Newyddion Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin
Noson Agored
Unwaith eto eleni cafwyd noson agored lwyddiannus, wrth i Ysgol Bro Myrddin agor ei drysau i’r cyhoedd. Roedd y noson hon yn gyfle i’r ysgol ddangos yr ysgol ar waith. Cafwyd nifer o weithgareddau ar draws yr ysgol rhwng teyrngedau i T. Llew Jones yn yr adran Gymraeg i arbrofion anhygoel yn yr adran Wyddoniaeth. Dyma ychydig fwy am y noson.
Adran Fathemateg
Roedd yr adran fathemateg yn fwrlwm o hwyl a sbri yn ystod y noson agored. Cafwyd gwledd o weithgareddau mathemategol amrywiol i ddiddanu disgyblion bl.5 a 6, a phleser o’r mwyaf oedd gweld disgyblion y chweched dosbarth yn mwynhau eu hunain cymaint â’r plant Iau! Chwaraewyd gemau diri i gael y meddwl i weithio’n galetach, megis y “lindys” a’r gêm amcanddyfaliad, a syfrdanwyd pawb wrth i Mrs Carruthers arddangos ei phwerau hudol gan achosi i atebion y plant i ymddangos yn y balwnau uwchben! Llwyddiant ysgubol fu’r noson yn yr adran, a mawr obeithiwn gael profi’r un llwyddiant y flwyddyn nesaf.
CYSTADLEUAETH GOGINIO “FUTURE CHEF”
Yn ystod noson agored yr ysgol cynhaliwyd rownd gyntaf cysatadleuaeth goginio “Future Chef” 2010.
Roedd awr gan y disgyblion i baratoi, coginio a gweini pryd o fwyd i 2 berson, oedd yn costio dim mwy na £4.
Daeth Mr Ralph Pitts i feirniadu’r gystadleuaeth. Rhoddodd ganmoliaeth uchel i bob un gan ganmol safon uchel y canlyniadau yn ogystal a`r ffordd roedd pob un yn gweithio.
Ar ôl llawer o ddyfalu, dyfarnwyd Owain Davies yn gyntaf, gyda’i bryd blasus o - Cyw iâr wedi stwffio â chaws a sawrlysiau a`i lapio mewn cig moch, gyda llysiau a thatws. Bydd yn mynd ymlaen i gystadlu yn y rownd nesaf ddiwedd Mis Tachwedd pan fydd angen iddo baratoi pryd 2 gwrs i 2 berson, yn costio dim mwy na £6. Rydym yn dymuno pob lwc iddo.
Yn ail agos iawn daeth Luke Mistry, - Cyri cyw iâr, tatws sbeislyd a reis.
![]()
Yn y llun o'r chwith i'r dde -
Megan Jones, Rhian Davies, Owain Davies (enillydd), Carwyn Jones, (cefn) Mr Ralph Pitts, Luke Thomas (cefn), Luke Mistry (ail), Lowri Jones, Sara Non Thomas a Mrs Nest Rees (athrawes).
Adran Addysg GrefyddolGwersyll y Carcharorion yn Henllan oedd thema'r Adran Addysg Grefyddol. Cafodd ei arwain gan ferched brwdfrydig 8-1 gyda phwynt pŵer a chwis. Roedd disgyblion Bl.7 hefyd yn brysur yn cyflawni tasgau ar y gwersyll gan y buon yn ymweld â Gwersyll y Carcharorion yn Henllan y bore hwnnw. Llwyddiant ysgubol i ddisgyblion ar staff unwaith eto.
Llongyfarchiadau
Llongyfarchiadau i Alun Howells ar ennill ei gap cyntaf i dîm Rygbi’r Gynghrair Cymru dan 18 yn erbyn yr Alban a Lloegr. Canlyniadau'r gemau oedd :-
Cymru 34 - Alban 6Cymru 32 - Lloegr 25
Fel rydych siŵr o fod yn gwybod, mae Alun yn brif fachgen ac hefyd yn gapten ar dîm Rygbi 1af yr ysgol.
Cyflwyniad Parch a’i rôl mewn cymdeithas
Nid yw bywyd yn hawdd!! Mae’n siŵr eich bod yn clywed hyn o ddydd i ddydd ond y dyddiau yma mae llawer o bwysau ar ieuenctid sydd yn ein plith. I helpu gyda hyn mae siarad a thrafod eu problemau yn ffordd o wynebu a datrys pethau.
Yn rhan o hyn ar y 8fed o Hydref cynhalwyd cyfarfod cwnsela Sir Gaerfyrddin ym Mharc y Strade Llanelli. Ar ran yr ysgol roedd y prifathro yn rhoi cyflwyniad am barch, a sut i ysgogi atal gangiau treisgar. Yn ychwanegol dywedodd Ann Jones, cwnselydd yr ysgol am ei hanes fel cwnselydd, a’r hyn yr oedd yn elwa o’i phrofiadau.
