Newyddion Ysgol Bro Myrddin

 

Gwasanaeth Nadolig: Roedd Eglwys San Pedr Caerfyrddin yn llawn ar gyfer Gwasanaeth Nadolig yr ysgol ar nos Fawrth Ragfyr 19eg. I ddechrau, cafwyd cyflwyniad a oedd yn ein hatgoffa am ystyr yr ŵyl gan y Pennaeth Mr Dorian Williams. Wedi diolch i bawb am hwyluso’r noson, aed ati i gyflwyno rhaglen amrywiol  o gerddoriaeth, darlleniadau a chyflwyniadau dramatig gan ddisgyblion iau a hŷn gyda chymorth athrawon ac yn arbennig athrawon Gwasanaeth Cerdd Sir Gaerfyrddin. Da oedd cael cymorth y cyn bennaeth Mr Eric Jones wrth yr organ.

Ymhlith y cyflwyniadau llafar, cafwyd darlleniadau gan Heulwen Evans, Rhiannon Mair, Lleucu Walters, Angharad Davies a Steffan Griffiths; cyflwyniad dramatig “Y Stwffin a’r Pwdin” gan Ddosbarth 7(3) gyda chymorth Rita Bevan a Siôn Ifan; monolog allan o “Shirley Valentine” gan Hannah Bowen; a “Yn Nyddiau Herod” (Eirian Davies) gan Barti Llefaru Blwyddyn 9.

 

Braint oedd cael gwahodd yr arweinydd enwog Carlo Rizzi i arwain y Grŵp Llinynnol Hŷn wrth iddynt gyflwyno’r darn Adagio i Linynnau gan Samuel Barber. Cawsai’r disgyblion fudd mawr o’r sesiwn ymarfer yn y bore a byddant yn trysori’r profiad o berfformio’n gyhoeddus dan faton y maestro. Ymhlith y datganiadau cerddorol eraill cafwyd Dilyn y Seren (Robert Arwyn) gan y Parti Bechgyn Hŷn; Nadolig (trefniant Larry Clark) gan Fand yr Ysgol; Gweddi’r Arglwydd  (trefniant Dulais Rhys) gan gorau’r ysgol; Cariad Crist (J.S.Bach) a Carol Dwy Fil (Heini Gruffydd a Meinir Richards) gan y Côr Iau; Ffantasi ar Nos Galan (trefniant Stephen Green) gan y Triawd Telyn, Gwenllïan Davies, Rhys Jones a Bethan Jones; Dathlu Pen blwydd Iesu Grist (John Rutter) gan y Côr Hŷn. Ymunodd y soprano Helen Gibbon a Chôr y Staff â’r Corau plant  i ganu O Ddwyfol Nos (A. Adam) cyn y fendith gan y Parchedig Ddoethur William Strange.