|
Ymddeoliad Hapus
Diwedd
y tymor hwn byddwn fel ysgol yn ffarwelio gydag aelod gwerthfawr o staff
sydd wedi bod yma o’r dechrau cyntaf o 1978 hyd at y presennol sef ein
dirprwy Mrs Meinir John. Dechreuodd ei thaith ym Mro Myrddin fel
Pennaeth yr Adran Gwyddor Tŷ pan agorodd yr ysgol yn Medi 1978 a chyn
hynny roedd wedi dysgu am 3 blynedd yn Ysgol Uwchradd Ystrad Tywi yn
Nhreioan. Datblygodd ei chyfrifoldebau yn fuan ac yn Medi 1988
dechreuodd fel Pennaeth Ysgol Ganol yn gyfrifol am ofal bugeiliol a
disgyblaeth blwyddyn 10 ac 11. Ar y pryd roedd hefyd yn bennaeth adran
Gwyddor Tŷ. Yn ystod y cyfnod o 1978 tan 1988 bu hefyd yn Bennaeth ar
lys Hergest. Yna, ym Medi 1998 dechreuodd ar ei swydd bresennol fel
Dirprwy Bennaeth yr ysgol yn dilyn ymddeoliad Mr Wynne Jenkins. Mae’n
dal yn llenwi’r swydd honno, ond ar ddiwedd y tymor hwn, mae’n gyfle
i newid byd a dymunwn bob hapusrwydd yn ei hymddeoliad.
Cyfweliad
â Mrs John gan Ennlli ac Gwenno
Beth
yw eich atgof mwyaf cofiadwy ?
Y
diwrnod cyntaf ym Medi 1978 a 213 o ddisgyblion wedi dewis addysg
Gymraeg. Gwireddu breuddwyd wedi deng mlynedd o ymgyrchu gan bobl yr
ardal - o’r diwedd yr oedd Ysgol Gymraeg yn agor yn y dre. Bu ymgyrchu
brwd gan ddechrau gyda chriw bach o bobl yng nghanol 60au’r ganrif
ddiwethaf - Ifan Dalis Davies, Islwyn Ffowc Elis, Tecwyn Lloyd ac T
James Jones a’u gwragedd. Roeddwn i hefyd fel disgybl wedi ymgyrchu
pan yn Ysgol Ramadeg y Merched i gael ysgol Gymraeg gan fod ein haddysg
ni bron yn gyfan gwbl yn Saesneg heblaw am wersi Cymraeg ac Addysg
Grefyddol. Er bod nifer o’n hathrawon yn medru’r Gymraeg prin iawn y
clywem yr iaith yn yr ysgol. Ethos hollol Seisnig oedd yn yr ysgol
honno.
Sut
mae’r ysgol wedi newid ?
Wedi
tyfu o’r 213 disgybl gwreiddiol ym 1978 i 900 heddiw a’r adeilad
hardd sydd gyda ni nawr o’i gymharu â’r hen adeilad yn y dre.
Beth
fyddwch yn gweld ei eisiau?
Cwmni’r
disgyblion a’r staff
Beth
na fyddwch yn gweld ei eisiau?
Y
gwaith papur diddiwedd !!
A
oeddech chi wastad am fod yn athrawes?
Oeddwn
am wn i.
Pa
bynciau i chi wedi dysgu ? -
Coginio, Tecstilau, Cymraeg ac Addysg Grefyddol.
Pa
athro / athrawes oedd wedi dylanwadu fwyaf arnoch chi?
Fel
disgybl ysgol yr un a gafodd y fwyaf o ddylanwad arna i oedd Beti
Hughes, Pennaeth yr Adan Gymraeg yn ysgol Ramadeg y Merched ac a ddaeth
wedyn yn Ddirprwy Brifathrawes gyntaf Bro Myrddin. Cefais y fraint o fod
yn ddisgybl iddi a chydweithio gyda hi yn ddiweddarach yn yr ysgol hon.
