Newyddion Ysgol Bro Myrddin
Ennill y Talwrn! Dyna gamp disgyblion chweched dosbarth Ysgol Bro Myrddin ar gwrs a drefnwyd ar gyfer Adrannau Cymraeg Ysgolion Cymru yng Ngwersyll yr Urdd, Glan-llyn yr wythnos diwethaf. Rhan o’r adloniant nos oedd y talwrn dan ofal y Meuryn Andrea Parry a bwriedir cyhoeddi peth o’r cynnyrch yng nghylchgrawn Barddas. Ar wahân i hyn, cafwyd deuddydd o ddarlithoedd diddorol a chofiadwy gan enwogion megis Mihangel Morgan, Emyr Llewelyn, Alun Jones, Catrin Dafydd,yr Athro Gerwyn Williams, John Ogwen a Maureen Rhys. Wedi’r gweithdai a’r darlithoedd, roedd cyfle da i gymdeithasu â’r disgyblion eraill. Er bod y tywydd braidd yn oer a gwlyb, doedd dim yn mynd i atal y disgyblion rhag mwynhau ar y cwrs rhaffau - ac fe barhaodd yr hwyl i’r twmpath ar yr ail noson. Bu cystadlu brwd wrth ddawnsio’r ddafad gorniog, a gwelwyd dau o fechgyn Bro Myrddin yno tan y diwedd. Llongyfarchiadau mawr i Gareth Rees am ddod i’r brig. Ar ôl noson o ddawnsio bywiog, roedd pawb yn flinedig ac yn barod am eu cwsg cyn y daith hir n ôl i Gaerfyrddin. Roedd pawb wedi mwynhau yn fawr iawn ar y cwrs ac wedi elwa o gael cwrdd â beirniaid llenyddol ac awduron y maent yn eu hastudio ar y cwrs lefel A.(Adroddiad Eleri Jenkins)
Llun tim talwrn Bro Myrddin gyda Andrea Parry y Meuryn a Rachel, trefnydd y cwrs.
Cwmni Theatr Arad Goch: Ar y 15fed o Dachwedd cafwyd perfformiadau bywiog iawn oedd yn cwmpasu’r llon a’r lleddf gan y cwmni hwn yn Neuadd yr Ysgol. Roedd y perfformiadau’n seiliedig ar lyfrau newydd gan y to ifanc o awduron.
Plant mewn angen: Plant mewn angen: Codwyd cyfanswm o £282.73 o bunnoedd i gyd rhwng perfformiadau'r grwp llinynnol a gwerthiant siocled.
Ffair Lyfrau: Trefnwyd ffair lyfrau Cymraeg yn llyfrgell yr ysgol yr wythnos diwethaf a chafodd disgyblion gyfle i brynu’r teitlau diweddaraf.
Gwasanaeth Nadolig: Cynhelir Gwasanaeth Nadolig yr ysgol yn Eglwys San Pedr ar y 19eg o Ragfyr am 7.00pm. Croeso i bawb.