Ysgol Bro Myrddin
(Adroddiad Holly Kirk o’r Pwyllgor Eco)
Bu pwyllgor Eco’r ysgol yn fwy prysur nag arfer cyn y gwyliau. Y nod yw ennill gwobr efydd Ysgolion Eco a chan
fod tipyn o sylw yn y wasg am broblemau “eco’r” byd, penderfynwyd codi ymwybyddiaeth yr ysgol ynglŷn â’r problemau hynny drwy gynnal wythnos o weithgareddau. Cafwyd gwasanaeth Eco i lansio cystadleuaeth creu cod eco i’r ysgol fyddai’n cael ei arddangos ym mhob ystafell ddosbarth; cwis dynamig Blwyddyn 7 gyda gwobrau i’r enillwyr sef Grŵp Eli-eco, Grŵp Ffrindiau’r Byd a’r Tîm Ailgylchu. Un o’r
syniadau gorau gafwyd oedd bod pob dosbarth yn noddi anifail prin er mwyn cadw’r rhywogaeth yn fyw. Gwerthwyd siocledi organig, Masnach Deg amser egwyl a doedd dim ar ôl erbyn amser cinio. Ddydd Iau daeth y disgyblion yn eu gwisgoedd eu hunain mewn lliwiau gwyrdd neu frown gyda’r dewraf yn mentro mewn gwisg ffansi ar gyfer y gystadleuaeth. Yr enillydd oedd Huw Evans o Flwyddyn 10. Daeth cynrychiolydd o Ganolfan Eco Gorllewin Cymru, Tim Brew, i’r llyfrgell amser cinio i siarad â chriw o
ddisgyblion am gynhesu’r byd a dydd Gwener, daeth artist lleol o Goleg Sir Gâr i siarad am ennill cystadleuaeth River Island am greu dilledyn Eco. Dangoswyd ffolio o’i gwaith. Yn ystod yr wythnos hefyd yn y gwersi celf, lluniwyd coedwig o ddeunyddiau sydd wedi’u hailgylchu sy’n cael ei harddangos yn yr ysgol ar hyn o bryd. Bu disgyblion blwyddyn 7-9 yn ysgrifennu adroddiadau yn y gwersi Saesneg am sefyllfa eco’r ysgol gan dorri siapau traed o bapur ac ysgrifennu arnynt er mwyn dangos sut oedd y disgyblion yn gadael eu marc carbon ar y byd. Yn y dyfodol y bwriad yw creu prosiect “gwyrdd” ar gyfer yr ysgol, creu bwrdd Eco i gyhoeddi gweithgareddau’r pwyllgor. Hoffwn ddiolch i bawb a gynorthwyodd â’r wythnos ac am gydweithrediad y disgyblion.
Eisteddfod: Llongyfarchiadau i’r llu disgyblion sydd wedi llwyddo yn yr Eisteddfod Sir.
Rhif Cystadleuaeth 1af
2il
1 Cerddorfa Bro Myrddin 2 Unawd Chwyth Bl 7-9 Catrin Price Sioned Evans 3 Unawd Llinynnol Bl 7-9 Ffion Bevan 4 Unawd Pres Bl 7-9 Tom Scaife 5 Unawd Piano Bl 7-9 Sioned Evans Aelwyd H 6 Unawd Telyn Bl 7-9 Elan Haf Ward 7 Ensemble Bl 7-9 Caffi Cerdd Y Bro Myrddin 8 Unawd Chwyth Bl 10-13 Angharad Haf Lewis 9 Unawd Llinynnol Bl 10-13 Helen Roberts 10 Unawd Piano Bl 10-13 Gweirydd Davies 11 Unawd Telyn Bl 10-13 Ann Denholm 12 Deuawd Offerynnol Bl 13 ac Iau Catrin Price + Ann Denholm 13 Ensemble 15-25 oed Bro Myrddin 14 Unawd Merched Bl 7-9 Ceirios Davies 15 Côr Bl 7-9 Bro Myrddin 16 Grwp Llefaru Bl 7-9 Bro Myrddin 17 Alaw Werin Unigol Bl 7-9 Ceirios Davies 18 Llefaru