|
Cwis yr heddlu
Ar ddydd Gwener,
Tachwedd 17eg bu criw o ddisgyblion bl 8 yn cystadlu yng nghwis
blynyddol yr heddlu sy'n rhan o raglen cyswllt ysgolion yr heddlu.
Llongyfarchiadau i'r tim a ddaeth yn ail yn y rownd rhanbarthol allan o
ddeg. Y disgyblion llwyddiannus oedd Mererid Hunt, Ffion Hopley,
Kai Silverthorne, Meurig Francis a Gwion Morgan. Da iawn chi.
Cystadleuaeth
Siarad Cyhoeddus y Rotari
Llongyfarchiadau gwresog i’r tîm
siarad cyhoeddus a fu’n llwyddiannus
yng nghystadleuaeth Siarad Cyhoeddus y Rotari ac maent wedi cael
eu dewis i gynrychioli’r rhanbarth yn y rownd derfynol. Aelodau’r tîm
oedd Sioned Elin Davies, Dewi Jones a Saran Richards o flwyddyn 13.
Cipiodd Saran y wobr am y gwrthwynebydd gorau. Pob lwc iddynt yn y rownd
derfynol a gaiff ei chynnal yn y Cynulliad Cenedlaethol ar Dachwedd yr
21ain.
|