Newyddion Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin

 

Beicio noddedig y Chweched:
Ar ddydd Gwener y 14eg o Ionawr bu disgyblion blwyddyn 12 a13 wrthi’n beicio yn lolfa’r chweched. Pwrpas y gweithgaredd yma oedd codi arian ar gyfer gweddnewid lolfa’r chweched dosbarth. Yn dilyn trafodaethau bwriad y chweched yw ail wneud y lolfa trwy beintio ac adnewyddu celfi. Roedd dau feic ymarfer yn y lolfa trwy’r dydd, a bu’r pedalau yn symud o 9.30 i 3.30. Er mwyn ychwanegu cynnwrf at y gweithgaredd, penodwyd beic yr un i flwyddyn 12 a 13, a’r her oedd beicio mor bell â phosib yn ystod y dydd. Er holl ymdrechion blwyddyn 13, blwyddyn 12 a ddaeth i’r brig. Llwyddodd y fenter yma i godi £450 ar gyfer gweddnewid y lolfa. Diolch i bawb a gyfrannodd. Edrychwn ymlaen at gael gweld y lolfa ar ei newid wedd.

Cystadleuaeth ailgylchu Cardiau Nadolig:
Ar ddechrau’r tymor hwn cynhaliwyd  cystadleuaeth gan y cyngor ADCDF a’r Pwyllgor Eco ar draws yr ysgol i bob dosbarth gasglu gymaint o gardiau Nadolig a phosibl o fewn wythnos o amser. Bu ambell i ddosbarth yn brysur dros ben yn cario bagiau yn llawn cardiau Nadolig i’r ysgol yn ddyddiol er mwyn cael cyrraedd y brig.  Casglwyd cyfanswm o 1125 lbs o gardiau, dros 70,000 o gardiau i gyd. Fe fydd y cardiau hyn yn cael eu trosglwyddo i Marks and Spencer a fydd yn eu rhoi i'r Woodland Trust ar gyfer eu hymgyrch ailgylchu cardiau. Mae'r Woodland Trust yn derbyn arian am y cardiau a ailgylchwyd ac yn defnyddio'r swm ar gyfer plannu coed ledled Prydain.  

Dyma safleoedd y dosbarthiadau:

1af - 7-5 (casglwyd 193 lbs 3oz o gardiau)

2il - 9-1 (127 lbs 3oz)

3ydd - 7-3 (94 lbs 13oz).

Rhoddwyd wythnos o ginio cynnar i'r dosbarth buddugol, tridiau i'r ail safle a deuddydd i'r trydydd.

Mae’r ddau bwyllgor yn ddiolchgar iawn i bawb aeth ati mor frwd i gymryd rhan. Mae’n  amlwg bod disgyblion Bro Myrddin yn meddwl  o ddifri am yr amgylchfyd ac am bwysigrwydd gwarchod ein dyfodol.

Hwyl y daith Sgio yn Ffrainc:
Ar yr 3ydd o Ionawr 2011 am ddau o’r gloch y bore gadawodd 45 o ddisgyblion Bro Myrddin  am wythnos o Sgio yn Alpe d’Huez, Ffrainc.  Rhannwyd y disgyblion i mewn i bedwar gr
ŵp, oedd yn dechrau o’r sgiwyr llai profiadol i’r rheini oedd wedi bod o’r blaen.  Roedd pob bore yn galed a’r boen yn y coesau’n dechrau gwaethygu wrth i’r wythnos fynd yn ei blaen, ond roedd gweld hyfforddwyr oedd yn gyfeillgar bob tro a wastad yn hapus yn eich gwneud i deimlo’n well ac yn helpu’r achos.  Pryderus oedd wynebau rhai o’r athrawon pan gyrhaeddom waelod y pentref ar gyflwr yr eira yno, ond wrth ein bod yn mynd i fyny’r mynydd fe wellodd pethau.  Cawsom lawer o gyfle i ymweld â’r pentref a threfnwyd gweithgareddau ar ein cyfer yn ddyddiol drwy’r cwmni SkiPlan.  Yn lwcus i rhai ohonom cawsom gyfle i wneud ychydig o ‘Sgïo nos’, roedd hwn yn brofiad bythgofiadwy, cyfle unigryw yn wir.  Ar ran y grŵp hoffem ddiolch i’r athrawon ac i Mr Norgrove am drefnu’r daith ac am ei wneud yn un i’w gofio. 

