Newyddion Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin

 

 Stamina Adroddiad gan Mared Dafydd Bl 9

  Aeth criw o ddisgyblion Blwyddyn naw, Cymraeg, Mrs. Helen Evans i ffilmio'r rhaglen boblogaidd ar S4C o’r enw “Stamina” yn y Rhondda. Roeddwn i yn un o’r disgyblion lwcus hynny a gafodd  y cyfle i golli diwrnod yn yr ysgol i fynd yno! Mi adawon ni'r ysgol am chwarter i wyth fore Dydd Gwener cyn hanner tymor er mwyn cyrraedd y Rhondda erbyn tua chwarter wedi naw. Ar ôl i’r cyfarwyddwr gyflwyno'r criw i gyd a rhoi pawb yn eu lle priodol mi ddechreuon ni’r ffilmio. Gwahoddwyd dwy ferch a oedd yn bencampwyr tennis bwrdd i siarad ar y rhaglen ac mi gefais i a fy ffrindiau gyfle i siarad gyda nhw. Roedd Megan ac Angharad yn byw yn Ninbych yng Ngogledd Cymru.  Gan ein bod ni’n astudio gwaith ffilm a theledu yn ein gwersi Cymraeg ar hyn o bryd, roedd gweld y cyfarwyddwr a’r aelodau eraill o’r tîm cynhyrchu wrth eu gwaith yn ddiddorol iawn.  Edrychaf  ymlaen i weld y rhaglen ar S4C yn fuan.  Fe fydd sawl wyneb cyfarwydd i’w weld rwy’n siŵr!

 


Rhai o ddisgyblion Ysgol Bro Myrddin yn gwenu’n braf yng
nghwmni cyflwynwyr  y rhaglen  “Stamina.”