Musiquest: Ar ddechrau’r flwyddyn newydd cafodd disgyblion o flwyddyn 9 y cyfle i fynd i Techniquest yng Nghaerdydd gyda’r Adran Gerdd. Er bod y rhan fwyaf ohonynt yn gyfarwydd â’r lle hwn, gwahanol iawn oedd yr arddangosfa a’r gweithgareddau a oedd yn eu disgwyl. Derbyniodd y disgyblion wybodaeth ynglŷn â’r ochr dechnegol o gerddoriaeth gan fanteisio ar y cyfle i gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau. Dyweodd Llywela Davies o flwyddyn 9 mai “diwrnod hwylus yn arbrofi wrth ddefnyddio’r cyfarpar oedd hwn ac roedd pawb wedi’u hysbrydoli. Diolch i’r athrawon am y cyfle.”
Trawsgwlad: Llongyfarchiadau mawr i Ronan Llyr o flwyddyn 8 am ddod yn ail yng Nghystadleuaeth Trawsgwlad Rhanbarthol Cymru ac yn gyntaf fel rhan o dîm Bechgyn Gorllewin Cymru o dan dair ar ddeg oed. Dymuniadau gorau iddo ar gyfer rownd nesaf y gystadleuaeth a gynhelir ym mis Mawrth.
Cerddorfa Ieunctid Prydain: Braf oedd clywed y newyddion gwych bod Catrin Price o flwyddyn 9 wedi cael ei derbyn fel aelod o Gerddorfa Ieuenctid Prydain ar gyfer 2008. Fe fydd Catrin yn chwarae’r ffliwt yn y gerddorfa a fydd yn perfformio mewn sawl cyngerdd ar hyd a lled y wlad yn ogystal un yn yr Eidal. Dymuniadau gorau iddi!
Y naid hir a’r naid driphlyg: Mae Dafydd Williams o flwyddyn unarddeg bellach yn bencampwr naid hir a naid driphlyg dan do Cymru o dan ddwy ar bymtheg oed. Llongyfarchiadau mawr iddo.
Jiwdo: Cafodd brawd a chwaer o Lanllwch lwyddiant yn ddiweddar mewn cystadleuaeth Jiwdo. Mae Gareth Davies o flwyddyn 7 a Catrin Mair Davies o flwyddyn 9 wedi ymddiddori yn y chwarae hwn ac yn ymarfer yn ddyfal. Yng nghystadleuaeth Jiwdo Agored Cymru cipiodd Gareth y wobr gyntaf o dan ddeuddeg ac enillodd Catrin y drydedd wobr o dan 20 oed. Llongyfarchiadau!