Adroddiad gan Steffan Jones

Diwrnod "A yw’n Deg" Blwyddyn 10, 2011 :

Wrth i Ysgol Bro Myrddin ddechrau llenwi unwaith eto wedi gwyliau’r Nadolig, roedd disgwyl ail gydio yn nhrefn arferol y dydd ac i’r plant fynychu gwersi cyffredin fel arfer. Ond, ar y 6ed o Ionawr cafwyd eithriad a wnaeth blesio disgyblion blwyddyn 10.

            Ar y dydd, fe wnaeth criw o bobl o wahanol rannau o’r sir ddod i siarad a chynnal gweithgareddau gyda’r disgyblion, gweithgareddau a oedd yn ymwneud ag Addysg Grefyddol. Daeth y Parchedig Tom Defis o Gymorth Cristnogol, Mrs Anne Loughran a chriw o fyfyrwyr o Brifysgol Cymru'r Drindod Dewi Sant, a Dr. Hefin Jones o Brifysgol Caerdydd.

            Cafodd pob dosbarth ym mlwyddyn 10 y cyfle i wrando ac i gymryd rhan mewn gweithgareddau amrywiol.  Gwnaeth Mr Tom Defis, sef ysgrifennydd rhanbarthol y de-orllewin a chanolbarth Cymru Cymorth Gristnogol, siarad â’r disgyblion am sut mae gwledydd tlawd y byd yn masnachu gyda’r rhai cyfoethog, a sut mae’n annheg ar y rhai tlawd. Daeth y neges hon yn fyw wrth iddynt weld yr annhegwch ar waith, (ond ar raddfa lai), drwy brynu, gwerthu a chreu cynnyrch allan o bapur gan gynrychioli gwledydd Moçambique, Bangladesh, India a’r U.D.A. Cafodd y wers hon argraff ddofn ar y disgyblion wrth iddynt sylweddoli pa mor anghytbwys yw dosbarthiad cyfoeth y byd...  ond roedd hi’n haws llyncu’r moddion chwerw oherwydd bod siocled masnach deg yn cael ei werthu ar ddiwedd y wers.

            Gwnaeth athrawon Addysg Grefyddol yr ysgol sesiwn yn sôn am Ragfarn a Gwahaniaethu. Fe wnaeth y wers hon wneud i’r disgyblion ail feddwl am rai agweddau o’r gymdeithas ry’n ni’n byw ynddi; a holwyd y cwestiwn pam y mae rhagfarn a gwahaniaethu’n dal i fodoli heddiw? Roedd HIV ac AIDS yn destun trafod hefyd, gyda sefyllfaoedd gwahanol wedi’u gosod i’r disgyblion.

            Mewn ystafell ddosbarth arall, roedd Mrs Anne Loughran a phedair myfyrwraig o Goleg y Drindod yn rhannu’r profiadau a gawsant ar eu taith tair wythnos i Lesotho. Fe ddysgodd y disgyblion am broblemau addysg y wlad a bu rhaid iddynt feddwl yn galed wrth geisio dewis beth fyddai’r peth cyntaf bysan nhw’n ei newid am yr ysgolion yno i wella’r system addysg.

            Wedi egwyl y bore, aeth holl ddisgyblion blwyddyn 10 ac 11 i’r neuadd i wrando ar Dr. Hefin Jones, darlithydd Bioleg ym Mhrifysgol Caerdydd. Roedd ei ddarlith yn un hynod ddiddorol ac yn agoriad llygad i’r disgyblion am wyddoniaeth y byd ac agweddau crefyddol y byd; wedi’r cyfan teitl y ddarlith oedd ‘Darwin, DNA a Duw’. Dangosodd fod nifer o wyddonwyr enwog y byd hefyd yn grefyddol. Pwrpas ei ymweliad oedd profi i’r disgyblion fod crefydd a gwyddoniaeth yn gorgyffwrdd yn aml a bod yna le i’r ddau yn ein byd ni heddiw.

            Yn sicr fe wnaeth holl ddisgyblion blwyddyn 10 elwa o’r profiad.  Diwrnod buddiol a fu’n agoriad llygaid. 


Adroddiad gan Llewelyn Hopwood blwyddyn 10