Yr Eisteddfod Gylch : Ddydd Mawrth 26ain o Chwefror bu dros gant o ddisgyblion yr ysgol yn cystadlu ar lwyfan yr Eisteddfod Gylch yn Neuadd San Pedr. Braf oedd gweld cystadlu o safon uchel iawn yn ogystal â mwynhad ar wynebau’r bobl ifainc wrth berfformio. Llongyfarchiadau mawr i bawb a fu’n cystadlu. Fe fydd y disgyblion canlynol yn cynrychioli’r ysgol yn yr Eisteddfod Sir yn Neuadd Pontyberem ar y 14eg o Fawrth;
Elan Richards- Unawd merched Bl 7-9;
Llinos Emanuel a Siwan Jones – Deuawd Bl 7-9;
Claire Roberts – Unawd merched Bl 10-13;
Gethin Lewis – Unawd bechgyn Bl 10-13;
Heledd Evans a Lowri Howells – Deuawd Bl 10-13;
Gethin Lewis – Unawd sioe gerdd;
Llinos Emanuel – Alaw werin Bl 7-9;
Claire Roberts – Alaw werin Bl 10-13;
Cathryn Rees – Unawd llinynnol Bl 7-9;
Elan Ward – Unawd telyn Bl 7-9;
Gethin Lewis – Unawd chwythbrennau Bl 10-13;
Claire Roberts - Unawd llinynnol Bl 10-13;
Catrin Price a Ffion Bevan – Deuawd Offerynnol Bl 13 ac iau;
Nia Bevan, Naomi Rhys Ellis a Hawys Freeman – Ensemble hŷn;
Saran Richards – Llefaru unigol Bl 7-9;
Miriam Hopwood – Llefaru unigol Bl 10-13;
Parti Llefaru Bl 8;
Parti Llefaru Bl 11;
Guto Ifan a Nia Jones – Ymgom hŷn;
Mared Dafydd, Ioan Hughes, Steffan Cennydd
a Mathew Evans – Ymgom Bl 7-9;
Sian Jones – Monolog Bl 10-13;
Lleucu Walters – Dawns unigol i ferched Bl 7-9;
Tomos Davies – Dawns unigol i fechgyn Bl 7-9;
Sioned Elin Davies – Dawns ddisgo Bl 7-9;
Hannah McNeil, Ffion Scourfield, Claire Thomas, Gwennan Thomas – Grŵp dawnsio disgo Bl 10-13.
Dymuniadau gorau i bawb!