Newyddion Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin
Diwrnod cofio T Llew Jones
Ar ddydd Gwener y 15fed o Hydref fe gynhaliodd yr adran Gymraeg gwis ar gyfer disgyblion blwyddyn saith er mwyn dathlu diwrnod cofio T Llew Jones. Yn ystod y cwis cawsant gyfle i brofi'u dealltwriaeth am fywyd T Llew yn ogystal a cheisio dyfalu teitlau ei nofelau a'i gerddi mewn gemau o ‘pictionary.’ Roedd gan bob dosbarth banel o bedwar cynrychiolydd, a oedd yn cynnwys cymysgedd o fechgyn a merched, ac roedd y timoedd yn defnyddio byrddau gwyn bach er mwyn ysgrifennu eu hatebion. Profiad diddorol ac addysgiadol iawn.
Enillydd Tlws yr Ifanc
Enillodd Gethin Lewis Bl 13 Dlws yr Ifanc yn Eisteddfod Crymych ddydd Sadwrn y 10fed Hydref am ei waith creadigol. Llongyfarchiadau mawr iddo.
Clôd i Sgwad ‘Sgwennu Sir Gar
Ar 29ain o Fedi 2009 dewiswyd Nia Eyre a Delyth Davies, y ddwy o flwyddyn wyth, i gynrychioli Ysgol Bro Myrddin a Sgwad ‘Sgwennu Sir Gâr ar daith i Gaerdydd. Cafodd y ddwy gyfle i ymuno yn nathliadau pen-blwydd y Cynulliad yn 10 oed gan ymweld â’r Senedd-dy a threulio’r diwrnod ym mae Caerdydd, yng nghwmni Bardd Plant Cymru Ceri Wyn Jones. Bu’r diwrnod yn brofiad gwych i’r ddwy a chawsant gyfle i gwrdd â nifer o ddisgyblion eraill o bob cwr o Gymru yn ogystal â chyfansoddi darnau o farddoniaeth. Lluniwyd y gerdd hon yn ystod yr ymweliad:
Yn y bae teimlaf annibyniaeth yn craffu.
Yn y llechi mae penderfynu.
Yn y gwydr gwelaf drefn yn bloeddio.
Yn y cyfrifiaduron mae pleidleisio.
Mae Nia a Delyth yn rhan o Sgwad Sgwennu Sir Gâr ynghyd a thri disgybl arall o flwyddyn wyth sef Niamh Elain, Joseph Peace ac Aron Hughes. Edrychwn ymlaen yn eiddgar at glywed mwy o farddoniaeth gan y pump yn y dyfodol.
Ymwelydd o Kenya
Ar Ddydd Mawrth Medi 15ed cafodd Blwyddyn 8 y fraint annisgwyl o wrando ar Adullah Abdi o Kenya. Bydd nifer ohonom yn gwybod ble mae Kenya a llawer ohonom yn adnabod rhywun sydd wedi bod yno yn gweithio o bosib neu ar wyliau. Gwlad yn nwyrain Affrica yw Kenya ac roedd stori drist gyda Abdi i ddweud wrthom.
Daeth i sôn am y llwythau nomadig oedd wedi arfer byw yn nhiroedd isel y wlad honno. Roeddent wedi byw yno am flynyddoedd lawer yn teithio o un man i’r llall wrth iddynt chwilio am diroedd a dwr i’w hanifeiliaid. Roedd tua 7 miliwn o bobl felly wedi bod yn byw yn Kenya.
Bob unarddeg mlynedd fe fyddai blwyddyn sych – dim glaw o gwbwl ac fe fyddent yn disgwyl hyn ac yn paratoi amdano. Byddent yn paratoi dwy flynedd o flaen llaw - yn storio bwyd ar gyfer yr amseroedd caled.
Yna dyma’r diffyg glaw yn digwydd bob naw mlynedd ac yna bob saith a dim amser o gwbwl i baratoi. Erbyn heddiw mae’n digwydd bob yn ail flwyddyn.
