|
Noson
Lawen ar S4C gyda seren o Ysgol Bro Myrddin
Cofiwch wylio Noson Lawen ar S4C ar ddydd Nadolig pan fydd un
o ddisgyblion Ysgol Bro Myrddin, Siwan Fflur Dafydd yn serenu ar y
llwyfan enwog. Noson o ddathliad fydd hi; dathliad o ddoniau pobl ifanc
o bob cwr o Gymru gyda Eleri Sion yn cyflwyno cantorion, offerynwyr a
chomedïwyr o fri.
Bydd y gynulleidfa yn ei dyblau'n chwerthin yng nghwmni Siwan. Noson
Lawen – 7 o’r gloch ar ddydd Nadolig – cofiwch wylio a chefnogi
Siwan Fflur Dafydd! Bydd ail ddarllediad nos Wener, 30 Rhagfyr @ 19.00
Cystadleuaeth
Cerddor Ifanc Dyfed 2011
Llongyfarchiadau mawr i Cathryn Rees, Blwyddyn 11 ar gipio'r
ail wobr yng Nghystadleuaeth Cerddor Ifanc Dyfed 2011, cystadleuaeth a
gynhaliwyd yn Ysgol Penglais, Aberystwyth yn ddiweddar. Mae Cathryn sy'n
canu'r ffidil ers yn blentyn ifanc, yn hen gyfarwydd â chystadlu, ac
wedi profi llwyddiant droeon oherwydd ei dawn. Enillodd Wobr David ac
Ann Griew sef £100.00 a hefyd £30.00 o gronfa Ymddiriedolaeth
Peter Gould. Dymuniadau gorau iddi i'r dyfodol.
Tyfu
Grav -
Y
Gymdeithas Farfol!
Eleni
mae athrawon gwrywaidd (a blewog!!) yr ysgol wedi tyfu barf yn ystod Mis
Tachwedd er mwyn codi arian i elusen y diweddar Ray Gravell - chwaraewr rygbi
enwog sy’n parhau i’n hysbrydoli heddiw. Mae’r elusen yn cefnogi
unigolion ac achosion gwahanol yng Ngorllewin Cymru. Braf yw gweld, felly, fod
cymaint o ddynion y staff wedi tynnu sylw at y gwahanol achosion drwy godi
arian ar ran yr ysgol. Mae Manon Gravell o flwyddyn 12 a Gwenan Gravell o
flwyddyn 9, hefyd yn hybu elusen eu tad.
“Rwy’n
teimlo’n falch iawn fod pawb wedi dangos cymaint o gefnogaeth i’r elusen.
Hoffwn ddiolch i bawb a wnaeth gymryd rhan” meddai Manon Gravell.
Nid
gaeaf oer fydd yn wynebu’r canlynol felly - Mr Euryn Madoc Jones, Mr Gwyn
Jones, Mr Gareth Jones, Mr Alun Thomas, Mr Aled Williams, Mr Alan Roberts, Mr
Mark Morris, Mr Iwan Harris, Mr Wyn Mainwaring, Mr John Norgrove, Mr Tim
Hayes, Mr Rhys Roberts, Mr Owen Rhys a Mr Llyr Lloyd .
Diolch
i bawb am eu noddi.
|