Newyddion Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin

 


 

Iestyn Pencampwr Cymru

Ar y 18fed o Fawrth 2010, cynhaliwyd cystadlaethau yn ymwneud gydag adeiladwaith ac yn ei plith roedd cystadleuaeth i ddisgyblion 14-16 oed sydd yn dilyn cwrs Tystysgrif Sylfaenol mewn Swyddi Crefftau Adeiladu. Yn y sector yma daeth deuddeg o fechgyn o bob cwr o Gymru i Goleg Penybont-ar-Orwg i ddangos eu dawn o flaen pump o feirniaid craff a medrus. Roedd safon y gwaith yn uchel tu-hwnt ac ar ôl dros 5 awr o gystadlu, dyfarnwyd Iestyn Owen o Ysgol Bro Myrddin yn bencampwr Cymru. Y dasg oedd darparu fframwaith bren ac yna gosod teils seramic yn drefnus a thaclus yn union yn ôl y canllawiau. Cyflwynwyd y gwobrau gan Mr Roger Sylvester, Ymgynghorydd Addysg i sgiliau adeiladu a noddwyr y gwobrau oedd “Working Well Together” yn cael ei gynrychioli gan Mr Huw Llywelyn. Hoffai Ysgol Bro Myrddin ddiolch i Mr Huw Jones o Goleg Sir Gar ac Mr Alun Davies am ei weledigaeth ai cefnogaeth yn newisiad a hyfforddiant Iestyn.

 

Dathliad Dydd Gŵyl Dewi

Dathlwyd Gŵyl Ddewi ym Mro Myrddin eleni gyda gwasanaeth arbennig a neuadd yr ysgol dan ei sang. Dr Mererid Hopwood oedd ein gwestai gwadd a chymerodd ddarlun Pieter Bruegel “Cwymp Icarus” yn destun. Yn ei ffordd ddihafal ei hun fe wnaeth ddefnyddio’r darlun er mwyn ein hatgoffa i gyd o’r pethau bychain sydd mor hanfodol i’n bywydau. Cymerwyd rhan gan gynrychiolaeth o’r saith blwyddyn ysgol ac fe’m hatgoffwyd am gyfraniad ein harwyr cenedlaethol a’r hyn yn wir yw diffiniad Sant. Cafwyd cyfraniadau gan y corau, y parti dawns hŷn y parti llefaru a’r ensemble telynau. 

Rygbi

Llongyfarchiadau mawr i Daniel Thomas Blwyddyn 11 ar gael ei ddewis i garfan rygbi Cymru, dan 16.  Bydd yn cystadlu ym Mhencampwriaeth y 6 gwlad mas yn yr Eidal dros y Pasg.

 

Diwrnod y Llyfr 3ydd o Fawrth

Fel rhan o ddathliadau diwrnod y llyfr, daeth nifer o ddisgyblion o flwyddyn 7, 8 a 9 i’r llyfrgell er mwyn gwylio a gwrando nifer o awduron yn darllen rhannau o’i llyfrau ar-lein. Ar ddiwedd y clipiau fideo cafodd y disgyblion siawns i wneud cwis Accelerated Reader ar-lein am hanes y llyfr. Gofynnwyd i bob disgybl wnaeth gymryd rhan lenwi holiadur byr am y fideo a’i hoff lyfr Cymraeg a Saesneg. Roedd enwau pawb wnaeth gymryd rhan wedi ei roi mewn blwch, ac fe dynnwyd enwau Sara Griffiths 7-4 Aled Harries 8-5, enillodd y ddau becyn offer ysgrifennu.


 

Bedydd Blwyddyn 7

Fel rhan o waith Addysg Grefyddol ym mlwyddyn 7 un o’r themâu yw defodau derbyn bu 7-5 yn astudio bedydd baban. Er mwyn atgyfnerthu eu dysgu, un bore cawsom fedydd dosbarth ble cafwyd, tad a mam sef Calum Price a Rachael Dickson rhieni bedydd Rhys Minichin, Liam Jones a Martha Ifan. Cafwyd darlleniad o’r Beibl gan Tomos Morgan a Tomos Hughes a chân hyfryd ‘Haleliwia’ gan aelodau o’r dosbarth. Ein gweinidog oedd Ela James a wnaeth ei swydd yn wych. Efelychwyd gwasanaeth bedydd go iawn ac i ddirwyn y gwasanaeth i ben cafwyd lluniaeth bychan i ddathlu. Mwynhaodd pawb y profiad yn fawr.

