Newyddion Ysgol Bro Myrddin - 26ain o Ebrill 2007
Eisteddfod Sir Gâr: Pleser o’r mwyaf oedd cael cyflwyno siec gwerth mil o bunnoedd i Gadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod yr Urdd Sir Gâr, Y Parchedig Tom Defis yr wythnos hon. Codwyd yr arian drwy gynnal diwrnod gwisg anffurfiol yn lliwiau’r Urdd ynghyd â gweithgareddau eraill ar Ddydd Gŵyl Dewi a thrwy werthu tocynnau raffl. Diolch i’r staff, y disgyblion a’r rhieni am eu cefnogaeth unwaith eto. Mawr yw’r disgwyl am yr Eisteddfod ac mae nifer fawr o’r disgyblion yn brysur iawn yn paratoi ar gyfer cystadlaethau a pherfformiadau. Os ydych am weld rhestr gyflawn o’r eitemau sydd wedi cyrraedd y rowndiau cenedlaethol, ewch i wefan yr ysgol ar www.bromyrddin.sirgar.sch.uk Yn ystod wythnos yr Eisteddfod, cofiwch ymweld â phabell Ysgol Bro Myrddin i flasu’r arlwy o weithgareddau amrywiol.
Ambiwlans Awyr: Bu dwy chwaer, Alys a Kelly Evans, yn sôn yn y gwasanaeth boreol am brofiad teuluol gawsant yn ddiweddar lle bu rhaid iddynt alw am wasanaeth yr Ambiwlans Awyr. Yn eu cyflwyniad, rhoddwyd darlun o’r math o alwadau y mae’r gwasanaeth hwn yn ymateb iddynt ynghyd â chefndir yr elusen bwysig hon. Er mwyn dangos eu gwerthfawrogiad, roedd y ddwy am godi ymwybyddiaeth eu cyd-ddisgyblion am y gwasanaeth a chodi swm anrhydeddus tuag at yr elusen. Y diwrnod canlynol, cafwyd diwrnod gwisg anffurfiol er mwyn cyrraedd y nod hwn.
Cynghorau Ysgol: Ers sawl blwyddyn bellach, mae gan ddisgyblion ysgol eu cynrychiolwyr ar gyngor ysgol. Daeth cyfle ddydd Llun diwethaf i aelodau Cynghorau Ysgolion Cynradd y Cylch i ddod i Fro Myrddin i gwrdd â’i gilydd ac i siarad ag aelodau Cyngor Ysgol Bro Myrddin. Cafwyd awgrymiadau buddiol iawn gan y cynrychiolwyr cynradd fel cynnwys map o Ysgol Bro Myrddin yn y dyddiadur ysgol er mwyn gwneud diwrnodau cyntaf yr ysgol yn fwy hwylus i’r disgyblion newydd.