I gyfleu sefyllfaoedd real yn yr ysgol, fe wnaeth disgyblion o flwyddyn 9 berfformio drama fer i’r gynulleidfa. Roedd yn cynnwys cymeriad o’r enw ‘Gaz’, a oedd yn ei chael hi’n anodd gydag ambell i athro. Roedd yn bwlian eraill, yn dangos amharch at ei gyd-ddisgyblion a hyd yn oed rhai athrawon. Ond, ceisiodd y criw ddangos, trwy’r ddrama, mai ychydig o barch ato ef oedd ei angen i’w gael i ymddwyn yn well. Roedd y pennaeth blwyddyn yn ei helpu, gan roi cymorth a chyngor ymarferol iddo. Oherwydd hyn, roedd ‘Gaz’ yn dangos parch ati hi hefyd, a ddim yn bihafio’n wael.
Cafodd y gynulleidfa wledd o wybodaeth, hiwmor a dealltwriaeth allan o’r ddrama hon. Gyda thipyn o help gan Mrs.Lowri Davies, fe wnaeth y disgyblion lwyddo i ddarbwyllo’r gynulleidfa pa fath o fywyd mae rhai disgyblion fel ‘ Gaz’ yn ei gael!
Y disgyblion a gymerodd rhan yn y perfformiad oedd Llewelyn Hopwood, Enlli Eluned Lewis, Megan Mai Lewis, Sofia Rizzi, Mia Peace, Mirain Ifan, Fiona Phillips, Lowri Thomas, Steffan Dafydd Jones a Dafydd Hywel.
Cyngerdd Nadolig yr Ysgol
Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin yn cyflwyno
‘Atgof o’r Ser’ yng Nghapel Y Tabernacl, Caerfyrddin.
Nos Fercher Rhagfyr 16eg am 7.00 y.hUnawdwyr: Aled Edwards a Helen Gibbon.
Tocynnau: Oedolion -£6.00 Plant- £4.00
Ffon 01267 234829
Ras Peli Ping PongAr ddydd Iau 22ain o Hydref, yn ystod yr awr ginio roedd bwrlwm yn yr arhosfan bysiau. Roedd yna gonau a rhwyd las ar bwys y giatiau mawr. Roedd y râs beli ping pong yn barod i ddechrau! a phlant yr ysgol yn gynulleidfa frwdfrydig. Pan gafodd y peli eu gadael allan o’r bag roeddynt fel afon i’w gweld yn rowlio i lawr y ffordd. Llwyddodd y digwyddiad gwahanol i godi arian i‘r Gymdeithas Rhieni ac Athrawon.
Chwaraeon
Pencampwriaeth nofio BrianneLlongyfarchiadau i’r canlynol am eu llwyddiant ym mhencampwriaeth nofio Brianne. Maent yn mynd ymlaen i gynrychioli Brianne ym mhencampwriaeth Dyfed:-
Hannah Davies Bl7
James Jones Bl8
Daniel Reynolds Bl 8
Lewis Jones Bl9
Steffan Williams Bl9
Rhys Meredith Bl9
Beth Jones Bl9
Charlotte Tucker Bl10
Daniel Jones Bl 12
Rhys Evans Bl 12
Rygbi
Canlyniadau rygbi wythnos yma yn erbyn:-
Maes yr Yrfa
Nos Fawrth 3ydd o Dachwedd.
Bl .7 yn Maes yr Yrfa. MYY 32 BM 27
Nos Fercher 4ydd o Dachwedd
Yn Bro Myrddin
BL.9 BM 22 MYY 0
BL.10 BM 45 MYY 17
Tregib
Dydd Mercher 11eg o Dachwedd
Bl 7 BM 34 – Tregib 5
Bl 8 BM 36 – Tregib 10
Pêl-rwyd
Nos Fawrth y 6ed o Dachwedd
GWENDRAETH
BL.8- ennill 7-3
BL.10-ennill 15-3
BL.11-ennill 10-4
Nos Fawrth y 13 o Dachwedd
DYFFRYN TAF
Bl7.Colli 5-20
Bl.8 Colli 6-13
Bl.9 Ennill 12-8
Bl.10 Ennill 18 – 5
Bl. 12 / 13 Colli 7-9
Hoci
Nos Fawrth y 13 o Dachwedd
DYFFRYN TAF
Bl.10 Ennill 2-0
Bl. 12 / 13 Colli 0-2
Adroddiad o Ddarlith Cynhadledd Coleg Prifysgol Bangor
Daeth nifer fawr o ddisgyblion o wahanol ysgolion Sir Gaerfyrddin, a oedd wedi dewis gwneud cerdd fel un o’i pynciau AS neu lefel A at ei gilydd i Ysgol Bro Myrddin ar yr ail ar bymtheg o Fedi 2009. Dechreuwyd y diwrnod yng ngofal Mr Wyn Thomas sef un o ddarlithwyr cerdd presennol yng ngholeg Prifysgol Bangor. Cafwyd darlith hynod ddiddorol ar yr adfywiad cerddorol yng Nghymru’r 20 ganrif.
