Newyddion Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin
Ennill £1,000: Llongyfarchiadau i’r Adran Gymraeg am ennill £1,000 o lyfrau o’r Cyngor Llyfrau ar ddiwedd 2008. Gwobr a enillwyd oherwydd gwaith arbennig yr adran yn hybu darllen yn CA3 oedd y wobr hon. Rhyfeddwyd y cyngor gan rai o’r syniadau, er enghraifft, yr ogof a baratowyd i roi sylw i waith T.Llew Jones, y ‘Gaer Chwedlau’ a grëwyd i dynnu sylw i’r chwedlau Cymreig ac i waith y disgyblion wrth gyfweld awduron amrywiol.
Ymweld â’r addoldai: Fel rhan o’u cynlluniau gwaith mae Blwyddyn 7 Addysg Grefyddol yn astudio’r stori tu ôl i adeiladu Eglwys Gatholig yn y Carchar Rhyfel yn Henllan ger Castell Newydd Emlyn. I atgyfnerthu’r dysgu ymwelwyd â’r Eglwys Gatholig - Y Santes Fair yn y dre a chael croeso twymgalon gan y Tad O’Shea yno ac yna â’r Eglwys Anglicanaidd yn Abergwili. Yno bu’r Parch Leigh Richardson yn tywys y disgyblion drwy’r adeilad gan ddangos y nodweddion sy’n bwysig mewn addoliad ac ambell ffaith ddiddorol am hanes yr eglwys.
A yw’n deg?: Mae’r diwrnod “A Yw’n Deg? sydd wedi ei dargedu at Flwyddyn 10 yn tynnu sylw at wahanol faterion yn ymwneud â hawliau dynol, cyfle cyfartal a thegwch a chyfiawnder yn ein byd. Cynhaliwyd chwe gweithdy; Rhagfarn a gwahaniaethu o dan arolygaeth Mrs G Morgans a Mrs T Jenkins gyda dau o’r chweched yn gwneud mewnbwn sef Indeg Jameson ac Anwen Davies. Yr ail oedd gweithdy gydag Eirian Samuel ar ran Comisiwn dros Hawliau Dynol a chydraddoldeb. Rosalyn James fu’n siarad ar ran Tai Hafan, Rhian Jones ar ran Shelter Cymru ac yna Mary Parry, Ymgynghorydd Addysg Grefyddol y Sir. Diolch i bawb am eu cyfraniadau.
Y Cyngor ysgol: Ar ddiwedd y flwyddyn trefnwyd dau weithgaredd gan y cyngor ysgol. Ar Ragfyr
17eg trefnwyd cwis i’r athrawon a’r Adran Hanes ddaeth i’r brig. Trefnwyd diwrnod gwisg ffansi Nadoligaidd ar ddydd Gwener olaf y tymor a braf oedd gweld gwisgoedd rhai o’r disgyblion a’r staff. Enillwyd y gystadleuaeth gwisg ffansi gan Florence Edwards a Nia Bevan o flwyddyn 12 a oedd wedi gwisgo fel dwy anrheg hyfryd. Codwyd swm anrhydeddus o arian gan y ddau weithgaredd a bydd yr arian yn cael ei drosglwyddo maes o law i elusen Ty Hafan.
I ddechrau’r flwyddyn bu cynrychiolwyr o’r cyngor ysgol yn rhan o ymchwil cenedlaethol gan y cynulliad ar waith a rôl y cyngor. Cynhaliwyd cyfarfod buddiol gan yr ymchwilydd Sue Roberts i drafod dogfennau newydd sydd ar fin cael eu paratoi ar gyfer ysgolion trwy Gymru. Cafodd criw o flwyddyn 9 hefyd y cyfle i bori trwy’r deunyddiau a mynegi barn arnynt.
Ar Ionawr yr 20fed aeth pob un o’r cynrychiolwyr, arwahan i flwyddyn 13, ar daith i Ysgol y Preseli i gyfarfod â chyngor yr ysgol yno. Braf oedd cael ymweld ag ysgol arall a rhannu profiadau a syniadau gyda chyfoedion. Gofynnwyd llawer o gwestiynau diddorol gan y ddwy ysgol a chafwyd cyfle i glywed ymatebion amrywiol. Cafwyd cyfle hefyd i flasu bwyd y ffreutur a chafwyd cinio blasus ar y ffordd nôl. Trafodwyd datblygu fforwm i flynyddoedd 7 hyd at 11 a brwd fu’r drafodaeth ar y bws wrth deithio nôl i’r ysgol.