Newyddion Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin
Adran Hanes
Yn ôl un o’r disgyblion Llyr Fairburn “roedd y wisg yn drwm iawn ac felly byddai ymladd ynddi yn anodd rwy’n siŵr
Adeiladwyd ar ddealltwriaeth disgyblion blwyddyn 7 am ryfeddodau Oes y Normaniaid ar ôl bod yn ymweld â chastell Cydweli yn ddiweddar. Cafodd disgyblion o flwyddyn 7 y cyfle gyda'i hathrawes Mrs Tracy Jenkins i wisgo gwisgoedd Milwyr Normanaidd a phrofi yn bersonol y teimlad sut fyddai i wisgo gwisg Normanaidd.
Cystadleuaeth ‘Welsh Junior Skillbuild’
Pob lwc i Gethin Howells, Iestyn Owen, Gethin Dyer Davies a Rhydian Walters mewn cystadleuaeth adeiladwaith yng Ngholeg Sir Gâr Campws Rhydaman ar ddydd Iau 28 ain o Ionawr.
Sialens y Llysoedd
Roedd neuadd yr ysgol yn llawn bwrlwm ar ddydd Iau olaf tymor y Nadolig pan gynhaliwyd diwrnod Sialens y Llysoedd. Roedd y sialensiau yn amrywio o Bush Tucker Trial, Carioci a’r Weakest Link. Yn cystadlu roedd penaethiaid y llysoedd, staff a disgyblion.
Y gystadleuaeth gyntaf oedd y Bush Tucker Trial – ar gyfer y sialens hon roedd rhaid bwyta cwstard a thiwna wedi eu cymysgu gyda’i gilydd. Mmmmmm, blasus!! Roedd wynebau’r cystadleuwyr yng nghanol y bwrlwm yn edrych yn eithaf amheus am fwyta'r hyn o’u blaenau nhw ond fe wnaeth pob un geisio bwyta gymaint o’r cynhwysion a phosib, er gwaethaf eu golwg! Nid yw Mrs Lowri Davies yn un i gwyno am ei bwyd ond o edrych ar ei hwyneb nid oedd ganddi fawr i ddweud wrth gwstard a thiwna. Enillwyr y gystadleuaeth oedd dau fyfyriwr sef Gareth Morgan ac Aled Evans sy’n profi y gwnaiff myfyrwyr fwyta unrhyw beth sydd o’i blaenau i ennill sialens!
O’r bwyd i ganu a dechreuodd pethau wella wrth i ni wrando ar ddeuawd soniarus Dr Huw Griffiths a Mrs Helen Gibbon, nid y ddeuawd fwyaf enwog yn y byd ond er hynny yn adloniant pur. Yna cafwyd ymgais dda gan Mrs Luned Davies a Mr Gareth Morgan a gorffennwyd y gystadleuaeth gydag ABBA – wir, roedd y wigiau yn ffantastig!
Sialens olaf y dydd oedd ‘The Weakest Link’ ac enillydd y gystadleuaeth a brofodd ei wybodaeth gyffredinol wych oedd Mr Gareth Jones o Lys Hengwrt.
Y tîm a enillodd sialens y llysoedd oedd Llwydiarth.
Adroddiad gan Gwennan Campbell a Gwenann Davies
Blwyddyn 8.
Nofio
Llongyfarchiadau i Daniel Reynolds o flwyddyn 8 sydd wedi cystadlu yn y ‘Dragon Meet’ yn Abertawe a chafodd fedal Arian yn y 200 medr Broga a medal Efydd yn y 100 medr Broga.
Llongyfarchiadau i Hannah Reynolds o flwyddyn 9 sydd wedi cystadlu yn ‘Dragon Meet’ yn Abertawe. Cafodd fedal Efydd yn 200 medr cefn, medal Arian yn y 100 medr cefn a medal Efydd yn 50 medr rhydd.
Opera Ieuenctid Caerfyrddin yn dathlu 30ain penblwydd
I ddathlu ei phen-blwydd yn 30ain eleni mae Theatr y Lyric, Caerfyrddin yn perfformio cyflwyniad arbennig Disney o “Beauty and the Beast”. Ymysg yr 80 o blant sy’n rhan o’r cast mae 17 o ddisgyblion Bro Myrddin sef Rebecca Vowles, Sioned Mair Rees, Caryl Bond, Ffion James, Cerys James, Nia Emanuel, Emily Ruth Davies, Siriol Davies, Catrin Phillips, Hanna Evans, Steffan Hughes, Iwan Williams, Cuan Rowlands, Aled Owen, Aled Evans a Rhys Young. Mae’r perfformiadau wedi eu trefnu ar gyfer ysgolion ar ddyddiau Mercher, Iau a Gwener sef y 10fed, 11eg a’r 12fed o Chwefror 2010. Bydd hyn yn uchafbwynt cyfnod caled o ymarfer a ddechreuodd yn gynnar ym mis Hydref y llynedd. Pob lwc iddynt i gyd!
Eira Mawr ym Mro Myrddin
Fel y gwyddoch, bu eira mawr yn ddiweddar ym Mro Myrddin gan guddio tiroedd yr ysgol o dan flanced wen. Roedd yr eira yn drwchus ac mewn tywydd rhewllyd, nid oedd modd cadw’r ysgol ar agor. Wrth gwrs, roedd hyn yn newyddion da i’r disgyblion a gafodd estyniad i wyliau’r Nadolig. Ar ddydd Mawrth, y 5ed o Ionawr, cafodd y disgyblion a’r staff a oedd wedi cyrraedd yr ysgol yn y bore ei hel adref gan fod yr eira yn disgyn yn gyflym ac yn achosi problemau ar yr hewlydd.
Hwn mae’n debyg oedd y cyfnod oeraf ers tua deg mlynedd ar hugain gyda’r tymheredd yn disgyn i dan bymtheg pwynt is na’r pwynt rhewi. Fe barhaodd y tywydd oer am bron i wythnos a bu pryder nad oedd rhai o ddisgyblion yr ysgol yn gallu sefyll eu harholiadau.
Ond at ei gilydd, nid gwaith oedd ar feddyliau’r rhan fwyaf ohonom gyda’r gorchudd gwyn hwn yn troi’r mwyaf aeddfed a chyfrifol yn blant bach unwaith eto. Cafwyd digon o firi yn adeiladu iglw neu ddynion eira, ac ambell i ddynes eira. Ac nid y plant yn unig a gafodd hwyl yn yr eira. Yn ôl pob sôn bu’r prifathro yn cael ychydig o sbort ei hun pan aeth allan i slejio gyda rhai o ddisgyblion y chweched.
Bellach atgof yw’r eira a’r anhawster a ddaeth yn ei sgîl wedi’u hanghofio. Bu’n rhaid ffarwelio a’r dynion eira a dododd y prifathro ei sled gadw am y tro beth bynnag.
Manon Ifan B12