|
Llwyddiant Cenedlaethol
Llongyfarchiadau
i'r canlynol ar gael eu derbyn i ensemblau cenedlaethol:
Llewelyn
Edwards Blwyddyn 13 - Cerddorfa Ieuenctid Cymru a Band Chwyth Cymru,
Cathryn Rees Blwyddyn 11 -
Cerddorfa Ieuenctid Cymru, Elan
Richards Blwyddyn 11 - Côr Ieuenctid Cymru a Tom
Scaife Blwyddyn 13 - Cerddorfa Ieuentid Cymru.
Dymuniadau gorau i'r pedwar ohonynt.
Gwasanaeth carolau arbennig
Llwyddwyd
i greu gwir naws y Nadolig gan Ysgol Bro Myrddin ar nos Fawrth, Rhagfyr yr
20fed pan gynhaliwyd ein gwasanaeth carolau yn Eglwys San Pedr yn y dref.
Braf oedd gweld dros 250 o ddisgyblion a 50 cant o staff yn rhan o’r
gwasanaeth arbennig hwn. Roedd yr eglwys yn llawn a phawb yn barod i
ddathlu’r Nadolig. Agorwyd y noson gan leisiau unigryw y côr merched hŷn
yn canu ‘Y Forwyn Fair’ ac yn ddiweddarach canwyd ‘Carol Dwy fil’
ganddynt yn ogystal. Yn dilyn, cafwyd galwad i addoli gan Mr Dorian
Williams, pennaeth yr ysgol. Yn ystod y noson cafwyd darlleniadau gan
ddisgyblion o’r ysgol, y prif ferch, Llywela Davies a’r prif fachgen,
Sean Bergiers a dau o ddisgyblion blwyddyn 11 sef Llifon Davies a Fiona
Phillips. Cafwyd darlleniadau hefyd gan Mrs Mandy Walters, Cadeirydd y Gymdeithas
Rieni a Mr Alun Charles, is-gadeirydd y Llywodraethwyr. Darllenwyd y
carolau gan ddisgyblion o’r ysgol – Cai Evans, Garmon Dyfri Jones, Nia
Davies a Mared Jones a chafwyd unawd gan Osian Knott. Cafwyd gwledd o ganu
gyda’r côr iau a’i datganiad o ‘Daeth Iesu o’i gariad’ a ‘Y
Nadolig’, y parti bechgyn hŷn yn canu ‘Dilyn y Seren’, y côr
staff yn canu ‘Mab y Forwyn’ a’r côr hŷn yn gorffen y noson
gyda’r gân ‘Un Enaid Bach.’ Bu’r cerddorion hefyd yn brysur yn
cyfeilio i bob carol a chafwyd datganiad gan y grŵp chwythbren hefyd.
Cafwyd cyflwyniad diddorol hefyd o’r enw ‘Gwyrth y Beudy’ gan
ddisgyblion blwyddyn 7 a braf oedd gweld un o ddisgyblion yr ysgol, Catrin
Price, yn dawnsio i sain y côr staff. I gloi’r noson adroddwyd y
fendith gan y parchedig Leigh Richardson.
Hoffai’r
ysgol estyn ein diolchiadau i swyddogion Eglwys San Pedr am gael
defnyddio’r eglwys, i Mr Meirion Wynn Jones am ei barodrwydd i fod wrth
yr organ ac i athrawon teithiol Gwasanaeth Cerdd Sir Gaerfyrddin am eu
cefnogaeth. Hoffem ddiolch hefyd i’r holl ddisgyblion a staff a wnaeth
gefnogi’r noson ac i’r rhieni am eu cefnogaeth barod. Roedd casgliad y
noson yn mynd i’r Ambiwlans Awyr a chodwyd dros £700 o bunnoedd, diolch
yn fawr i chi i gyd. Bu’n noson arbennig ac yn ddathliad go iawn o wir
ystyr y Nadolig. Nadolig Llawen i chi i gyd.
Bro Myrddin yn dathlu’r Nadolig
Bu pythefnos olaf y
tymor yn gyfnod tu-hwnt o brysur yn Ysgol Bro Myrddin. Dechreuwyd y
dathliadau gyda blwyddyn 6 yn ymweld â’r ysgol ar y 13eg o Ragfyr ac
yna cinio Nadolig i bawb ar y diwrnod canlynol a braf oedd cael y cyfle i
thynnu cracyr, gwisgo het a mwynhau. Chwaraewyd bingo yn y neuadd o dan
arweiniad y chweched ar yr un diwrnod.
Ar
gais y pwyllgor dyngarol, cafodd y disgyblion gyfle i wisgo eu dillad eu
hunain ar ddydd Gwener yr 16eg o Ragfyr gyda elw’r dydd yn mynd i Dŷ
Hafan a Phlant mewn Angen. Bu’r chweched yn gwerthu cacennau hefyd adeg
egwyl er mwyn ychwanegu at y swm. Casglwyd swm anrhydeddus o £600 ar y
diwrnod.
Ar
y dydd Llun y 19eg o Ragfyr, teithiodd criw o ddisgyblion yr adran Addysg
Gorfforol i siop Marks and Spencers er mwyn pacio bagiau am yr wythnos ac
aeth criw o ddaearyddwyr blwyddyn 10 i wneud eu gwaith maes yng
Nghaerdydd.
Ymarfer
ar gyfer y gwasanaeth carolau oedd y prif ddigwyddiad ar y dydd Mawrth a
thua 250 o ddisgyblion yr ysgol yn teithio i lawr i Eglwys San Pedr i
ymarfer ar gyfer y gwasanaeth arbennig a gynhaliwyd yn y nos.
Panto
blwyddyn 12 oedd yr arlwy ar ddydd Mercher. Bu criw blwyddyn 12 wrthi’n
brysur ers wythnosau yn paratoi ar gyfer y panto blynyddol a chafodd
disgyblion blynyddoedd 7 ac 8 y cyfle i fod yn rhan o’r dathlu yn ystod
y dydd. Roedd hi’n ddiwrnod gwahanol hefyd gan bod y disgyblion i gyd
wedi cael y cyfle i wisgo mewn thema Nadoligaidd a chafwyd gwobrau am y
wisg ffansi orau ymhob blwyddyn.
Braf
oedd cael cyfle ar y bore dydd Iau i gynnal gweithdy gyda blwyddyn 7 yn y
neuadd. Yn dilyn hyfforddiant, mae criw o ddisgyblion blwyddyn 12 bellach
wedi llwyddo i ennill tystysgrif mewn mentora a chafwyd cyfle i gychwyn ar
y sesiynau mentora yn y gweithdai. Teithiodd grŵp chwythbren yr ysgol
i Barc y Sgarlets i gyflwyno rhaglen o gerddoriaeth fel cynrycholiaeth o
Wasanaeth Cerdd Sir Gaerfyrddin. Bu grŵp pres yr ysgol a chriw o
gantorion o’r chweched yn cyflwyno rhaglen yng Nghanolfan Henoed Myrddin
yn y bore o dan arweiniad Mrs Helen Gibbon, Mrs Meinir Richards a Mrs Nia
Evans.
I
gloi’r tymor cafwyd gwasanaeth arbennig ar brynhawn dydd Iau a chyfle i
glywed offerynwyr, cantorion a darllenwyr yr ysgol mewn gwledd o ganu ac
actio.
|