Newyddion Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin

 

 

Dangoswch y cerdyn coch i hiliaeth:

Yn ddiweddar, rhoddwyd her i’r disgyblion i greu poster ar gyfer cystadleuaeth a drefnwyd gyda Chyngor Sir Caerfyrddin a sgwad y Sgarlets. Nod y gystadleuaeth oedd codi ymwybyddiaeth o hiliaeth a braf oedd gweld dwy o ddisgyblion yr ysgol yn dod i’r brig. Enillwyd y gystadleuaeth rhanbarthol gan Billie Rae 9-3 ac yn ail roedd Niamh Elain 9-3. Fe fydd y ddwy yn cael eu gwobrwyo gan un o sgwad y Sgarlets a bellach mae eu poster wedi cael eu trosglwyddo i’r gystadleuaeth genedlaethol. Pob lwc i’r ddwy.

 

Bardd ifanc:

Ar ddydd Llun, Mawrth y 21ain a hithau’n ddiwrnod cenedlaethol barddoniaeth rhoddwyd her i ddisgyblion yr ysgol gan Dr Llinos Jones i ysgrifennu cerdd ar unrhyw destun. Diolch i bawb a ymatebodd i’r her a braf cael llongyfarch yr enillydd William Pritchard o flwyddyn 8.


Dydd Iau diwethaf aeth disgyblion o flwyddyn saith ar drip i festri Capel Heol Awst, i weld cyflwyniad gan Gymorth Cristnogol:
Ar Ddydd Iau Mawrth 17fed, aeth disgyblion o flwyddyn saith ar ymweliad i Festri Capel Heol Awst, i gyflwyniad gan y Parchedig Tom Defis ar ran Cymorth Cristnogol. Buom yn dysgu am fywyd Jeremeiah, plentyn sydd yn byw ym Matopeni, Kenya. Dysgon ni fod Matopeni yn golygu ‘yn y mwd’, sy’n dangos pa mor llwm ydyw i gymharu â strydoedd cyfoes Nairobi.

Roedd yno dri gweithgaredd yn aros amdanom ni yn y festri, felly, wedi cael ein rhannu i dri grwp aethom o amgylch pob gweithgaredd yn eu tro. Roedd un gweithgaredd yn ymwneud gyda chartref Jeremeiah. Roedd caban tebyg i’w gartref yn Kenya wedi cael ei greu yn y festri i ni fynd mewn iddo. Sylweddolodd pawb pa mor fach oedd ei gartref, a oedd yn un ystafell a oedd yn cael ei rhannu rhwng pump person. Yn yr ail weithgaredd, roedd yno tua deg peth ar y bwrdd mewn llinell ac roedd rhaid i ni ddewis y pum peth pwysicaf i fod yng nghartref Jeremiah. Y trydydd gweithgaredd, oedd holi cwestiynau i’r Parchedig Robyn Samuel oedd yn esgus bod yn Jeremeiah, am ei fywyd ym Matopeni. Fe ddysgon ni bod rhaid iddo fynd i bentref gerllaw i gael dŵr a bod rhaid iddo dalu dau ddeg swllt am ddeg litr! Dysgwyd hefyd bod Jeremeiah yn cael cawod yn y pentref gerllaw ac er doedd dim rhaid i blant dalu am ymolchi, roedd yn rhaid i oedolion dalu. Roedd Jeremeiah yn mynd i’r ysgol erbyn chwech o’r gloch y bore ac yn dychwelyd am ar ôl pump o’r gloch y prynhawn. Dymuniad Jeremeiah oedd bod yn adeiladwr er mwyn helpu pobl eraill.

 

Roedd hi’n amlwg bod byw ym Matopeni yn gallu bod yn beryglus iawn. O dan ddarnau o bren yn y strydoedd roedd yna garthffosiaeth ffiaidd a llawer o bobl yn cael afiechydon wrtho. Roedd y toiledau tu allan i’w cartrefi, felly yn y nos oherwydd bod hi mor beryglus y tu allan, rhaid defnyddio rhywbeth o’r enw ‘flying toilet’, hynny yw, gosod carthion mewn bagiau plastig a’u taflu allan i’r stryd.

 

Bwriad Cymorth Cristnogol yw i helpu datblygu cyfleusterau Matopeni, er mwyn gwella safonau byw y bobl. Roedd y gweithgareddau yn ddiddorol, ond roedd clywed am hanes Jeremiah yn gwneud i ni sylweddoli ein bod yn cymryd popeth yn ganiataol. Yn dilyn yr ymweliad teimlodd pawb eu bod yn deall yn well beth yw gwaith Cymorth Cristnogol a faint maen nhw’n helpu pobl llai ffodus na ni.

 

Adroddiad gan Marged Ann Smith Blwyddyn 7

 

Diolch i swyddogion Cymorth Cristnogol, i swyddogion Heol Awst ac i Mrs Mary Parry am dynnu ein sylw at beth yw gwir angen pobl a phlant yn y byd sy’n datblygu.

Codi arian i Comic Relief

Mae Comic Relief yn elusen sy’n magu gweledigaeth o fyd gwell, mae am wireddu eu breuddwyd o fyd cyfiawn drwy godi miliynau o bunnoedd pob blwyddyn er mwyn newid bywydau cymaint o bobl. Mae’r elusen wedi bod yn gweithredu mewn dros 76 o wledydd ers 1985 er mwyn codi arian i ymladd tlodi ac anghyfiawnder cymdeithasol ar draws y byd. Mae Comic Relief eisoes wedi codi miliynau trwy eu hymgyrch Diwrnod Trwynau Coch - a dyddiau cyn i’r trwynau coch ymddangos ar wynebau'r cyhoedd, roedd Ysgol Gyfun Bro Myrddin yn barod yn brysur yn codi arian at yr elusen.

