Pe bawn i’n gynghorydd am ddiwrnod..: Yn Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru ac Eisteddfod Genedlaethol 2007 cynhaliwyd cystadleuaeth gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru er mwyn tynnu sylw at yr hyn mae’r cynghorau’n ei wneud ac i geisio hyrwyddo democratiaeth leol. Un disgybl a ddangosodd flaengaredd yn y gystadleuaeth ac a gafodd ei dewis yn un o ddau enillydd oedd Awen Morgan o flwyddyn 8. Dyma’r syniadau a oedd ganddi ar gyfer gwella ei chymuned; “Pe bawn i’n gynghorydd am ddiwrnod, fe fyddwn i’n mynnu i bawb blannu coeden a defnyddio biniau ailgylchu. Byddwn i’n rhwystro’r siopau rhag defnyddio bagiau plastig hefyd.”
A yw’n deg?: Cynhaliwyd diwrnod “A yw’n deg?” yn yr ysgol yn ddiweddar gan yr Adran Addysg Grefyddol o dan arweiniad Mrs Helen Gibbon. Diwrnod arbennig oedd hwn yn cynnwys gweithdai amrywiol gan y Parch Tom Defis, Gêm Fasnach, Rhian Jones Swyddog Addysg Shelter Cymru a Rosalyn James Swyddog Addysg Tai Hafan. Bu Indeg Jameson, Gruffudd Perks, Annwen Davies, Iestyn Scourfield, Elin Williams a Gweirydd Davies o flwyddyn deuddeg yn gyfrifol am y gweithdy Hawliau dynol a Mrs Tracy Jenkins a Mrs Bethan Jenkins yn canolbwyntio ar Ragfarn a Gwahaniaethu. Yn ystod y dydd cafodd disgyblion o flwyddyn deg y cyfle i gyfrannu at drafodaethau, chwarae rôl a chwarae gemau, a’r cyfan yn eu dysgu sut mae pobl yn trin ei gilydd yn gymunedol, yn gymdeithasol ac ar lawr gwlad mewn byd busnes a masnach. Dysgwyd llawer am dlodi a digartrefedd, hawliau dynol, rhagfarn a gwahaniaethu. Yng ngeiriau rhai o’r disgyblion, “Roedd yn ddiwrnod hwylus iawn. Roedd y gweithgareddau yn ein helpu i ddeall beth sy’n digwydd yn y byd heddiw, pethau nad ydym yn sylweddoli.”
Cyflwynwyd gwobr i Anwen gan Gadeirydd y Cyngor a Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd. Llongyfarchiadau mawr iddi!