Un oedd yn meithrin Cymreictod ynoch heb i chi sylweddoli ei bod yn
gwneud hynny
Fel
athrawes yr athro a gafodd y dylanwad mwyaf arnaf i oedd Mr Wynne
Jenkins - y Dirprwy Bennaeth o’m blaen. Wrth ddilyn ei esiampl ef y
sylweddolais bwysigrwydd disgyblaeth gadarn, gyson a theg er mwyn
sicrhau bod disgyblion yn meithrin hunanddisgyblaeth. Braint i mi oedd
cael olynu Wynne pan ddaeth yr amser iddo ymddeol yn 1998.
Pa
lys yw’r gorau yn yr ysgol?
Mae
pob llys yn gweithio’n galed ac yn cyfrannu at fywyd diwylliannol yr
ysgol ond gan i mi fod yn Bennaeth ar Lys Hergest am 10 mlynedd rhaid
dweud bod lle cynnes iawn yn fy nghalon i’r llys hwnnw. Mae’n
ddiogel i mi ddweud hynny erbyn hyn!!
Sut
rydych chi wedi elwa o fod yn yr un ysgol am 33 mlynedd ?
Mae
sefydlogrwydd staff yn elfen bwysig iawn o lwyddiant unrhyw ysgol ac mae
adnabod y disgyblion a’u teuluoedd yn gymorth mawr i gynnal safonau
academaidd a disgyblaeth. Gan fy mod erbyn hyn wedi dysgu rhieni nifer
fawr o ddisgyblion yr ysgol teimlaf fod y ddolen gyswllt yn bwysig. Fel
ysgol rydym yn ffodus iawn o’n staff ymroddedig a sefydlog ac mae’r
elfen deuluol yn parhau, a gofal yn bwysig iawn wrth ymdrin â
disgyblion a staff. Mae’r Prifathro, Mr Dorian Williams, a'r Staff yn
gweithio fel tîm er lles y disgyblion ac yn gofalu am ei gilydd hefyd.
Unrhyw
gyngor i’r Dirprwy newydd ?
Mwynhau’r
gwaith a sicrhau bod pobl yn dod o flaen papur. Dyna’r cyngor a gefais
i gan Mr Eric Jones wrth iddo fy mhenodi yn Ddirprwy. Cyngor doeth gan
Brifathro doeth a chadarn.
Beth
ydych chi yn bwriadu gwneud ar ôl ymddeol ?
Mwynhau
a manteisio ar y cyfle i wneud yr hyn nad oedd amser i’w wneud pan yn
dysgu.

Ein
Dirprwy ni M.J.
Golyga
ymddeoliad Mrs Meinir John, ein Dirprwy, ddiwedd cyfnod yn hanes Bro
Myrddin.
Fel
athrawes, rheolwraig ac arweinydd bu iddi gario gwerthoedd yr ysgol hon
gyda hi drwodd o 1978 hyd heddiw. Gŵyr miloedd o ddisgyblion a llu o
staff ar hyd cyfnod o 33 blynedd ei bod hi wedi llwyr ymrwymo i
ddisgwyliadau uchel gan anelu’n gyson at y safonau uchaf posibl o ran
ymddygiad. Hefyd, cydnabyddaf ei hymrwymiad i bopeth gwerth chweil
sy’n gysylltiedig ag addysg cyfrwng Cymraeg llwyddiannus. Gyda chof da
am enwau, roedd Mrs John yn adnabod pawb ac, o ganlyniad, yn medru cofio
cysylltiadau teuluol nôl dros dri degawd. Tipyn o gamp a chyfraniad
hollbwysig i naws deuluol yr ysgol.
Dyma
Ddirprwy a weithiodd yn egniol a brwdfrydig yn enw Bro Myrddin, a gwneud
hynny’n gyson gyda sglein. Roedd hi’n cylchdroi’n ddyddiol yn
rhinwedd ei swydd yng nghanol bwrlwm a threfniadaeth ysgol hynod brysur.
Roedd hyn yn rhoi boddhad amlwg iddi, ac roedd yr effeithiolrwydd
trylwyr sy’n nodwedd mor amlwg o’i gwaith yn cael ei werthfawrogi
gan bob un o’i chydweithwyr.
Ymddeoliad
haeddiannol sydd o’i blaen, a diolchaf iddi yn bersonol am bob
cymwynas i minnau fel Prifathro.”