Roedd Dydd Gwener, Mawrth 18fed yn ddiwrnod arbennig wrth i bawb ddod ynghyd yn hwyl y diwrnod a gwneud pethau doniol i godi arian. Ond yn Ysgol Bro Myrddin, bu’r disgyblion a’r athrawon yn ddigon ffodus i gynnal wythnos llawn gweithgareddau doniol i godi arian at yr elusen. Er mwyn gwneud y broses o godi arian yn fwy diddorol, fe ddaeth aelodau’r chweched a’r athrawon i gytundeb pe byddai disgyblion y chweched yn llwyddo i godi dros £300 fe fyddai’n rhaid i’r athrawon gyfnewid eu lolfa hwy gyda lolfa’r chweched dosbarth am y diwrnod.

Roedd y syniad o’r athrawon heb goffi yn eistedd ar feinciau pren am ddiwrnod wedi sbarduno aelodau’r chweched i godi’r arian a daeth llwyddiant gyda’r disgyblion yn cyrraedd eu nod. Trefnwyd amrywiaeth o weithgareddau ar gyfer yr wythnos gan ddechrau gyda gemau pêl-droed rhwng bois y chweched a’r athrawon. Y chweched enillodd y gemau pêl-droed ac roedd hyn yn ddechreuad da i sail llwyddiant y chweched ar gyfer yr wythnos. Y diwrnod canlynol bu bechgyn hŷn yr ysgol (gan gynnwys ambell i athro) yn ddigon dewr i gael eu coesau wedi cwyro. Sioc oedd gweld sawl un yn awgrymu mannau eraill i gwyro - Gareth Spiers blwyddyn 12 yn cael tan ei gesail wedi cwyro a Hywel Evans blwyddyn 13 yn cwyro eu locsys! Cyflawnwyd bwriad y gweithgaredd sef llenwi’r bwcedi arian ond rhaid cyfaddef, cawsom adloniant arbennig yn gwylio rhai yn sgrechian yn ystod y gweithgaredd - megis Mr Gareth Jones!

Ar ôl sbri'r cwyro, cynhaliwyd sialens y llysoedd ar y dydd Mercher gyda phedwar cynrychiolydd o bob llys yn cystadlu i gwblhau’r cwrs her. Hengwrt a Peniarth daeth i’r brig gyda Ffion Jones (Hengwrt), Miss Tanner (Hengwrt), Simon O’leary (Peniarth) a Mr Harries (Peniarth) yn cwblhau’r gyflymaf ond Hengwrt enillodd y dydd. Llongyfarchiadau mawr iddynt hwy. Casglwyd llawer o arian hefyd wrth i’r chweched werthu cacennau i’r disgyblion, braf oedd gweld pawb wedi bod yn brysur yn coginio gan gynnwys ambell aelod o staff!

 
Clipiau Fideo ar safle Youtube yr ysgol

Roedd Diwrnod Trwynau Coch 2011 yn ddiwrnod bythgofiadwy i bawb gyda holl aelodau'r ysgol yn cyfrannu punt drwy wisgo gwisg ffansi o’r thema ‘beth roeddwn am fod pan oeddwn i'n ifanc.’ Yng nghanol y ‘superheroes,’ sêr pop a’r ‘spice girls,’ gwelwyd llawer o’r athrawon yn gwisgo fel disgyblion er mwyn gwir fyw bywyd disgybl yn lolfa’r chweched! Ymhlith yr athrawon hefyd roedd un o benaethiaid yr Indiaid Cochion, milwr swnllyd a lleian barchus. Er i’r athrawon fwynhau chwarae yn y cwrt canol, roedd yn amlwg eu bod yn methu ymdopi heb eu coffi a’u te, ac roedd y chweched dosbarth bellach am eu cwrt canol yn ôl - braf oedd cael trefn nôl yn yr ysgol erbyn y dydd Llun canlynol gan wybod ein bod wedi llwyddo i godi £1,085 ar gyfer Comic Relief.

Diolch i’r chweched ac i bawb a fu’n helpu i wneud yr wythnos yn gymaint o hwyl.

Adroddiad gan Catrin Anna bl12

 

Rygbi

Llongyfarchiadau i Rhian James 8-2 ar gael ei dewis i chware i dîm rygbi merched y Scarlets o dan 15 oed. Hefyd mae Rhian wedi chwarae yn erbyn yr Ospreys. Tipyn o gamp! Da iawn ti!

Llongyfarchiadau i Siôn Jones 8-2 am gael ei ddewis i fod yn gapten ar dîm rygbi'r Scarlets o dan 13 oed. Yn ddiweddar bu yn chwarae yn erbyn Dwyrain Caerdydd gan ennill o 28-14. Roedd rhagor o ddisgyblion yr ysgol yn chwarae yn yr un gêm hefyd sef Siôn Beynon, Callum Price, Rhys Minchin, Llŷr Fairurn ac Elliot Davies. Daliwch ati fois!


Llyfrgell Genedlaethol Aberystwyth:
Ar y 14eg o Fawrth, mwynhaodd deg o ddisgyblion blwyddyn wyth daith o amgylch Llyfrgell Genedlaethol Cymur, Aberystwyth dan ofal ein cyn bennaeth hanes Mr Owen Llywelyn sydd bellach yn swyddog addysg yn y llyfrgell. Gwelwyd nifer o bethau diddorol iawn yn cynnwys Llyfr Du Caerfyrddin a'r llyfr lleiaf erioed. Rhyfeddwyd ar yr holl archifau oedd yn y llyfrgell a'r holl silffoedd oedd yno i storio'r llyfrau! Cafwyd taith gofiadwy iawn.