Newyddion Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin
Taith newydd: Mae hefyd yn ddechrau newydd sbon i dros gant o ddisgyblion o flwyddyn 7 sy’n dechrau ar eu cyfnod yn Ysgol Bro Myrddin. Rwy’n siŵr y byddant yn ymgartrefu’n fuan iawn yn ein plith.
Swyddogion 2009-10: Ar ddechrau blwyddyn ysgol newydd fel hon penodwyd 12 o’r disgyblion hynaf i gynrychioli’r ysgol ar Bwyllgor y Chweched Dosbarth. Y Prif swyddogion am eleni fydd Lowri Evans ac Alun Howells, ac yn gefn i’r ddau fydd y Dirprwy Brif Swyddogion sef Catrin Wyn Davies, Nia Griffiths, Steffan Hywel Evans a Gethin Lewis. I gwblhau’r tîm y mae chwe uwch-swyddog, sef Naomi Rhys Ellis, Hawys Freeman, Alaw Ifans, Mathew Bowen, Gareth Thomas a Rhys Thomas. Pob lwc iddynt i gyd!
Cyfryngau: Llongyfarchiadau mawr i Siwan Fflur Dafydd 8-1 sydd wedi ennill prif ran mewn cartŵn newydd ar S4C, ‘Wibli Sochyn y Mochyn’. Mae Siwan yn lleisio’r cymeriadau Katy a Truth, sef ffrindiau Wibli. Byddwn ni i gyd yn edrych ymlaen at glywed ei llais.
Llongyfarchiadau gwresog i Steffan Cennydd, blwyddyn 9 a Miall Howells, blwyddyn 8, sydd wedi ennill rhan ym ‘Mhobl y Cwm’.
Chwaraeon: Braf yw llongyfarch y canlynol ar eu llwyddiant ym Mhencampwriaeth Cenedlaethol Athletau Ysgolion Cymru:
Rheon James, Blwyddyn 12- cyntaf yn y shot a’r ddisgen; Glen Elsdon, Blwyddyn 12- ail yn y naid hir a thrydydd yn y 400m; Elliw James, 10-6 - ail yn y morthwyl; Dafydd Williams, Blwyddyn 13 - ail yn y naid driphlyg; Rhiannon Plant, 11-3 - ail yn y naid uchel, Ronan Llyr, 10-3 - trydydd yn y 1500m; Ffion Rees, Blwyddyn 12 - pedwerydd yn y naid hir; Bethan Phillips, Blwyddyn 10- trydydd yn y tim cyfnewid 4 x 100m a Jonathan Gardiner, - seithfed yn y siot.
Llwyddiant Carati Catrin Mair Davies: Bu Catrin Mair Davies o flwyddyn 10, Ysgol Bro Myrddin yn cystadlu yn y gystadleuaeth “UK School Games in Wales.” Bu yn cystadlu rhwng, dydd Iau y 3ydd o Fedi hyd at ddydd Sul y 6ed o Fedi 2009.
Polo Dŵr: Bu Daniel Jones o’r chweched yn ddigon ffodus o gael y cyfle i fynd am daith gyda thîm Polo Dŵr Prydain i Istanbul, Twrci. Chwaraewyd pum gem ar y daith dros gyfnod o bum diwrnod. Cafwyd buddugoliaethau campus yn erbyn y Wcráin a Twrci B ond profodd gemau’r Almaen, Ffrainc a Twrci A yn anoddach. Er hyn, dywedodd Daniel fod y profiad wedi bod yn un gwerthfawr iawn iddo ef a’r tîm. Llongyfarchiadau mawr iddo ef
Llongyfarchiadau i Alys Williams, blwyddyn 10 am ennill y fraint o gystadlu ym Mhencampwriaeth ‘Hip Hop’ y byd yn Kalisz, gwlad Pwyl. Enillodd y tim eu lle yn y gystadleuaeth drwy orffen yn gyntaf ac yn ail ym mhencampwriaeth Cymru ym Mhort Talbot mis Mehefin diwethaf. Mae hyn yn brofiad ardderchog ac yn gyfle i gymryd rhan mewn cystadleuaeth a ddisgrifwyd fel “gemau olympaidd y byd ‘Hip Hop”.Da iawn ti!
CYSTADLEUAETH GELF GAIN: Ym mis Mai 2008, cafodd cannoedd o ddisgyblion Ysgolion Uwchradd Sir Gaerfyrddin ei gwahodd i gyfrannu darluniau ar gyfer arddangosfa ym Mharc a Chastell Dinefwr, Llandeilo. Llwyddodd tri o ddisgyblion Ysgol Bro Myrddin yn y gystadleuaeth ac yn ystod gwyliau’r haf 2009 bu’r tri ar daith i Academi Gelf Mr Rice yn Florence, Yr Eidal. Am wythnos gyfan bu’r disgyblion yn dysgu am dechnegau braslunio a pheintio gydag olew. Llwyddodd Lowri Roberts a Mabli Eustace o flwyddyn 11, a Tom James o flwyddyn 13 ennill gwobrau o 2ail a 3ydd yn y rownd derfynol o gystadleueth ysgoloriaeth Alexander Talbot Rice.
Dyma farn Lowri Roberts ar y daith yno: Fe ddysgais lawer am y “sight size portrait tradition” a oedd yn dechneg heriol a hir wyntog ond roedd canlyniadau’r holl waith i bawb yno yn anhygoel. Yn ogystal â dysgu am dechnegau cafwyd gwersi Athroniaeth a sawl darlith am hanes y Renaissonce oedd yn wych. Roeddwn i wrth fy modd yno ac yn bendant wedi mwynhau’r cyfle”.
Alexander Talbot Rice