|
Tyfu
Grav
Y
Gymdeithas Farfol!
Eleni
mae athrawon gwrywaidd (a blewog!!) yr ysgol wedi tyfu barf yn ystod Mis
Tachwedd er mwyn codi arian i elusen y diweddar Ray Gravell - chwaraewr rygbi
enwog sy’n parhau i’n hysbrydoli heddiw. Mae’r elusen yn cefnogi
unigolion ac achosion gwahanol yng Ngorllewin Cymru. Braf yw gweld, felly, fod
cymaint o ddynion y staff wedi tynnu sylw at y gwahanol achosion drwy godi
arian ar ran yr ysgol. Mae Manon Gravell o flwyddyn 12 a Gwenan Gravell o
flwyddyn 9, hefyd yn hybu elusen eu tad.
“Rwy’n
teimlo’n falch iawn fod pawb wedi dangos cymaint o gefnogaeth i’r elusen.
Hoffwn ddiolch i bawb a wnaeth gymryd rhan” meddai Manon Gravell.
Nid
gaeaf oer fydd yn wynebu’r canlynol felly - Mr Euryn Madoc Jones, Mr Gwyn
Jones, Mr Gareth Jones, Mr Alun Thomas, Mr Aled Williams, Mr Alan Roberts, Mr
Mark Morris, Mr Iwan Harris, Mr Wyn Mainwaring, Mr John Norgrove, Mr Tim
Hayes, Mr Rhys Roberts, Mr Owen Rhys a Mr Llyr Lloyd .
Diolch
i bawb am eu noddi.
Drama ‘A
Christmas Carol 2011’
Ar
nos Fercher a nos Iau, Tachwedd y 24ain a’r 25ain perfformiwyd y ddrama
‘Christmas Carol 2011’ gan ddisgyblion Ysgol Bro Myrddin. Wrth gwrs, gŵyr
llawer ohonom bod y nofel ‘A Christmas Carol’ gan Charles Dickens a’i
neges lawen o gariad trwy achubiaeth y cybydd, Scrooge, wedi diddanu
darllenwyr ar hyd y blynyddoedd. Roedd y cynhyrchiad hwn, er waethaf yr
ychwanegiadau cyfoes a thôn y sgript, yn dal yn ffyddlon i gred Dickens bod
cyfnod y Nadolig yn llawn rhinweddau i newid dyn.
Cafwyd
perfformiadau arbennig gan y prif gymeriadau: Steffan Rizzi yn portreadu
Scrooge, Steffan Cennydd a’i bortread o Bob Cratchit, Llew Hopwood fel Jacob
Marley, Siobhan Eleri fel ysbryd Nadolig y gorffennol, Serena Jones fel ysbryd
y Nadolig presennol , Nathaniel Wilson fel ysbryd y dyfodol, Aled Owen fel
Fred a Cerys James fel Mrs Cratchit. Cynhaliwyd y rhain gan llu o ddisgyblion
eraill, y cantorion a’r cymeriadau ymylol. Cyfarwyddwyd y sioe gan Mrs
Llinos Mary Jones, pennaeth yr Adran Saesneg a’r is-gyfarwyddwr oedd Miss
Kathy Thomas. Miss Rhian Evans oedd y cyfarwyddwr technegol a’r rheolwraig
lwyfan oedd Miss Bethan Simons. Cafwyd cymorth gan lu o bobl cefn llwyfan a
fu’n cynorthwyo gyda’r set, y gwisgoedd, y colur a’r propiau. Bu tim o
bobl hefyd yn cynorthwyo gyda’r rhaglen a gwerthu’r tocynnau.

Cafwyd dwy noson lwyddiannus iawn. Diolch i bawb a fu’n cynorthwyo a
chefnogi.
Gweler mwy o luniau a fideo ar ein safwe FLICKR a
YOUTUBE
Gweithdy Dangoswch y cerdyn coch i hiliaeth
Ar
ddydd Llun, Tachwedd y 21ain cynhaliwyd gweithdai gan y cwmni o Gaerdydd
- Dangoswch y Cerdyn Coch i Hiliaeth yn yr ysgol. Cafodd pob disgybl o
flwyddyn 7 y cyfle i gymryd rhan a bu’n ddiwrnod arbennig o drafod a
chydweithio. Cafwyd cyfle i drafod stereoteipio, dylanwad y cyfryngau a
diddorol oedd y sesiwn i drafod termau derbyniol erbyn hyn. Cafwyd
cyflwyniad bywiog iawn ac ymateb arbennig gan y disgyblion. Diwrnod
buddiol iawn.
Dathlu Ffair
Nadolig Bro Myrddin
Dechreuodd
dathliadau’r Nadolig i Ysgol Fro Myrddin a’i chymuned yn gynnar yn ein
ffair flynyddol a gynhaliwyd ar nos Iau 17eg o Dachwedd. Agorodd y drysau yn
brydlon am 6.30 a chafwyd cynulleidfa chwantus yn barod i brynu nwyddau o’r
amrywiaeth stondinau lliwgar a deniadol oedd ar gael. Croesawyd y cyhoedd gyda
naws Nadoligaidd gan aelodau o fand yr Ysgol yn perfformio carolau’r
Nadolig.
Bu’r
llysoedd yn cystadlu’n frwd i werthu nwyddau eu stondinau. Bu Llys Peniarth
yn gwerthu siocledi o bob math ac roedd gan Llys Hergest stondin yn
gwerthu cynnyrch Nadoligaidd fel papur lapio cardiau ac addurniadau. Stondin
llenwi hosan Nadolig oedd gan Llys Hengwrt gyda amrywiol gynnyrch a gwerthwyd
llawer gan Llys Llwydiarth gyda’i stondin mygiau yn llawn danteithion.
Roedd
Groto Sïon Corn dan eu sang gyda’r plant ieuengaf yn disgwyl
yn eiddgar a chyffrous am anrheg a sgwrs.
Trefnwyd gemau gan aelodau o’r chweched yn cynnwys cystadleuaeth “Malu’r
Malteseren” a gemau “Rasio gyda Mario”. Gwelwyd disgyblion cwrs Y
Fagloriaeth Gymraeg yn gwerthu cynnyrch eu busnesau – lluniau chwaraeon ,
breichledi, ffynnon siocled a chardiau Nadolig.
Bu’r
noson yn llwyddiant ysgubol a llwyddwyd i godi £2,800 o bunnoedd. Nadolig
Llawen iawn, felly, i Ysgol Bro Myrddin.
|