Profiadau gwerthfawr yng Nglanllyn
Tridiau o gwrs preswyl – dyna oedd yr arlwy i ddisgyblion Blwyddyn 12 Adran y Gymraeg yng Ngwersyll yr Urdd Glan-llyn ganol y mis. Tridiau o wrando ar enwogion fel Maureen Rhys a John Ogwen, Emyr Llywelyn, Ceri Wyn Jones ac Eleri Mynytho yn traethu ar waith cwrs a llyfrau gosod a llonyddwch hudolus Llyn Tegid yn gefndir i’r cyfan. Cafwyd digon o sbort a sbri hefyd, yn enwedig yn y twmpath ac yn y Talwrn, pan lwyddodd disgyblion Bro Myrddin am yr ail dro yn olynol i gipio’r cwpan. Bu cyfle hefyd i grwydro ychydig o’r ardal a nodi llefydd o bwys i’r traddodiad llenyddol. Clywyd hanes Bob Tai’r Felin a hanes Gwrthryfel y Pasg yn Nulyn a’r gwersyll a godwyd i’r mil, tri chant o garcharorion yn y Fron-goch. Rhyfeddwyd at brydferthwch Llyn Celyn a’r capel coffa o gofio’r anghyfiawnder a fu yno. Wrth yr Hen Gapel yn Llanuwchllyn, cafwyd hanes y fintai gyntaf a aeth i’r Wladfa dan arweiniad Michael D. Jones ac wrth grwydro’r pentref ei hun – o’r gilfach goffa i’r ddwy fynwent a’r Neuadd Wen, sylweddolwyd mawredd cyfraniad Syr Owen a Syr Ifan ab Owen Edwards at barhad ein hiaith.Dyma gerdd o waith Gweirydd Davies a gyfansoddwyd ar gyfer cystadleuaeth y Talwrn.
PerthynPan welaf Gymru’n colli o bump i nawdeg tri,
Adegau fel rhai felly sy’n torri ’nghalon i.
Pan glywaf iaith estroniaid yn dod wrth Gymry glân
Adegau fel rhai felly sy’n diffodd fflam y tân.
Pan welaf fwg diwydiant yn creithio’r wybren las
Adegau fel rhai felly sy’n codi ynof gas.
Ond pan gura’r Cymry’r Saeson, dyna yw fy nef
Ag adlais pêr fy mamiaith i’w glywed mewn un llef.
A phan welaf afon Teifi’n llifo ar ei thro
Ar adegau felly rwy’n teimlo gafael bro.
Gweirydd Davies.
Plant Mewn AngenGwelwyd tipyn o gyffro yn neuadd yr ysgol ar fore Iau’r 15fed o Dachwedd wrth i griw helaeth o athrawon baratoi ar gyfer perfformio’r alaw “Twinkle Twinkle Little Star” ar eu ffidlau o flaen
yr ysgol gyfan. Yn ystod yr wythnosau diwethaf mae’r disgyblion sydd yn derbyn gwersi llinynnol wedi bod yn hyfforddi’r athrawon a’u paratoi ar gyfer y sialens hon er mwyn codi arian i Blant Mewn Angen. Heb os, yr oedd hi’n her i bawb, yn athrawon ac yn ddisgyblion. Rhaid eu canmol oll am eu hymdrechion diflino a’u dyfalbarhad am beidio â rhoi’r ffidil yn y to!
Roedd her arbennig yn wynebu ein prifathro Mr Dorian Williams gan iddo gael ei ddewis i berfformio’r alaw yn fyw ar y teledu. Profiad bythgofiadwy rwy’n siwr. Codwyd cyfanswm o £1,600 o bunnoedd. Diolch i’r noddwyr ac i bawb a fu’n rhan o’r sialens
GwyddbwyllCynhaliwyd gêmau cyntaf y tim gwyddbwyll yn erbyn Ysgol Esgob Vaughan, yn ddiweddar. Yn cynrychioli’r ysgol roedd Ifan Johnson, Evan Osborne, Rhys Nugent a Rhys Evans. Gwelwyd sawl gêm agos iawn ar y noson gyda’r capten Ifan Johnson o fewn trwch blewyn o gipio’r wobr. Wedi cystadlu brwd ar bob un o’r byrddau colli a wnaeth Bro Myrddin yn erbyn tim B Esgob Vaughan o hanner pwynt i dri phwynt a hanner. Serch hynny cafwyd tipyn mwy o lwyddiant yn erbyn tim C y gwrthwynebwyr wrth i Rhys Evans garlamu i fuddugoliaeth yn erbyn ei wrthwynebwr.
Gwasanaeth Diolchgarwch yr ysgol :
Yn ogystal â llwyddiant i’r tim cyntaf bu nifer o chwaraewyr eraill y clwb yn cystadlu mewn gemau cyfeillgar. Yno yn cynrychioli’r ysgol hefyd oedd Morgan Jones, Jac Davies a Huw Collins. Rhaid eu canmol am eu brwdfrydedd a’u parodrwydd i gefnogi tim yr ysgol.Diolch. Gair bach chwe llythyren sy’n cael ei ddefnyddio o ddydd i ddydd – a neb wir yn gwybod ei ystyr. Yng ngwasanaeth diolchgarwch yr ysgol eleni, cawsom gyfle i ddarganfod gwir ystyr y gair a’i darddiad. Esboniwyd am y cysylltiad rhwng y gair diolch â’r geiriau “dioloch” a “dol”, yr un gair â “trontol”, sef y gair Cymraeg am ddolen. Syml yw sylwi fod pob dolen yn plygu. Dangosai hyn wir ystyr diolch, sef fod plygu a rhoi mawl i un a wnaeth gymwynas, yn weithred o ddaioni i ni.
Yn ogystal â chyflwyniadau a darlleniadau amrywiol cawsom ein diddanu gan gôr Blwyddyn 7 â’u perfformiad o “Rhoddwn Fawl,” deuawd “Dwy law yn erfyn” gan Enlli ac Elan , a “Mistar Duw” gan gôr Blwyddyn 8 a 9. Cawsom eitem gan y Côr Bechgyn Hŷn a ganodd “Ceidwad y gannwyll” a pherfformiad o “Rhythm y ddawns” gan y côr hŷn i gloi’r gwasanaeth. Trosglwyddwyd neges ddwys ar newyn yn ein byd gan aelodau o’r chweched dosbarth gyda’r gân “Pan ‘da ni’n cefni” yn gefndir i’r holl ddarluniau trist. Ein siaradwr gwadd eleni oedd y Parch. William Richards. Gwasanaeth hyfryd eleni eto! Rhaid llongyfarch Gwennan Jones o flwyddyn 10 am gyrraedd rownd Cymru yng nghystadleuaeth “Future Chef 2008.” Wedi llwyddo i gipio’r wobr gyntaf yn yr ysgol ar ôl coginio prif gwrs poeth i ddau berson, aeth ymlaen i ennill y rownd leol a gynhaliwyd yng Ngholeg Pibwrlwyd Caerfyrddin. Pob hwyl iddi gyda’r paratoadau ar gyfer rownd Cymru yng Nghaerdydd ym mis Chwefror.Pentathalon
Llongyfarchiadau mawr i Ffion Rees a gafodd ei dewis i gynrychioli Cymru yn y Pentathlon yn Glasgow ddechrau Rhagfyr. Dymuniadau gorau iddi gyda’r paratoadau ar gyfer y gystadleuaeth heriol hon.