Newyddion Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin

 


 

  Gwasanaeth Smile: Ar ddydd Gwener y 3ydd o Orffennaf fe ddaeth criw o blant  mewn i’r ysgol o wlad Rwmania.  Fe ddaeth y plant gyda’r elusen Smiles.  Daeth gweithredwr yr elusen gyda nhw i’r ysgol.  Fe gyrhaeddon nhw’r ysgol am 8:30 y bore.  Roedd 5 merch a 2 fachgen, Mr Kevin Hoy a Maria wedi dod i’r ysgol.  Yn ystod y gwasanaeth a barhaodd am tua 20 munud fe wnaethant ddangos fideo, dawnsio, canu ac adrodd eu hanes, roedd eu gwisgoedd yn drawiadol a lliwgar.  Mae’r elusen yn gweithio i geisio gwella bywyd pobl yn Rwmania yn enwedig plant.  Maent yn dibynnu yn hollol ar gyfraniadau pobl Prydain ac America ond maent wedi gwneud gwaith rhagorol yn y blynyddoedd diwethaf ac maent yn gobeithio parhau i wella eu bywydau yno.  Bu’n brofiad da i bob disgybl i fod yn rhan o’r gwasanaeth arbennig hwn.
Ffarwelio: Ar ddiwedd blwyddyn academaidd arall mae’r ysgol yn ffarwelio â sawl aelod o staff. Ymddeoliad hapus i Mr Terry Jones a Mr Peter Ormorod. Pob hwyl i Mrs Janet Clement Thomas ar ei hymamadawiad.   Dymuniadau gorau i Mrs Heather Lewis ar ei swydd newydd yn Brifathrawes Ysgol Gyfun y Strade  a  Miss Megan Davies yn eu swydd newydd yn ysgol y Preseli. Dymuniadau da i Miss  Lisa Donoghue  yn ei gyrfa a  phob lwc i Miss Nerys Mainwaring yn ei hastudiaethau yn y coleg.  
  Taith Adran Gymraeg y 6ed, 2009: Ar ddau ddiwrnod olaf mis Mehefin aeth criw o flwyddyn 12 yr Adran Gymraeg gyda Dr Jones a Mrs Davies ar daith lenyddol i Ogledd Cymru.  Roedd y tywydd yn fendigedig a’r daith yn ysbrydoledig.  Dechreuwyd yn swyddogol ar y daith yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth lle tywyswyd y criw o gwmpas gan y swyddog addysg, Rhodri.  Gwelwyd hen drysorau megis Llyfr Du Caerfyrddin a Llyfr Gwyn Rhydderch heb sôn am ryfeddu ar y llyfr lleiaf erioed.  Oddi yno aethpwyd i Gorris ar daith o dan ddaear i glywed ychydig o chwedlau Cymru.  Cafwyd croeso twymgalon wedyn yn Yr Ysgwrn a Mr Gerald Williams yn adrodd hanesion di-ri am y teulu.  Gwelwyd llu o ryfeddodau gan gynnwys yr oen swci.  Oddi yno i Feddgelert, yna i Ryd-ddu, Rhosgadfan, Rhostryfan, Morrisons i brynu brecwast ac yna nôl i Lyn Cwellyn i swpera.  Diddorol oedd y llety!  Yn blygeiniol aethpwyd i Abergwyngregyn lle’m tywyswyd gan Catherine Pritchard Gibson.  Ysbrydolwyd y criw gan yr hanesydd unwaith eto.  Biwmares nesaf i weld bedd Siwan a phrofi’r hufen ia.  Nôl heibio i gartref Dafydd ap Gwilym ac yna adref ar ôl dau ddiwrnod cofiadwy iawn.

Ffliwt: Llongyfarchiadau mawr i Catrin Price o flwyddyn 10 am ymddangos ar raglen “Texaco Young Musician of Wales” yn chwarae’r ffliwt.  Braf oedd cael gweld disgybl arall yn cael ei dewis ar gyfer y gystadleuaeth hon.  Da iawn!

 

Taith y clwb llythyru: Ers mis Medi 2008 mae grŵp o ddisgyblion blynyddoedd 7, 8 a 9 o’r Adran Gymraeg wedi bod wrthi yn llythyru yn wythnosol â grŵp o ddisgyblion o Ysgol Bryn Tawe.  Penllanw gweithgaredd y grŵp llythyru oedd trip i Gefn Sidan ddydd Mawrth y 7fed o Orffennaf i gwrdd â’n ffrindiau ym Mryn Tawe a rhannu picnic bendigedig a baratowyd gan ffreutur y ddwy ysgol.  Cafwyd prynhawn hwylus yn y Parc Cenedlaethol ac ar y traeth yn chwarae gemau ac yn cwrso pêl Bryn Tawe a gafodd ei chwythu i’r môr.  Braf oedd gweld disgyblion y ddwy ysgol yn mwynhau yng nghwmni ei gilydd ac yn rhannu profiadau.  Gobeithio y bydd y cysylltiad rhwng Bro Myrddin a Bryn Tawe yn parhau y flwyddyn nesaf.