Newyddion Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin
Dymunwn Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i bawb!!
Roedd y sêr yn disgleirio i Ysgol Bro Myrddin ar nos Fercher y 16eg o Ragfyr pan gafwyd noson wrefreiddiol o ganu yng Nghapel y Tabernacl yn y dref. Dechreuwyd y noson gyda detholiad o’r seremoni Garolau, Benjamin Britten gan y côr iau o dan arweiniad Mrs Helen Gibbon. Canwyd i gyfeiliant tair telynores o’r ysgol sef Elan Ward, Lowri Mai Evans a Nia Griffiths. Yn dilyn cafwyd deuawd gan Ceirios Davies a Gethin Lewis, unawd ffliwt gan Catrin Price a datganiad gan Ensemble Lleisiol y Chweched dosbarth a’r Parti Bechgyn Hyn. Gwefreiddiwyd y gynulleidfa ymhellach gan y côr hyn, aelodau o staff a’r unawdwyr Aled Edwards a Helen Gibbon yn canu Atgof o’r sêr o dan arweiniad Mrs Meinir Richards. Uchafbwynt y noson oedd y gan olaf -Mae’r ser yn canu, gan fod bron i 200 o gantorion yn y côr pan unwyd y ddau gôr yn y clo. Y cyfeilyddion oedd Mr Christopher Davies , Mrs Nia Evans, Mr Steve Metcalfe a Llew Hopwood. Braf oedd gweld y capel o dan ei sang ac roedd yr awyrgylch yn sicr yn drydanol. Diolch i bawb a gyfrannodd at noson tu hwnt o lwyddiannus a oedd yn goron ar dymor o waith caled i bawb.
Panto y Chweched Dosbarth
Unwaith eto, daeth hi’n amser i flwyddyn deuddeg gymryd y sialens o greu eu panto blynyddol i ddiddanu disgyblion blwyddyn 6 y dalgylch a blwyddyn 7 ac 8 yr ysgol. Sinderelaoedd hi i fod y flwyddyn hon ac mae’n rhaid dweud bod y perfformiadau wedi bod yn hynod o liwgar, bywiog a llawn hwyl a sbri. Castiwyd Teleri Williams fel Sinderela ac mae’n rhaid dweud bod ei pherfformiad yn un credadwy a chanmoladwy. Fel mewn pob panto, mae’n rhaid cael y rhai doniol a drwg a’r llys–chwiorydd hyll, Sal a Lw sef Ceirios Davies a Guto Ifan, a’u mam sef Steffan Griffiths oedd y rhain. Cafwyd llwyth o chwerthin yn ystod perfformiadau doniol dros ben y tri. Gwnaeth y corws eu rhan yn wych drwy gyfleu’r corachod cyfeillgar a’r “baddies” drwg. Roedd y caneuon yn hwyliog a chafwyd ymateb byw gan y gynulleidfa. Rhaid canmol proffesiynoldeb y band a’r bobl sain a golau, oedd hefyd yn aelodau o flwyddyn 12. Y disgyblion oedd yn gyfrifol am y sgript, gwisgoedd, colur ac yn wir yr holl gynhyrchiad, gyda help llaw parod Mrs Lowri Davies. Rhaid canmol safon y perfformiad a baratowyd mewn amser hynod o fyr. Clyfar iawn oedd sut y llwyddodd y disgyblion i blethu'r stori hanesyddol i fewn i bantomein difyr a chyffrous. “Panto prysur penigamp” yn ôl pennaeth balch y chweched, Mr Hayes, ac yn wir rhaid cytuno â’i eiriau. Gadawodd pawb y neuadd yn teimlo’n hynod o hapus ac yng ngwir ysbryd yr ŵyl.
Swydd Newydd
Pob lwc i Dr Mererid Hopwood yn ei swydd newydd gyda Choleg y Drindod ar ôl bod gyda ni am chwe mlynedd. Byddwn yn gweld ei heisiau yn fawr.
Canlyniadau Chwaraeon
Bro Myrddin yn erbyn Dyffryn Amman
Blwyddyn 8 rygbi - 72 i 0 (ennill)
Blwyddyn 10 rygbi - 33 i 17 (colli)
Blwyddyn 11 pêl-droed – 1 i 1 (cyfartal)
Rola Hoci
Llongyfarchiadau i Aron Hughes flwyddyn 8 ar ennill twrnament rola hoci dros Gymru yn Rotherham yn ddiweddar.
Nofio
Llongyfarchiadau i Hannah Reynolds blwyddyn 9 fu’n cystadlu yn y “British Gas Winter Nationals” yn Abertawe. Cafodd dwy fedal efydd yn y 100m a’r 200m cefn.
Llongyfarchiadau i’r nofwyr canlynol, Steffan William, Lewis Jones, Rhys Evans, Daniel Jones a Beth Jones ar gael ei dewis i gynrychioli Dyfed yn y pencampwriaeth Sirol sy’n cael ei gynnal ar Ddydd Gwener y 29 ain o Ionawr 2010 yn Aberhonddu.