Newyddion Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin
Ymweliad Catrin Dafydd
Ar ddydd Gwener, Mehefin 19eg daeth y bardd a’r awdures Catrin Dafydd i ymweld ag Adran Gymraeg yr ysgol. Cynhaliwyd gweithdai creadigol gan griw o flwyddyn 7 yn y prynhawn a chafwyd llawer o syniadau diddorol. Roedd yr awdures wrth ei bodd i ddeall bod rhai o’r disgyblion yn gyfarwydd â’i gwaith. Bu’n brynhawn buddiol a diddorol.
Gwaith Maes Blwyddyn 12 – Ysgol Bro Myrddin
Ar ddiwrnod braf o haf aeth disgyblion o ddosbarth Daearyddiaeth blwyddyn 12 draw i Oxwich yng Ngŵyr i wneud gwaith maes. Pwrpas y daith oedd cymryd mesuriadau ar hyd y traeth er mwyn gweld fel roedd ei nodweddion yn newid wrth fynd oddi wrth y morlin. Cymerwyd mesuriadau o broffil y traeth, planhigion, pridd, a’r tywydd.
Dechreuom wrth ymyl y traeth ac yna gweithio ein ffordd i ffwrdd o'r môr. Fe gymerodd hi tua 2 awr a hanner i ni gwblhau ein gwaith. Yr oedd yna ychydig o anhawster ar adegau am fod hi’n anodd cerdded mewn rhai llefydd ond yr oedd y tywydd sych yn help mawr i ni.
Am fod gan bawb swydd i wneud ein hunain yr oedd hi’n hawdd cwblhau’r dasg yn gyflym ac fe wnaethom hefyd weithio fel tîm yn effeithiol. Cawsom tuag awr i gael cinio ac i ymlacio wrth y traeth ac fe gyrhaeddom yr ysgol am tua 3:30 felly roedd digon o amser i ddal y bws ysgol!
Credaf fod y dasg wedi bod yn un ddiddorol iawn ac hefyd yn un hwylus. Yr oedd yn gyfle braf i gael gwneud gwaith maes a gwneud y gwaith ein hunain yn hytrach na darllen amdano yn y dosbarth. Credaf ei fod yn ffordd dda iawn o ddysgu.
Adroddiad Alaw Ifans Bl.12
Pwy yw’r Bobl Bwysig yn Ein Plith?
Ar ôl llawer o bleidleisio ac aros darganfuwyd pwy yw uwch-swyddogion yr ysgol yr wythnos diwethaf. Prif Fachgen a Prif Ferch 2009 fydd Alun Howells a Lowri Mai Evans. Y dirprwy prif swyddogion fydd Nia Griffiths, Catrin Wyn Davies, Gethin Lewis a Steffan Hywel Evans. Ein uwch-swyddogion eleni bydd Hawys Freeman, Naomi Rhys Ellis, Alaw Ifans, Mathew Bowen, Rhys Thomas, a Gareth Thomas. Pob lwc iddynt gyda’u cyfrifoldebau newydd.
Taith Antur Gwobr Dug Caeredin, Blwyddyn 11
Bu grŵp o 32 o ddisgyblion blwyddyn 11 yn cwblhau eu taith antur ar gyfer Gwobr Dug Caeredin ar ddydd Mawrth a dydd Mercher 23ain a 24ain o Fehefin. Fe gerddodd y grŵp cyfanswm o 26 cilomedr dros ddau ddiwrnod yn ardal Llyn Brianne, Llanymddyfri. Buon nhw’n gwersylla mewn pebyll dros nos a choginio prydau bwyd eu hunain i swper ac i frecwast. Roedd y profiad yn arbennig i’r disgyblion ac yn gyfle i ddysgu sgiliau newydd megis darllen map a chyfeiriannu. Cawson lawer o hwyl yn ystod y daith, heblaw am y gwybed bach oedd yn eu bwyta’n fyw!
GSUS LIVE
Wythnos diwethaf fe ddaeth bws i’n hysgol a fu’n destun siarad rhwng y disgyblion. Roedd y bws “GSUS LIVE” wedi dod i ymweld â blynyddoedd 7, 8 a 9. Yn y bws roedd cyfleoedd i ni e-bostio gyda chymeriadau â phroblemau. Cyn dewis beth i’w e-bostio, cawsom weld clipiau animeiddio o’r Beibl i’n helpu. Yn ychwanegol ar ddiwedd pob lefel roedd yna gyfle i wrando ar gân a gwneud cwis. Ei neges oedd bod Duw yma i bawb. Profiad gwych! Adroddiad gan Enlli Eluned Lewis 8-5
Ymwelydd
Cafwyd ymwelydd annisgwyl bore Llun. Ffrind pedwar coes busneslyd o ddrws nesaf a
ddaeth i’n gweld! Ond ar ôl cyrraedd yr ochr yma, sylweddolodd bod dim ffordd yn ôl i’w gartref. Cynhyrfodd y disgyblion trwy gydol y dydd ac achosi anrhefn rhwng y plant a’r athrawon. Cafodd gêm o rygbi gyda rhai o’r bechgyn cyn mwynhau mwy o borfa. Bu’n rhaid galw’r heddlu a’r RSPCA er mwyn ei reoli. Ond diwedd hapus sydd i stori’r ceffyl ac fe ddychwelodd yn ddiogel i’w gartref ochr arall y ffens. Adroddiad Elan Haf Ward 10-5
Yr ymwelwr amheus
Nad oedd yn gyfleus,
A achosodd llawer o hwyl a sbri.
Ond mae o gartref nawr,
Mr O ‘di 'coolo' lawr,
A dyma ddiwedd ein stori fach ni.
Gan Merched Bl.12