddwyd gennym yn ystod y bore yn fyw yn ystod cyngerdd y nos. Diwrnod a noson arbennig iawn.