Newyddion Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin

 


 

Limrig Nadolig

 

 

Un dolig yn Ysgol Bro Myrddin,

Dihangodd y twrci o’r gegin,

Fe ddywedodd “so long”,

Dros y peiriant bing bong ,

A hedfan holl ffordd i Gaeredin.

 

Gan Manon Ifan

 

 

4 Wales/C england

Ar yr ail ar hugain o Dachwedd 2010 daeth saith o fyfyrwyr Prifysgol Y Drindod Dewi Sant draw i Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin i berfformio eu drama newydd “4 Wales/C england” sy’n sôn am S4C ddoe, heddiw ac yfory.

Ar ddechrau Tachwedd 2010 ysgrifennodd y cast -  Carley Bennington, Jobe Bruzas, Tomos Hopkins, Bethan Marsh, Elen Morgan, Simon Thomas a Nia Tudor lythyr at Mr Jeremy Hunt yn cwyno am y toriadau sylweddol i gyllideb S4C.  Yn y llythyr fe wnaeth y myfyrwyr sôn am eu sioe lle wnaethant fynegi eu pryderon dwfn am ddyfodol y sianel. Mae’r toriadau sy’n cael eu gwneud i’r unig sianel Gymraeg - S4C - yn effeithio ar lawer ohonom ac mae sicrhau dyfodol yr iaith Gymraeg yn dibynnu ar ddyfodol S4C. Mae angen i ni fel cenedl sicrhau na fydd y BBC yn cael dwyn ein sianel oddi arnom. Er bod y ddrama wedi ei selio ar hanes S4C roedd sawl elfen gyfoes yn cael eu portreadu yma. Defnyddiodd y criw dechnegau'r dramodydd Berlot Brecht yn sail i’r perfformiad ac mi lwyddodd y criw i gadw rheolaeth dda ar ei dechnegau gan eu bod yn byrfyfyrio’r perfformiad cyfan.

Cafodd  disgyblion drama blwyddyn 10, 11 a 12 gyfle i weld y ddrama arbrofol yma. Ar ôl y perfformiad roedd teimladau cymysg a chafodd pawb gyfle i fynegi eu teimladau a holi unrhyw gwestiwn oedd ganddynt i’r actorion a’r cyfarwyddwr. Er bod y ddrama wedi ei selio ar hanes S4C roedd sawl elfen gyfoes yn cael eu portreadu yma. Defnyddiodd y criw dechnegau'r dramodydd Berlot Brecht yn sail i’r perfformiad ac mi lwyddodd y criw i gadw rheolaeth dda ar ei dechnegau gan eu bod yn byrfyfyrio’r perfformiad cyfan.

Mwynhaodd pawb a dyma berfformiad a wnaeth i lawer ohonom feddwl am bwysigrwydd S4C a dyfodol yr Iaith Gymraeg.  Braf hefyd oedd cael croesawu criw ffilmio’r BBC i’r ddrama gan eu bod hwythau’n ffilmio ar gyfer ei rhaglen newyddion a Wedi 7.

Adroddiad gan Mared Dafydd

 

 

 

Y Garreg ar y Clôs – sioe gerdd Ysgol Bro Myrddin 

Ar ôl wythnosau diwyd o baratoi daeth penllanw i’r holl ymarferion ar ddydd Iau y 18fed a nos Wener y 19eg o Dachwedd.  Cafwyd tri pherfformiad gwefreiddiol o’r sioe gomisiwn Y Garreg ar y Clôs yn Theatr y Lyric, Caerfyrddin.  Sioe gyffrous, wreiddiol gan y sgriptiwr Mr Garry Nicholas, y cerddor a’n cyn brifathro Mr Eric Jones a’r prifardd Dr Mererid Hopwood oedd hon.  Cafwyd hanes etholiad a therfysgoedd Caerfyrddin yn 1831 trwy lygaid disgyblion yr oes fodern.  Cafwyd cyfle i gwrdd â chymeriadau lliwgar a diddorol y presennol a’r gorffennol a chyfle unigryw i flasu hen hanes y dref. 

 

Ar y prynhawn dydd Iau llenwyd y Lyric gan ddisgyblion ysgolion cynradd y dalgylch a braf oedd gweld eu hymateb i  olygfeydd megis golygfa’r dafarn a’r farchnad.  Rhyfeddwyd at y gwisgoedd, y llwyfan tro a’r môr o leisiau –  150 o ddisgyblion yr ysgol yn llenwi’r llwyfan.

 

Theatr lawn unwaith eto oedd yr hanes ar gyfer perfformiadau nos Iau a nos Wener.  Uchafbwynt paratoi diwyd a manwl a gafwyd. Rwy’n sicr y bydd y caneuon yn atseinio yn y cof am hir – caneuon megis ‘Un weithred, un.  Un llaw, un. Un llais, un.  Gyda’n gilydd yn gytun’ a  ‘Rhaid i ni gadw’r drefn,  cadw’r ffydd.’  Gosgeiddig oedd gwisgoedd y cyfnod a thrawsnewidiwyd llawer o’r cymeriadau nes eu bod yn anodd eu hadnabod.  Cafwyd unawdau a deuawdau cofiadwy iawn a dawnsfeydd bywiog.  Cefnogwyd yr actorion a’r cantorion gan fand profiadol a thrwy gydweithio ‘gyda’n gilydd yn gytun,’ fe gafwyd sioe wefreiddiol. 

 

Rhaid diolch i’r holl weithwyr – y gyfarwyddwraig Mrs Lowri Davies, y gyfarwyddwraig cerdd Mrs Meinir Richards a’r holl staff a disgyblion a fu’n cynorthwyo i lwyfannu’r sioe. 

 

 

Canlyniadau Pêl-rwyd a hoci Nos Fercher 10fed o Dachwedd yn

erbyn ysgol Maes yr Yrfa

 

Bl8  Colli 5-9

Bl9 Ennill 11-2

Bl10 Ennill 11-6

Bl11 Ennill 16-1

 

Hoci

Bl10  Ennill 2-1

Tîm 1af Ennill 5-0