Newyddion Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin

 


 

Nerys Evans A.C: Adroddiad Llywela Davies a Nerys Jones Bl 10.
Pleser o’r mwyaf oedd cael croesawu cyn ddisgybl, Nerys Evans, sydd nawr yn Aelod o’r Cynulliad yng Nghaerdydd, yn ôl i’r ysgol, i siarad gyda disgyblion Blwyddyn deg am ei swydd. Diddorol oedd  clywed am ei phrofiadau, wedi iddi fod ym Mhrifysgol Manceinion yn astudio Gwleidyddiaeth. Bu’n siarad am ei hamser yn yr ysgol, a sut y dechreuodd  ymddiddori yn y pwnc. Soniodd am y pwysigrwydd o fanteisio ar y cyfleoedd rydym yn derbyn yn yr ysgol, gan bod etholiadau i ddewis cynrychiolwyr ar gyfer Cyngor yr Ysgol ar fin cael eu cynnal. Hefyd roedd hi’n ein hannog ni, pobl ifanc y wlad, i bleidleisio pan fyddwn o’r oed, ac yn enwedig y merched gan bod menywod yn y gorffennol wedi ymladd yn galed,a hyd yn oed aberthu eu bywydau er mwyn mynnu’r hawliau i ni gael  pleidleisio. Esboniodd hefyd sut mae’r llywodraeth yng Nghymru yn gweithio, gyda Phlaid Cymru wedi uno gyda’r Blaid Lafur.(tipyn i ddeall!)  Hefyd, dywedodd sut roedd y seddau wedi cael eu gwahanu ymysg y pleidiau. Diddorol oedd clywed am wythnos arferol ym mywyd aelod o’r Cynulliad a beth oedd ganddi hi ar y gweill. Cafwyd amser ar ddiwedd cyflwyniad Miss. Evans i’w holi, a diddorol  oedd cael clywed ei barn ar rai o’r digwyddiadau diweddar. Mwynhad oedd bod yn ei chwmni, a diolch iddi am roi o’i hamser.

 


 

I’r Senedd:  Fel rhan o waith cwrs Cymraeg Blwyddyn 11 aethpwyd â chriw o ddisgyblion blwyddyn 11 i’r Senedd ym Mae Caerdydd.  Cafodd y criw eu croesawu gan y swyddog addysg cyn cael eu tywys i’r Siambr yn Nhy Hywel.  Yno cafodd y disgyblion y cyfle i eistedd yn hen gadeiriau’r aelodau ac i gymryd rhan mewn trafodaeth ar fwyta’n iach yn ein hysgolion.  Braf oedd gweld ymateb brwdfrydig i’r gweithgareddau wrth iddynt weithio mewn grwpiau i geisio cywain gwybodaeth am y Cynulliad.  Daeth yr ymweliad i ben gyda thaith o gwmpas y Senedd a sgwrs fywiog  gyda’r Aelod Seneddol Nerys Evans.  Diwrnod hwylus iawn!

Hanes y Wladfa: Croesawyd y Parchedig Eirian Wyn Lewis i sgwrsio gyda chriw o ddisgyblion o flwyddyn 11 yn ddiweddar am sefyllfa’r iaith Gymraeg ym Mhatagonia.  Fel llywydd Cymdeithas Cymru-Ariannin mae’r Parch. Eirian Wyn Lewis yn ymweld yn gyson â’r Wladfa ac yn ein gwneud ni yng Nghymru yn ymwybodol o’r datblygiadau yno.  Soniodd am gyfraniad Llywodraeth y Cynulliad a Llywodraeth yr Ariannin tuag at y Gymraeg.  Dywedodd bod angen mwy o athrawon Cymraeg yno oherwydd y diddordeb mawr yn yr iaith.  Yn ystod y prynhawn trosglwyddwyd llawer iawn o wybodaeth ddiddorol i’r disgyblion.  Gofynnwyd llawer o gwestiynau amrywiol a oedd yn dangos bod diddordeb ganddynt yn yr hanes. 

YmdrochiDdydd Gwener Medi’r 12fed aeth holl ddisgyblion Blwyddyn 12 i Bentywyn yng nghwmni eu tiwtoriaid dosbarth a’u penaethiaid blwyddyn, Mr Tim Hayes a Mrs Lowri Davies.  Pwrpas y diwrnod hwn oedd i’r disgyblion ddod i adnabod ei gilydd yn dda drwy gydweithio fel tîm mewn amgylchiadau ddigon trafferthus.