Soniwyd yn y ddarlith am nifer o wahanol agweddau yn hanes cerddoriaeth Cymru yn yr 20fed ganrif. Bu sôn am Henry Walford Davies a’i angerdd tuag at gerddoriaeth yng Nghymru gan nodi fod Cymru yn wlad dair ieithog – yn wlad a oedd yn siarad Cymraeg, Saesneg a cherddoriaeth. Dysgwyd am ei araith yn Rhif 10 Downing Street i Brif Weinidog y cyfnod – y Cymro, David Lloyd George. Araith i berswadio Lloyd George i gynorthwyo Cymru yn ariannol er mwyn cael gwell adnoddau i godi safon amatr cerddoriaeth yng Nghymru ydoedd.
Canolbwyntiwyd yn yr araith ar ddylanwadau ar gerddoriaeth Cymru’r 20fed ganrif. Siaradwyd am bump agwedd yn benodol – y dylanwadau ar gerddorion, arbenigwyr ym myd addysg, y cyrff cyhoeddus, noddwyr a’r bobl cyffredin. I fodloni’r pwynt cyntaf sef y dylanwad ar gerddorion, dysgom am y pianydd a’r gantores a ddatblygodd yn gyfansoddwraig, Morfudd Llwyn Owen (1891 – 1918) a’i hymrwymiad i bob math o gerddoriaeth gan gynnwys caneuon gwerin ac emynau. Siaradwyd am ei dylanwad gref hi ar gerddoriaeth Gymreig y cyfnod.
Yna, aeth ymlaen i sôn am Dr. John Lloyd Williams. Soniwyd am ei ddiddordeb ym myd yr alawon gwerin a’i debygrwydd i Bela Bartok a Zolton Zodaly o Hwngari. Dywedwyd y daeth alawon gwerin yn bwysig yn yr 20fed ganrif gan ei bod yn ysbrydoli nifer o gyfansoddwyr i drin a thrafod alawon cyfarwydd a chreu trefniant e.e Mervin Burtch.
Ar ol sôn am y cerddorion, canolbwyntiwyd ar yr addysg gerddorol yng Nghymru neu’r diffyg addysg safonol cyn ymddangosiad a chymorth y chwiorydd Gwendoline Davies a Margret Davies. Trwy eu gwaith caled i hyrwyddo addysg gerddorol yng Nghymru cafodd pob ysgol ymg Nghymru beiriant gramaffon, recordiau gramaffon, system berepatetig a pherfformiadau byw o waith clasurol.
Trodd y ddarlith i sôn am y noddwyr. Dysgwyd fod Eisteddfod Genedlaethol Cymru wedi chwarae rhan fawr yn hybu cerddorion ifanc wrth eu comisiynu i gyfansoddi caneuon amrywiol i’r eisteddfod. Dysgwyd hefyd bod BBC Cymru wedi noddi cerddoriaeth a cherddorion cymreig o 1930au ymlaen yn ogystal â Chyngor Celfyddydau Cymru a’r Urdd.
Daeth y darlith i ben drwy sôn am y gwahaniaeth rhwng cerddoriaeth y 19eg ganrif a’r 20fed ganrif. Gwelwyd fod llawer iawn mwy o gyfansoddwyr a pherfformwyr proffesiynol ac amatr erbyn yr 20fed ganrif ac roedd gan y gerddoriaeth broffil ryngwladol. Yr unig broblem oedd bod yn rhaid dewis a dethol erbyn yr 20fed ganrif oherwydd y twf aruthrol yn y cyfansoddwyr a pherfformwyr safonol. Dywedwyd bod Cymru yn torri ffin newydd erbyn yr 20fed ganrif hefyd gan adael ei farc yn y maes pop Cymreig. Chwaraewyd “Chwarae’n troi’n chwerw” gan Caryl Parry Jones i gloi’r ddarlith ar nodyn calonogol i bwysleisio’r neges mai ni yw dyfodol cerddoriaeth Gymreig yng Nghymru heddiw.
Rebeca Davies a Heledd Evans Bl.12