Unigol Bl 7-9 Mared Dafydd 19 Unawd Cerdd Dant Bl 7-9 Ceirios Davies 20 Parti Bechgyn Bl 7-9 Bro Myrddin 21 Parti Merched Bl 7-9 Bro Myrddin 22 Deuawd Bl 7-9 Heledd Evans + Lowri Howells 23 Cyflwyniad Dramatig Bl 7-9 Bro Myrddin 24 Deuawd Cerdd Dant Bl 7-9 Siwan Jones + Beca Davies 25 Ensemble Lleisiol Bl 13 ac iau Bro Myrddin 26 Monolog Bl 10-13 Sion Ifan 27 Côr Bl 13 ac iau Bro Myrddin 28 Llefaru Unigol Bl 10-13 Miriam Hopwood 29 Unawd Merched Bl 10-13 Rita Bevan 30 Unawd Bechgyn Bl 10-13 Sion Ifan 31 Côr Bechgyn Bl 10-13 Bro Myrddin 32 Cân Actol Bl 7-9 Bro Myrddin 33 Alaw Werin Unigol Bl 10-13 Sion Ifan 34 Cyflwyniad Dramatig Bl 10-13 Bro Myrddin 35 Deuawd Bl 10-13 Hanna Hopwood + Catrin Lewis 36 Côr Merched Bl 13 ac iau Bro Myrddin 37 Grwp Llefaru Bl 10-13 Bro Myrddin 38 Unawd allan o sioe gerdd Bl 10-13 Sion Ifan
Noson Wobrwyo: Nos Fawrth y 27ain o Fawrth, croesawyd nifer o gyn ddisgyblion, disgyblion presennol, rhieni, llywodraethwyr ac athrawon i’r Neuadd gan Hanna Hopwood, prif swyddog, er mwyn dathlu llwyddiannau’r flwyddyn aeth heibio. Dyma’r tro cyntaf i’r Pennaeth, Mr Dorian Williams annerch noson wobrwyo ym Mro
Myrddin ac roedd yn addas mai’r cyn brifathro, Mr Eric Jones oedd y gŵr gwadd. Diolchodd Mr Jones yn arbennig am yr arlwy gerddorol a gafwyd ar ddechrau’r noson sef: detholiad o “Grease” gan Fand yr Ysgol; eitemau gan y corau iau, y parti bechgyn hŷn a’r côr hŷn; unawd ffliwt gan Catrin Price a datganiad offerynnol gan yr Ensemble Hŷn. Wrth annerch y gynulleidfa, cyfeiriodd Mr Jones at ddwy o’i hoff gerddi sef “Cofio” gan Waldo Williams a “Hon” gan Syr T.H. Parry-Williams. Pwysleisiodd mor bwysig yw cofio teulu, bro, cenedl, traddodiad a iaith waeth ble y byddwn wedi sefydlu yn y byd. Cyflwynwyd y prif wobrau gan Mr Jones fel a ganlyn: gwobr ysgol Bro Myrddin i Ruth Cumber; Sian Cumber; Shelley Humphries a Dyfan Williams; Gwobr Goffa Beti Hughes i Jessica Mills, Siwan Williams a Cerian Phillips; Tlws Gareth Evans i Daniel Williams; Tlws Gareth Evans(2) i Charlotte Hunt; Gwobr St Peters’ Players i Daniel Williams a Carys Davies; Tlws Coffa Megan a Myfanwy i Siwan Williams; Tlws Coffa Rhian Denby Jones i Holly Kirk a Rhian Jones; Tlws yr Adran Fusnes i Daniel Bowen; Tlws Andrew Rees i Rhiannon Owen a Hefin Robinson; Tlws Hugh Griffiths i Lloyd Humphries a Gareth Davies; Tlws Margaret Morris i Cerian Phillips a Tlws Elin Ruth Jenkins i Gwennan Jones. Cyflwynwyd hefyd dystysgrifau Safon Uwch a TGAU i’r disgyblion llwyddiannus. Gwnaed y diolchiadau gan Siôn Ifan, prif swyddog cyn gwahodd pawb i fwynhau’r lluniaeth ac i gymdeithasu.