Newyddion Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin

 


 

Criced:  Llongyfarchiadau mawr i Jac Maynard o flwyddyn 9 sydd wedi cael ei ddewis yn is-gapten i dîm Criced Cymru o dan 14 oed.  Pob lwc!

 

Ras am Fywyd: 
 Ar ddydd Gwener, Mehefin 12fed bu’r ysgol yn casglu
arian ar gyfer apel Ras Am Fywyd Ymchwil Cancr.  Daeth y disgyblion i’r ysgol yn gwisgo dillad eu hunain mewn lliwiau pinc, coch a gwyn.  Dyma lun o ddwy o ferched yr ysgol oedd wedi rhedeg y ras ynghyd ag un athrawes.  Casglwyd y swm o £450.

 

Ffidil:  Llongyfarchiadau mawr i Cathryn Ann Rees o flwyddyn 8 am ymddangos yn chwarae’r ffidil ar raglen “Texaco Young Musicians of Wales”.  Dim ond tair ar hugain o gerddorion a ddewiswyd ar draws Cymru gyfan i gymryd rhan.  Da iawn.

 

Noson Offerynnol: 
Cynhelir Noson Offerynnol gan Adran Gerdd Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin ar Nos Fercher, Gorffennaf 1af 2009 am 7 o’r gloch yr hwyr.  Bydd cyfle i glywed amrywiol ensembles offerynnol yr ysgol.

Pris mynediad fydd £6 i oedolion a phris consesiwn yn £4.  Mae’r pris mynediad yn cynnwys lluniaeth ysgafn. Dyma gyfle i fwynhau talentau rhyfeddol y bobl ifanc yma cyn diwedd tymor.