 

Hawl i Holi Addysg Grefyddol

Dymuniad myfyrwyr Addysg Grefyddol y Chweched oedd cynnal Hawl i Holi a fyddai’n ymwneud gyda phynciau trafod y ddau faes llafur sef y Testament Newydd a Chrefydd yn y Byd Cyfoes. Ddydd Mawrth diwethaf cymerodd y Parchedigion Canon Patrick Thomas, Beti–Wyn James a Felix Aubel ran mewn sesiwn ddifyr dros ben. Cafwyd cwestiynau treiddgar ar gredoau am fywyd ar ôl marwolaeth, digwyddiadau’r Pasg ac uno enwadau i enwi ond rhai.  Daeth y cyfan i ben drwy holi’r panel am straeon diddorol o fewn eu gweinidogaeth. Diolch i bawb am eu cyfraniadau ac yn enwedig i’n gwestai gwadd.

 

Ysgoloriaeth i Brifysgolion

Llongyfarchiadau i’r canlynol am dderbyn Ysgoloriaeth i Brifysgolion - Steffan Llŷr Griffiths, Mair Harris, Mared Ifan a Miriam Jones.

 

Cystadleuaeth Goginio’r Urdd

Cynhaliwyd cystadleuaeth goginio’r Urdd ar y degfed o Fawrth yng Ngholeg Pibwrlwyd, Caerfyrddin. Y thema ar gyfer blynyddoedd 7, 8 a 9 oedd Cegin Gawl ac roedd rhaid paratoi a gweini’r cawl a rholiau bara mewn 1 ½ awr. Enillydd y gystadleuaeth oedd Angharad Thomas o ddosbarth 8-1. Ar gyfer blynyddoedd 10, 11,12 a 13 y themâu oedd Prydiau Tymhorol, sef paratoi coginio a gweini Tartenni Sawrus, Parseli Cyw Iâr Eidaleg a Salad tomato a Basil mewn 1½.  Llongyfarchiadau i’r  enillydd sef  Rhian Davies o flwyddyn 10. Da iawn chi ferched.

 

Tîm Gwyddbwyll

Llongyfarchiadau i’r tîm Gwyddbwyll a ddaeth yn drydydd yng nghystadleuaeth Cwpan Ysgolion Gorllewin Cymru yn Ysgol Olchfa ar y 24ain o Fawrth.

 

Canlyniadau Eisteddfod Sir 2010

Eisteddfota: Nos Lun 15fed o Fawrth a Dydd Gwener 19eg o Fawrth bu disgyblion yr ysgol yn cystadlu yn yr eisteddfodau Sir.  Dyma’r canlyniadau: Grŵp Dawnsio Disgo Bl 10-13: 1af; Dawns Ddisgo Unigol Bl 7-9: 1af Ffion Rebecca Evans; Dawns Werin Bl 7-9: 1af; Dawns Werin Bl 10-13: 2il; Dawns Werin Unigol i Ferched 15-25 oed: 2il Alaw Ifans; Dawns Werin Unigol i Fechgyn Bl 9 ac iau: 1af Llŷr Davies; Dawns Stepio i 2,3, neu 4: 2il Gareth, Carwyn a Tomos; Cerddorfa: 1af; Unawd Llinynnol Bl 7-9: 1af Catherine Rees; Unawd Chwythbrennau Bl 7-9: Niamh Elain; Ensemble Bl 7-9: 1af; Unawd Piano Bl 7-9: 2il Angharad Thomas; Unawd Chwythbrennau Bl 10-13: 1af Catrin Price; Unawd Pres Bl 10-13: 1af Thomas Scaiffe; Unawd Llinynnol Bl 10-13: 1af Claire Roberts; Unawd Piano Bl 10-13: 1af Manon James; Deuawd Offerynnol : 1af Catrin Price a Llywelyn Edwards; Unawd Merched Bl 7-9: 1af Elan Richards; Unawd Cerdd Dant Bl 7-9: 2il Sûan John; Grŵp Llefaru Iau : 1af; Grŵp Llefaru Hŷn: 2il; Parti Merched Iau: 1af; Llefaru Unigol Bl 7-9: 1af Enlli Lewis; Parti Cerdd Dant Bl 7-9: 1af; Deuawd Cerdd Dant Bl 7-9: Gwenan a Siwan; Unawd Alaw Werin Bl 7-9: 2il Enlli Lewis; Côr Iau: 1af; Deuawd Iau: 1af Elan ag Enlli; Côr Merched Hŷn:1af; Ymgom Bl 10-13 : Bro Myrddin; Unawd Cerdd Dant Bl 10-13: 1af Sioned Mair; Cyflwyniad Dramatig Bl 10-13: 1af; Llefaru Unigol Bl 10-13: 1af Saran Richards; Unawd Merched Bl 10-13 : 1af Llinos Emanuel; Côr Bechgyn Hŷn: 1af; Alaw Werin Bl 10-13: 1af Llinos Emanuel; Monolog Bl 10-13: Sioned Elin Davies; Unawd Bechgyn Bl 10-13: 1af Gethin Lewis; Côr Hŷn: 1af; Ensemble Lleisiol Hŷn: 1af; Parti Bechgyn Iau: 1af; Deuawd Hŷn: 1af Gethin a Ceirios; Unawd Sioe Gerdd Bl 10-13: 1af Gethin Lewis.