Newyddion Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin

 

 

  Chwarae criced i Gymru

Llongyfarchiadau i Owain Binding bl 10, ar gael ei ddewis i garfan Criced Cymru dan 15 oed. Pob lwc Owain.

  Llwyddiant yn Eisteddfod yr Urdd

Bu nifer o ddisgyblion yr ysgol yn llwyddiannus yng nghystadlaethau Llenyddol a chystadlaethau Celf a Chrefft Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd. Dyma’r canlyniadau:

Gwaith llenyddol



Rhyddiaith Blwyddyn 12 a 13 – 2il - Rebeca Davies Bl.13

Stori fer dan 19 oed – 3ydd - Saran Richards Bl.12



Cywaith Bl 7 – 9 – 3ydd – Dosbarth Cymraeg 9B1

Celf a chrefft

Printiau du a gwyn Bl.7-9 – 1af – Ffion Richardson Bl.7

Argraffu ar ffabrig Bl.7-8 – 2il – Ffion Richardson Bl.7

Bydd y gwaith buddugol yn cael ei arddangos yn y babell Gelf a Chrefft yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd a bydd modd cael cipolwg ar y gwaith llenyddol buddugol yn y Cyfansoddiadau.

Dymuniadau gorau i bawb sy’n cynrychioli’r ysgol yn 
Eisteddfod yr Urdd Abertawe 2011.

  Canlyniadau Celf a Chrefft Rhanbarth Gorllewin Myrddin

Daeth disgyblion o’r ysgol i’r brig yng nghystadlaethau Celf a Chrefft yr Urdd, 
Rhanbarth Gorllewin Myrddin.

Printiau du a gwyn Bl.7-9 – 1af – Ffion Richardson Bl.7

Argraffu ar ffabrig Bl.7-8 – 1af – Ffion Richardson Bl.7

Print lliw Bl.7-9 – 2il – Ffion Richardson Bl.7

Print du a gwyn Bl.7-9 – 2il – Ffion Richardson Bl.7

Lluniadu 2D Bl.7-9 – 2il – Rhys Page-Gibby Bl.7

Printiau lliw Bl.7-9 – 2il - Elin Wyn James Bl.7

Llongyfarchiadau mawr i chi.

  CYSTADLEUAETH COGINIO EISTEDDFOD YR URDD 

Yn ystod y misoedd diwethaf bu nifer o ddisgyblion yn cystadlu yng nghystadleuaeth coginio’r Urdd. Y thema ar gyfer blynyddoedd 7, 8 a 9 oedd Prydau Cyflym. Roedd disgwyl i’r cystadleuwyr baratoi a gweini byrgyrs, dip a salsa sbeislyd mewn 1½ awr. Ar ôl cystadleuaeth frwd a feirniadwyd gan y cogydd enwog Dudley Newbury enillodd Angharad Thomas o ddosbarth 9-1 y rownd rhanbarthol a gynhaliwyd yng Ngholeg Pibwrlwyd.

Ar gyfer blynyddoedd 10, 11, 12 a 13 y thema oedd Prydiau Tymhorol ac roedd rhaid i Betsan Walters o ddosbarth 10-1 baratoi, coginio a gweini cawl pys mintys, cacennau sawrus Cymreig a phryd tro-ffrio tsili gyda chig oen Cymreig. Daeth Betsan yn drydydd yn y gystadleuaeth hon.

 Bydd y ddwy ohonynt yn cynrychioli’r rhanbarth yn y rownd derfynol ar y bws coginio yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Abertawe. Pob hwyl i’r ddwy.