Yn y chwarter canrif ddiwethaf mae pethau wedi newid yn ddifrifol. Mae’r bobl hyn wedi arfer â byw ar gig a llaeth ond oherwydd y diffyg dŵr nid yw’r anifeiliaid yn medru byw ac felly does dim bwyd a dim dŵr.
Mae’r bobl hyn yn brysur ddiflannu.
Doedd y bobl hyn ddim yn hedfan mewn awyrennau nag yn gyrru ceir ond maent yn dioddef effeithiau hedfan a gyrru a’r technolegau mwyaf uchelgeisiol y ganrif diwethaf. Mae’r ffordd yr ydym yn byw yn peri newid hinsawdd ac mae hyn yn cael effaith andwyol ar bobloedd y byd. Mae dŵr yn mynd yn brin ac yn achosi rhyfeloedd.
Roedd Abdi am i ni ei gefnogi mewn menter i newid yr hyn sy’n digwydd yr ochr arall i’r byd. Roedd am i blant y dyfodol newid ein ffyrdd o fyw fel bod pawb yn cael yr un cyfle i fywyd.
Gweithdy Cyfansoddwr Ifanc Dyfed
Ar ddydd Gwener, Hydref 16eg, aeth disgyblion TGAU a Safon Uwch yr Adran Gerdd ar daith i Ysgol y Gwendraeth i weithdy Cyfansoddwr Ifanc Dyfed. Eleni, pedwarawd sacsoffon oedd y ffocws, ‘Pedwarawd Lunar’. Aelodau’r pedwarawd oedd; Joel Carthwaite, Hannah Richs, Lewis Evans a Lauren Hamer, ac roeddent yn perfformio ar y sacsoffon soprano, alto, tenor a’r baritôn.
Lleolir y grŵp yng Nghaerdydd, ac maent yn bedwarawd sydd eisioes wedi derbyn nifer o gomisiynau gan gyfansoddwyr cyfoes, ac mae ganddynt raglen a chalendr eithriadol o brysur.
Perfformiodd y grŵp nifer o ddarnau a oedd yn arddangos eu sgiliau a hefyd yn dangos yr offerynnau ar eu gorau. Cawsom amrywiaeth o arddulliau, o’r clasurol i’r tango, o canon i jazz. Dangosodd y grŵp dechnegau oedd yn benodol i’w hofferynnau, a’r hyn y gellid ei wneud wrth gyfansoddi ar gyfer yr offerynnau hyn.
Cyflwynodd y gyfansoddwraig breswyl – Lynne Plowman dechnegau cyfansoddi a fydd o gymorth i ni wrth gyfansoddi ar gyfer yr offerynnau penodol hyn, ac edrychwn ymlaen at ei chroesawu i’r ysgol ar ôl hanner tymor i weithio gyda ni.
Adroddiad Hannah McCarthy Blwyddyn 12.
Llwyddiant Hanner Marthathon
Llongyfarchiadau mawr i Mrs Tracy Jenkins am gymryd rhan yn hanner marathon yng Nghaerdydd ar ddydd Sul y 16eg o Hydref, casglodd dros £600 i elusen Ffagl Gobaith. Trefnwyd y ras gan elusen Barnados.
Canlyniadau Chwaraeon
Gemau nos Fercher 30ain o Fedi 2009
Canlyniadau
Hoci
Blwyddyn 10
Bro Myrddin- 1 QEHS- 4
Tim cyntaf
Bro Myrddin- 0 QEHS- 0
Pêl Rwyd Blwyddyn 8
Bro Myrddin- 7 QEHS- 9
Blwyddyn 9
Bro Myrddin- 10 QEHS- 6
Blwyddyn 10
Bro Myrddin- 13 QEHS- 12
Blwyddyn 12 a 13
Bro Myrddin- 8 QEHS- 15
Canlyniadau Rygbi nos Iau 8 fed o Hydref yn erbyn Dyffryn Taf i ffwrdd.
Blwyddyn 8
Dyffryn Tâf 14 Bro Myrddin 17
Blwyddyn 9
Dyffryn Tâf 0 Bro Myrddin 43