Newyddion Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin

 


 

Llwyddiant mewn cystadleuaeth adeiladwaith

Ar y 29ain o Ionawr, cynhaliwyd rhagbrofion cystadleuaeth adeiladwaith i ddisgyblion blwyddyn 11. Goruchwiliwyd y gystadleuaeth gan Goleg Sir Gâr yn Rhydaman a hwy hefyd a roddodd leoliad i’r dydd. Daeth 23ain o fechgyn ynghyd o bob cwr o’r Sir i gynrychioli eu hysgolion. Beirniad y dydd oedd Mr Paul Evans, Arweinydd Masnachol Coleg Sir Gâr ac yn ei gynorthwyo roedd Mr Gil Jenkins, Pennaeth Adran Adeiladwaith Coleg Sir Gâr, y ddau yn grefftwyr adnabyddus yn eu meysydd o fewn y byd adeiladwaith.

 

Roedd safon y gwaith yn uchel iawn ar draws y gystadleuaeth ac anodd iawn oedd dewis buddugwyr. Yn cynrychioli Bro Myrddin roedd Gethin Davies, Gethin Howells, Rhydian Walters ac Iestyn Owen. Nod y dydd oedd dewis pedwar disgybl i gynrychioli Coleg Sir Gâr (a’i ysgolion) yn y rownd ranbarthol fydd yn cael ei chynnal ar 24ain Chwefror yng Ngholeg Sir Benfro.

 

Braf nodi y bydd dau o’r cynrychiolwyr yn dod o Ysgol Bro Myrddin.  Yn y rownd ranbarthol bydd Gethin Howells ac Iestyn Owen ynghyd a disgyblion o Ysgol Maes-Yr-Yrfa ac Ysgol Pantycelyn. Llongyfarchiadau i bawb a fu’n cystadlu a phob lwc i’r buddugwyr yn y rownd nesaf.

 

Cystadleuaeth siarad cyhoeddus

Cafodd grŵp siarad cyhoeddus yr ysgol gryn lwyddiant yn ddiweddar yng nghystadleuaeth siarad cyhoeddus y rotari trwy gyfwng y Gymraeg . Eu testun oedd “Dylid gwahardd y BNP fel plaid wleidyddol”. Gethin Lewis oedd y cadeirydd, y cynigydd oedd Daniel Owen a’r gwrthwynebydd oedd Steffan Hywel Evans. Llongyfarchiadau mawr i’r tri ohonynt sydd ym mlwyddyn tair ar ddeg ar areithiau aeddfed a graenus iawn mewn cystadleuaeth o safon uchel.  Edrychwn ymlaen yn awr at y rownd derfynol.

 

Sgiliau Academaidd

Llongyfarchiadau i Katrina Rees a Delun Evans o flwyddyn 13 am gael eu gwobrwyo gan Gwilym Dyfri Jones, Hywel Lewis, Vaughn Salisbury a Tim Hayes Pennaeth y 6ed Dosbarth yng Ngholeg Prifysgol Y Drindod, Caerfyrddin yn ddiweddar  am lwyddo mewn modiwl lefel 4 Sgiliau Academaidd i Fyfyrwyr.

 

Mosgito

Llongyfarchiadau i Sophie Jones Bl10, a Lowri Thomas a Lauren Rowlands Bl9 ar eu hymddangosiad ar Mosgito yn ddiweddar - Rhaglen fyw yn siarad am ABBA.

 

 

Apêl Haiti

Ar y 12fed o Ionawr 2010, dinistriodd daeargryn Haiti gan adael miliynau yn ddi-gartref ac mewn angen a’r wlad yn dioddef argyfwng.

 

Dydd Gwener y 29ain o Ionawr cafodd disgyblion Ysgol Bro Myrddin, ddiwrnod i helpu’r achos drwy adael i pob disgybl wisgo ei gwisg ei hunain o dan arweiniad y Pwyllgor Dyngarol.  Roedd pob disgybl yn talu £1 yr un ac  roedd yr arian i gyd yn mynd at Apêl Haiti a drosglwyddwyd i elusen Cymorth Gristnogol.  Pleser ar ddiwedd y dydd oedd clywed y cyhoeddiad fod y cyfanswm a gasglwyd yn £935.

 

Cyflwynwyd y siec i’r Parchedig Tom Dafis mewn gwasanaeth boreol yn yr ysgol ac fe ymhelaethodd ymhellach yn y gwasanaeth ar y ddinistr yn Haiti ac am y gwaith arbennig sy’n cael ei gyflawni gan Gymorth Cristnogol.

Adroddiad gan Alaw Ifans a Lleucu Edwards

 

Cwis Rhaglen Graidd Cyswllt i ysgolion Cymru Gyfan gyda’r Heddlu

Gwnaeth criw o ddisgyblion  blwyddyn 8  Ffion.R.Evans, Serena Jones , Ffion Dean, Iestyn Jones a Joshua Hancock  gystadlu yng ngwwis yr heddlu ar y 20fed o Ionawr. Cynhaliwyd y cwis ym Mhencadlys yr Heddlu yn Nant y Caws. Drwy fod yn llwyddiannus yn rownd gyntaf yn erbyn ysgolion o Sir Gâr, fe aethant ymlaen i’r ail rownd yn erbyn  cystadleuwyr o Sir Ceredigion, Sir Benfro a Phowys. Daethant yn agos iawn i’r brig a chael cydradd ail. Yr enillwyr oedd Ysgol Sir Thomas Picton o Sir Benfro, sydd yn awr yn mynd ymlaen i’r rownd derfynol yn erbyn Cymru gyfan. 

 

Nofio

Llongyfarchiadau mawr i ddisgyblion o flwyddyn saith a fu’n cystadlu yn y Gala Nofio yn ddiweddar yn Llanelli

Iwan Jones 7-1, 1af  nofio broga 9 medr

Scott Brook 7-1,1af  dull rhydd 50 medr a 1af dull rhydd 100 medr

Gwenno Davies 7-2, 1af dull rhydd 50 medr, 1af nofio ar y cefn 50 medr â 1af  nofio broga 25 medr.

 

Llongyfarchiadau i Rhys Meredith o flwyddyn 9  oedd wedi cyrraedd y rownd derfynol yng Nghaerdydd yn cynrychioli’r ysgol pan ddaeth yn 5ed yn y ras 200m cadwyn unigol  i flynyddoedd 9 a 10.

 

Llongyfarchiadau i Hannah Reynolds o flwyddyn 9 ar gael i dewis i gynrychioli Ysgolion Cymru mewn cystadleuaeth nofio yn yr Alban fis Mawrth. Pob lwc iddi.