Dorian
Williams

Noson rieni newydd
Ar nos
Iau, Gorffennaf cynhaliwyd noson rieni newydd yn neuadd Ysgol Bro
Myrddin. Roedd disgyblion Blwyddyn 6 wedi bod ar ymweliad yn yr ysgol
trwy’r dydd ac yn geron ar y cyfan cafwyd noson o rannu gwybodaeth. Ar
y nosom hefyd cyflwynwyd siec a £4,000 gan y gymdeithas rieni i’r
ysgol- arain a gasglwyd gan y gymdeithas rieni ar hyd y flwyddyn. Diolch
i bawb am eu cefnogaeth.
Mrs
Mandy Walters, cadeiryddes y gymdeithas rieni yn cyflwyno siec
o £4,000 i brifathro Ysgol Bro Myrddin.

Taith
Tri Chopa Bro Myrddin
Ar
ddydd Iau Mehefin 23ain aeth carfan o ddisgyblion blwyddyn 12 ati i
gwblhau taith y tri copa yn llwyddiannus. Roedd cyflawni taith o’r
fath yn dipyn o her, ond dyna yn union a wnaeth 28 disgybl a sawl aelod
o staff. Roedd y daith yn cynnwys cerdded i gopa Pen y Fan, Cader Idris
a’r Wyddfa o fewn 24 awr. Dyma daith oedd yn gofyn am frwdfrydedd a
dyfalbarhad, heb y rhain, fe fyddai pawb wedi methu.
Dechreuwyd
y daith am 7 o’r gloch ar fore dydd Iau gyda phawb yn hanner cysgu ac
yn nerfus am yr hyn oedd yn eu hwynebu. Wrth gyrraedd Pen y Fan, roedd
pawb yn awyddus i gyrraedd y brig, ac er dyma’r copa isaf o’r tri,
yn 823 metr o uchder, nid gwaith hawdd oedd cyrraedd y brig, yn enwedig
gyda’r niwl isel. Cadarnhaodd yr athrawon wrth i ni gwblhau Pen y Fan
mai ni oedd y grŵp cyflymaf ers blynyddoedd, er bod sawl un yn
teimlo’n hynod o flinedig ar ôl dringo’r mynydd.
Yn
ôl ar y bws mini wedyn am daith dair awr i Ogledd Cymru i ddringo’r
mynydd nesaf, yr un mwyaf anodd yn ôl yr athrawon, Cader Idris. Roedd y
mynydd yn 893 metr uwchben lefel y môr a llwyddodd ambell aelod o’r
grŵp ei gwblhau mewn amser nodedig o 2 awr a chwarter. Roedd y daith yn
un fentrus ac anturus tu hwnt wrth i ni gerdded ar lwybr gyda chwymp o
200 metr lawr ochr y clogwyni.
Wrth
deithio i'r hostel, cafwyd sioc wrth ddarganfod nad gwesty 5 seren oedd
yn aros amdanom, ond gwesty heb unrhyw seren! Er hyn, daeth cwsg
anesmwyth ac yna her copa uchaf Cymru – Yr Wyddfa! !
Roedd
pawb yn amlwg wedi blino o’r diwrnod blaenorol, ond gwnaeth pawb eu
gorau glas wrth ddringo’r mynydd oedd yn 1085 metr o uchder. Roedd wir
yn sialens ond wrth weithio fel grŵp a chymell ein gilydd, cyrhaeddodd
y disgyblion a’r staff gopa’r mynydd mewn amser da er mwyn cael
amser i ymlacio a mwynhau’r golygfeydd ysblennydd yn y caffi.
Bu’r
grŵp yn lwcus gyda’r tywydd, arhosodd yn sych am y ddau ddiwrnod
cyfan. Fe wnaeth pawb fwynhau’r profiad gwych a roddwyd iddynt gan yr
adran chwaraeon a theimlai pawb falchder mawr yn eu camp. Diolch i’r
holl athrawon am eu cwmni ar y daith ac yn enwedig i Mr Hefin Elias am
drefnu’r digwyddiad.
Adroddiad
gan Emily Thomas a Dewi Jones
|