Newyddion Ysgol Bro Myrddin

 

Taith Auschwitz: (Adroddiad gan Siân Davies a Swyn Davies, Blwyddyn 11)

Bu deugain o ddisgyblion hyn yr ysgol yn ffodus iawn i gael cyfle gan yr Adran Hanes i fynd ar daith i wlad Pwyl ar yr 20fed o Chwefror. Cyfle gwych i brofi diwylliant y wlad ac i weld y gwersyll bydenwog.

Ein hargraffiadau cyntaf wrth lanio yn y maes awyr oedd ei bod yn wlad llwm. Er  y blinder, aethom yn syth i’r gloddfa halen. Rhyfedd oedd gweld cerfluniau ac yn wir eglwysi wedi’u cerfio o halen a hynny filltir o dan y wyneb!

Y noson honno, cawsom y cyfle cyntaf i ymweld â thref hanesyddol Krakow. Braf oedd gweld yr hen bensaerniaeth ysblennydd a chlywed yr hejnal, neu’r alwad drwmped a genir i bedwar ban byd o dwr Eglwys y Santes Fair bob awr.

Dydd Iau oedd uchafbwynt y daith wrth inni ymweld â gwersylloedd Auschwitz a Birkenau. Profiad emosiynol a thrist oedd gweld sut y cafodd yr Iddewon eu trin yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Roedd y tawelwch yn dyst i’r ffaith ein bod ni oll mewn syndod, yn enwedig wrth weld eiddo personol y dioddefwyr.

Wedi dychwelyd i Krakow, cawsom gyfle i siopa cyn mynd am bryd o fwyd mewn bwyty Iddewig yn Kazimierz, sef yr ardal Iddewig ar ochr ddeuheuol y ddinas. Yno, cawsom brofi’r fwydlen Iddewig a gwrando ar gerddoriaeth fyw draddodiadol.

Ffash Bash: Ar yr 22ain o Chwefror, cynhaliwyd Sioe Ffasiynau a drefnwyd gan ddisgyblion 6ed dosbarth yr Adran Busnes a Hamdden. Cefnogwyd y noson gan Marks & Spencer a bu nifer o athrawon yr ysgol yn modelu’r dillad. Arweinydd y noson oedd Huw Rees – wyneb cyfarwydd ar y rhaglen “Wedi 7”. Rhaid diolch am yr holl gyfraniadau gan fusnesau lleol a hefyd i “Castell Howell” am noddi’r lluniaeth. Bu’r noson yn un llwyddiannus ac o ganlyniad i hyn casglwyd dros £1000 a fydd yn cael ei rannu’n gyfartal rhwng dwy elusen, “Breakthrough Breast Cancer” ac “Uned Tŷ Llewelyn, Ysbyty Glangwili”.

Mentrau Celtaidd: Ar y trydydd o Fawrth bu tîm o’r ysgol yn cystadlu yn rownd derfynol Mentrau Celtaidd yn Nhafarn yr Hanner Ffrodd, Nantgaredig. Aelodau’r tim oedd Marc Bowen, Iwan Griffiths, Steffan Jenkins a Steffan Griffiths a’u hathrawes oedd Rhian Bowen. I gyrraedd y rownd hon, roeddynt ers mis Medi wedi sefydlu busnes cynhyrchu matiau llygod i gyfrifiaduron. Roedd rhaid creu cynllun busnes, rhoi cyflwyniad pwerbwynt, llunio adroddiad a gosod arddangosfa. Cafodd y tîm gyfweliad byr ar y diwrnod a’r beirniaid yn canolbwyntio ar sgiliau gyfathrebu, gwaith tîm, datrys problemau a ffocws ar gwsmeriaid. Tîm Hendy Gwyn ar Daf oedd yn fuddugol o Sir Gâr.

Defnyddwyr Ifainc: Yn ddiweddar bu disgyblion yr Adran Busnes, Katrina Rees, Steffan Evans,Cerith Bevan,Owen James ac Andrew Davies yn cystadlu yng nghystadleuaeth Defnyddwyr Ifainc y Flwyddyn  yn Neuadd y Dref, Llanelli gan ddod yn drydydd. Cystadleuaeth yw hi i bobl ifainc rhwng 14 ac 17 oed ar ffurf cwis sydd yn canolbwyntio ar y gyfraith a defnyddwyr, arian, credyd a chyllid, materion amgylcheddol, bwyd a diogelwch. Llongyfarchiadau i aelodau’r tîm am gymryd rhan. Mae’n sicr eu bod yn fwy ymwybodol o’u hawliau a’u cyfrifoldebau fel defnyddwyr ar ôl cystadlu.

Cwrs Pontio: Cynhaliwyd y Cwrs Pontio i ddarpar ddisgyblion Ysgol Bro Myrddin yn Llangrannog o Ionawr y 30ain hyd at yr 2il o Chwefror. Aeth criw o athrawon ynghyd ag aelodau o chweched dosbarth yr ysgol i ofalu am ddisgyblion Blwyddyn 6 ysgolion cynradd y dalgylch.Cafwyd blas ar nifer o weithgareddau amrywiol fel sgio, gwibgartio, merlota, nofio, chwaraeon a’r trampolin yn ystod y dydd a gyda’r nos, bu’r swyddogion yn brysur yn trefnu gweithgareddau ychwanegol fel disgo, tynnu rhaff ac eisteddfod. Ddydd Mercher, aeth pawb am dro lawr i draeth Llangrannog lle roedd rhaid tynnu llun wrth gwrs!

Wrth gyrraedd y maes awyr y diwrnod canlynol, cawsom syndod i glywed bod yr awyren wedi’i gohirio. Ond ar ôl oriau o aros yn amyneddgar, gwnaethom ddechrau ar y daith hir adref. Hoffem ddiolch i’r athrawon am drefnu’r trip ac am eu harweiniad.