Newyddion Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin
Pencampau: Ddydd Mercher 9fed o Orffennaf aeth criw o flwyddyn 9 a 10 i Stiwdio Enfys yng Nghaerdydd i gystadlu yn y Cwis deledu “Pencampau” a fydd yn cael ei ddarlledu ar S4C ym Mis Tachwedd. Yn ôl Mr Tim Hayes “Roedd hi’n gystadleuaeth hynod o frwd wrth i’r bechgyn ddangos eu gwybodaeth am y byd chwaraeon. Steffan Griffiths ac Aled Evans o flwyddyn 10 oedd yn chwysu yng ngwres y goleuadau yn canolbwyntio wrth geisio ateb yr holl gwestiynau. Rhaid eu canmol am wneud mor ardderchog. Rhaid aros tan mis Tachwedd i glywed y canlyniad.
Ieuenctid yn Gyntaf: Er mwyn dathlu llwyddiannau prosiect Menter Cwm Gwendraeth sef y prosiect “Ieuenctid yn Gyntaf”, gwahoddwyd hanner cant o ddisgyblion yr ysgol i ymuno yng ngweithgareddau’r diwrnod yng Nghanolfan Selwyn Samuel , Llanelli ar Orffennaf y cyntaf.Yno darparwyd nifer o weithgareddau ar gyfer disgyblion Blwyddyn Naw a Deg. Wedi’r cyflwyniad a’r cyfle i weld sawl ffilm a gynhyrchwyd gan bobl ifanc y fenter , cafodd y disgyblion y cyfle i wrando ar sawl band roc a chantorion ifanc y fenter. Diddanwyd y gynulleidfa ifanc yn fawr iawn gan y gerddoriaeth gyfoes. Wedi cinio blasus, cafodd y disgyblion hwyl a sbri yng ngerddi’r ganolfan. Trefnwyd wal ddringo, a chwrs ymosod ddigon heriol i hyd yn oed y gorau! Diwrnod hwylus iawn!
Ffarwelio: Ar ddiwedd blwyddyn academaidd arall mae’r ysgol yn ffarwelio â sawl aelod o staff. Ymddeoliad hapus i Mr Huw Davies, Mrs Meryl Richardson a Mrs Eiriona Griffiths. Dymuniadau gorau i Mr Wyn Evans a Miss Claire Williams yn eu swyddi newydd yn Ysgol Tregib ac i Miss Nia Thomas a Miss Lowri Harries yn eu swyddi newydd hwythau hefyd.