Newyddion Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin
Noson Wobrwyo:
Ar yr 30ain o Fawrth cynhaliwyd noson wobrwyo flynyddol Ysgol Bro Myrddin. Y siaradwr gwadd oedd Mr Peter Ormerod, athro rhan amser Mathemateg yr ysgol. Diolch iddo am ei araith ddifyr a phwrpasol. Cafwyd eitemau cerddorol gan gerddorfa’r ysgol, chorau iau a hŷn yr ysgol, ymgom hyn a hefyd deuawd brydferth. Braf oedd gweld disgyblion presennol yr ysgol, cyd-ddisgyblion a’i rhieni’r yn bresennol. Croesawyd pawb gan y brif ferch Lowri Evans a gwnaethpwyd y diolchiadau i gloi gan Alun Howells, y brîf fachgen. Anerchwyd y gynulleidfa hefyd gan y pennaeth Mr Dorian Williams a dosbarthwyd y gwobrwyon gan Mr Peter Ormerod a’r Prifathro. Darparwyd lluniaeth i bawb ar ddiwedd y noson a chafwyd cyfle i gael clonc. Noson Hyfryd!
Enillwyr y Gwobrau· Gwobr Ysgol Bro Myrddin (Llwyddiant academaidd mewn Safon Uwch)
Ioan Davies a Gruffydd Perks
· Gwobr Goffa Beti Hughes (Llwyddiant academaidd yn Safon Uwch a chyfraniad i fywyd diwylliannol yr ysgol)
Lowri Elen Edwards, Siôn Hupfeild a Siân Davies
· Tlws Gareth Evans Bl.13 (Cyfraniad i fywyd diwylliannol yr ysgol)
Teleri Gravell
· Tlws Gareth Evans Bl.11/13 (Ymdrech gyson ym mlwyddyn 10 ac 11 neu 12 a 13)
Lleucu Edwards
· Gwobr St. Peters’ Players (Cyfraniad i weithgareddau drama'r ysgol)
Elin Wyn Williams
· Tlws Coffa Megan a Myfanwy (Gwaith creadigol o safon uchel)
Gwyn Stacy
· Tlws Coffa Rhian Denby Jones (Ymdrech orau yn TGAU Hanes)
Alis Haf Lewis
· Tlws yr Adran Fusnes
Iestyn Scourfeild
· Tlws Andrew Rees (Cerddor gorau'r ysgol)
Gweirydd Davies
· Tlws Hugh Griffiths (Ymdrech orau yn TGAU Gwyddoniaeth)
Holly Welsby
· Tlws Margaret Morris (Perfformiad gorau yn Addysg Gorfforol gan ddisgybl a oedd ym Mlwyddyn. 13 llynedd)
Fflur Davies
· Tlws Elin Ruth Jenkins (Perfformiad gorau mewn Pel-rhwyd)
Lowri Howells
· Tlws Peter Hughes Griffiths (Gwasanaeth i Bêl-droed o fewn yr ysgol)
Alex Evans
· Tlws Addysg Gorfforol (Perfformiad gorau yn Addysg Gorfforol ym Mlwyddyn. 10/11)
Rheon James
Gwaith y Pwyllgor Dyngarol:
Wythnos cyn gwyliau’r Pasg, trefnwyd llu o weithgareddau gan y Pwyllgor Dyngarol, er mwyn dathlu’r Pasg a chodi arian at achos da ar yr un pryd. Bu’r bloc Mathemateg
yn fwrlwm a sbri yn ystod yr oriau cinio drwy’r wythnos, wrth i ddisgyblion Bl7, 8, 9 a’r chweched dosbarth chwilota am y cardiau cudd a fyddai yn eu harwain at wy siocled. Cafwyd siop danteithion y Pasg ar gyfer disgyblion Bl10 ac 11 ar ddiwrnod olaf y tymor, a bu’r ysgol yn fôr o liwiau yn ystod y diwrnod gwisg anffurfiol. Bu’r gweithgareddau yn llwyddiant ysgubol, a llwyddwyd i godi swm sylweddol o arian ar gyfer elusennau amrywiol. Diolch yn fawr iawn i holl aelodau’r chweched a fu’n cynorthwyo wrth drefnu’r gweithgareddau, ac i bob disgybl a fu’n cymryd rhan am eu cefnogaeth. Adroddiad gan Llinos Davies a Fflur Rhys blwyddyn 12
Llongyfarchiadau i Catrin Price blwyddyn 11 ar berfformiad o safon uchel iawn yn neuadd St George, Bryste yn ddiweddar.
Gradd Telyn:
Llongyfarchiadau i Angharad Thomas, Meghan Pitts, Gwenllïan Rhys, Anna Philips, Manon James, Bethan Philips a Sioned Evans ar ennill tystysgrifau gradd telyn.
Gradd Canu:
Llongyfarchiadau i Lowri Harriet Thomas, Fiona Philips, Frances Gwenan Evans, Carys Wynn Neal, Cerian Roberts, Gwennan Haf Cambell, Delyth Medi Davies, Siwan Fflur Dafydd, Nia Eyre, Sioned Mair Rees, Anna Lois Williams ar ennill tystysgrifau gradd canu.
Academi pêl droed Caerfyrddin:
Llongyfarchiadau i Nick Rees, Ashlee Jones, Tom Walters, Luke Squires ac Owain Evans blwyddyn 10 a Hywel Llŷr blwyddyn 9 am ennill Cwpan Geusselt, Clwb Ewropeaidd Iau, yn yr Iseldiroedd yn ystod gwyliau’r Pasg. Enillwyd y twrnament drwy giciau cosb gyda Ashlee yn arbed 4 yn y rownd derfynol a derbyn gwobr chwaraewr y twrnament.
Rygbi:
Llongyfarchiadau mawr i Daniel Thomas Blwyddyn 11 ar ennill gwobr chwaraewr y twrnament rygbi Cymru, dan 16 yng nghystadleuaeth Pencampwriaeth y 6 gwlad mas yn yr Eidal dros y Pasg.