Newyddion Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin

 


 

Taith Byd Eang 2010

Dymuniadau gorau i garfan o 55 o ddisgyblion Bl11 a 12 ac athrawon Ysgol Bro Myrddin a fydd yn gadael ar daith chwaraeon [rygbi, pelrwyd a hoci] a fydd yn galw yn Singapore, Melbourne, Sydney, Fiji a Los Angeles. Fe fyddwn yn gadael bore Gwener y 9fed. O Orffennaf ac yn dychwelyd ar ddydd Iau 29ain  gyda phob un o’r timau wedi chwarae pum gem yr ‘un.

Hoffai’r garfan  ddiolch yn fawr iawn i bob un o’r unigolion a busnesau lleol [73 ohonynt] sydd wedi eu cefnogi gyda nawdd ac yn arbennig y prif noddwyr, Rhodri Evans Ffoshelig [crysau rygbi], LAS Recycling, Llanbed [crysau hoci a pelrwyd], B&A Cranes, Trimsaran [crysau T] a Druids Pubs sydd wedi noddi’r bagiau teithio. Mae pob aelod o’r garfan yn gwerthfawrogi eu cyfraniad.

 

Taith Byd Eang 2010: Noson ffarwelio ar gyfer y trip - 30.06.2010
Enillwr y Raffl (I'r noddwyr) -
RHIF 65 = RAYMOND WALTERS
Enillwyr y Raffl ar gefn y llyfryn taith : 1af - Gwyliau - Mrs Williams, 2il - Dros nos yn y Cawdor - Eira Skinner, 3ydd - Taleb PC World - Margaret Griffiths, 4ydd - Glanhawr - Andrew Davies, 5ed - Blodau - Ffion Page, MP3 - Rebecca Williams, Potel o win - Alwen Davies, Potel o win - Molly Jones.

 

Gwaith Gwirfoddol

Ers dechrau mis Medi 2009 mae  Blwyddyn 12 wedi bod yn gwirfoddoli yn ystod eu hamser rhydd ar gyfer  gwneud rhywbeth o fudd i eraill pan nad oeddent mewn gwersi.

Rhai yn yr ysgol - gwahanol glybiau a gweithdy rhifedd/darllen, rhai mewn siopau a mudiadau elusennol yn y dre, e.e. Oxfam, Barnardos, Cartrefi hen bobl, ymweld â chleifion ysbyty, ysgolion Sul, rheilffordd Gwili i enwi ond rhai.

 

Roedd gofyn iddynt gyflawni 20 ain awr dros y flwyddyn, ond roedd ambell i unigolyn brwd wedi gwneud dros 200 o oriau!

 

Cyfanswm oriau pawb gyda'i gilydd oedd 3,500.

Am hyn roedd pob myfyriwr yn derbyn tystysgrif i ddangos eu llwyddiant yn y Gwasanaeth yn ddiweddar.

Oriel Llyfrgell Caerfyddin

Roedd Oriel Llyfrgell Caerfyrddin dan ei sang yr wythnos ddiwethaf wrth i egin-arlunwyr o’r ardal arddangos eu doniau celf.

Adran Gelf Ysgol Bro Myrddin, Caerfyrddin oedd wedi trefnu’r arddangosfa i roi cyfle i ddisgyblion Blwyddyn 12 a 13 ddangos eu gwaith cwrs Lefel A ac Uwch Gyfrannol i’r cyhoedd.

Agorwyd yr arddangosfa ar 14 Mehefin gyda noson breifat i deulu a ffrindiau’r disgyblion, ac yna roedd ar agor i’r cyhoedd am ddeg diwrnod.

Roedd yr arddangosfa’n cynnwys cyfuniad o gyfryngau gan gynnwys tecstilau, cerfluniau, paentiadau, crochenwaith, fideo, graffiti a gosodwaith.

Dyma’r tro cyntaf i Adran Gelf Ysgol Bro Myrddin gynnal arddangosfa o’r fath ac roedd yn gyfle i godi statws y pwnc yn ogystal ag arddangos gwaith y disgyblion. Roedd hefyd yn gyfle i’r disgyblion gael profiad o greu arddangosfa.

“Mae wedi bod yn llwyddiant ysgubol,” meddai Kathryn Richards, Pennaeth Adran Gelf Bro Myrddin, “ac fe fyddwn yn sicr yn trefnu arddangosfa arall y flwyddyn nesaf. Mae wedi bod yn brofiad gwerthfawr iawn i’r disgyblion ac mae hefyd wedi bod yn gyfle i’r cyhoedd weld y gwaith gwych y mae’r disgyblion hyn yn ei wneud.”

Hoffai Ysgol Bro Myrddin ddiolch i Mrs Richards ac i Wyn Mainwaring, Athro Celf yn yr ysgol, a hefyd i Mr Alun Davies, Athro Sgiliau Adeiladwaith a’r disgyblion, am eu cymorth yn gosod yr arddangosfa ac am bob cydweithrediad.