Newyddion Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin

 

 

Bowliwr o Fri!
Ar ddydd Iau, Chwefror y 3ydd, bu Morgan Holmes o flwyddyn 7 yn cystadlu yn ‘ Gêm derfynol Bowlio dan do Cymru o dan 16’ ’ yn Abertawe. Braf nodi bod hyn yn ei hun yn gamp gan taw Morgan yw’r ieuengaf mewn hanes i ennill ei le yn y gystadleuaeth. Bu Morgan yn chwarae gyda’r ugain bowliwr gorau yn y byd. Bu yn ffodus o gael ei gyfweld gyda’r BBC, oedd yn darlledu’r gystadleuaeth honno. Llongyfarchiadau iddo!

Arian i ward y plant Cilgerran, Glangwili
Yng nghinio Nadolig blynyddol y Chweched, manteisiwyd ar y cyfle i godi arian ar gyfer Ward y Plant, Glangwili. Codwyd yr arian drwy nifer o weithgareddau megis y raffl. Cyflwynwyd siec o £250 i bennaeth Nyrs ward y Plant, Cilgerran, gan Beca Davies, Guto Ifan, Sion Page, Curon Howells ,Alis Lewis a Lowri Howells. Hoffai’r Prif ddisgyblion ddiolch i bawb a gyfrannodd.

 

Llwyddiant ar y cae rygbi
Llongyfarchiadau i’r Tîm Rygbi am ennill gêm gwpan yn erbyn ysgol y Strade, Ddydd Sadwrn y 12fed o Chwefror. Da iawn chi fechgyn!

Cystadleuaeth Polo Dŵr
Ar Ionawr 15 a 16, 2011 cynhaliwyd Cystadlaethau Rhanbarthol Polo Dŵr yng Nghymru am y tro cyntaf. Yn cynrychioli Tîm Ieuenctid Polo Dŵr Cymru oedd pedwar bachgen o Flwyddyn 10 sef Lewis Jones,  Steffan Williams, Rhys Meredith a Gethin Rees. Roedd y gystadleuaeth yn cynnwys y goreuon o ranbarthau o Loegr ac Iwerddon. Roedd yn anrhydedd i'r bechgyn yma gynrychioli  eu gwlad ac Ysgol Bro Myrddin mewn cystadleuaeth o’r radd uchaf.