Newyddion Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin

 

Dathlu Dydd Gŵyl Dewi
Ar y 1af o Fawrth bob blwyddyn, rydym yn dathlu ein nawddsant, Dewi Sant, a fu farw ar y diwrnod hwn yn 589 OC. Dathlwyd Gŵyl Ddewi ym Mro Myrddin eleni gyda gwasanaeth arbennig a neuadd yr ysgol dan ei sang. Cafwyd gwledd o adloniant gan gynnwys datganiad o Non Nobis Domine gan y côr hyn, unawd gan Lowri Howells a datganiadau llafar gan Beca Davies, Llew Hopwood a Steffan Cennydd. Cafwyd blas o waith un o arwyr Cymru T Llew Jones gan barti llefaru blwyddyn 7. Pleser oedd eu clywed yn llefaru’r hen ffefryn ‘Traeth y Pigyn.’ Yn ychwanegol clywid cerdd gyfarch i Dic Jones gan barti llefaru blwyddyn 12 a 13, gwaith y prifardd Tudur Dylan Jones. Ein gŵr gwadd oedd y Parchedig Towyn Jones a roddodd neges bwrpasol a phwysig i ni gyd am wneud y pethau bychain sydd mor hanfodol i’n bywydau. Braf oedd clywed am ei brofiadau yn y Coleg Celf pan oedd e’n ddisgybl yno a’i ddyfalbarhad wrth ddysgu hanes ein nawddsant. I orffen y gwasanaeth cawsom fôr o ganu gyda holl ddisgyblion yr ysgol yn canu darn côr yr eisteddfod sef Mr Duw.

Hoffem ddiolch i bawb am eu cyfraniad ac i’r Parchedig Towyn Jones am ei neges bwrpasol ar ddydd Gŵyl Ddewi.


Eisteddfod Ysgol Bro Myrddin 2011 : 

Ar ddydd Gwener, Chwefror 19eg cafwyd gwledd o ganu, dawnsio a llefaru yn yr Eisteddfod flynyddol.  Agorwyd y cystadlu gyda’r grwpiau offerynnol a llys Hengwrt oedd yn fuddugol yn y gystadleuaeth honno.  Siwan Dafydd o lys Hergest enillodd yr unawd 7-9 gyda Lowri Howells o lys Peniarth yn fuddugol ar yr unawd 10 i 13.  Y gymnast gorau oedd Jac Davies o lys Hengwrt.  Ffion o lys Llwydiarth a ddawnsiodd orau yn y gystadleuaeth ddawns disgo unigol.  Un o hoff gystadlaethau’r disgyblion yn sicr oedd y meimio i gerddoriaeth.  Sion Page, Hengwrt gyda’i feim o’r gân ‘Rwy’n Hapus’ gan Ifan Gruffydd ddaeth i’r brig.  Byddwn yn cofio’r gystadleuaeth hon am gyfnod hir!!  Y llefarwyr gorau oedd Hergest a’r dawnswyr gwerin gorau oedd Llwydiarth.  Cafwyd digon o chwerthin wedyn gyda chystadleuaeth y sgets a’r doniolwch mwyaf gyda llys Peniarth.  Dawnsio cyfoes lliwgar, byrlymus wedyn gyda llys Llwydiarth  yn cipio’r wobr.  Llys Hergest oedd yn fuddugol ar y grŵp pop.  Cafwyd uchafbwynt y cystadlu yn y prynhawn gyda Seremoni’r Cadeirio a’r Coroni Cymraeg a Saesneg.  Traddodwyd y beirniadaethau gan Mr Geraint Hughes a Miss Zelda Williams.  Braf oedd clywed bod teilyngdod yn y bedair gystadleuaeth.

 

Enillwyd y gadair Gymraeg gan Fflur Rhys o lys Hengwrt a’r gadair Saesneg gan Alex Osborne o lys Peniarth.  Sioned Martha o lys Hergest a enillodd y goron Gymraeg ac Aron Hughes o lys Hergest a gipiodd y goron Saesneg.   Cafwyd seremoni hyfryd i anrhydeddu’r llenorion.

 

Uchafbwynt y diwrnod yn sicr oedd cystadleuaeth y Côr pan welwyd pob un o ddisgyblion yr ysgol ar y llwyfan yn atseinio’r gân Mr Duw.  Llys Hengwrt oedd enillydd y gystadleuaeth honno.

 

Rhaid cofio, wrth gwrs, bod y disgyblion wedi paratoi’n ddiwyd cyn y dydd gyda chystadlaethau gwaith cartref di-ri.  Enillwyd cystadleuaeth gwaith cartref yr Eisteddfod gan lys Hergest ac enillwyd y cystadlaethau llwyfan gan lys Hengwrt.  Enillwyr tlws yr Eisteddfod am y gorau yn y cystadlaethau llwyfan a gwaith cartref oedd llys Hergest.  Llongyfarchiadau mawr i bawb a gyfrannodd at lwyddiant ysgubol y diwrnod.

 

Hoffem ddiolch fel ysgol i’r beirniad Mr Geraint Hughes am ei waith caled a di-lino ar hyd y dydd.