Newyddion Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin
Ffawd: Rhaid llongyfarch ugain disgybl o Ysgol Bro Myrddin sydd wedi eu dewis fel aelodau o’r cast ar gyfer “Ffawd”, sef sioe gomisiwn Eisteddfod yr Urdd 2009. Lowri Elen, Sion Evans, Elin Wyn Williams, Gwennan Thomas, Gethin Lewis, Catrin Phillips, Ceirios Davies, Mari Ann Jones, Fflur Rhys, Rebecca Davies, Curon Howells, Ceirios Ann Davies, Llywela Davies, Sioned Elin Davies, Sara Edwards, Siwan Jones, Saran Richards, Megan Morgans, Mared Dafydd a Llinos Emanuel fydd yn perfformio yng Nghanolfan y Mileniwm ar nos Fawrth Mai 26ain a nos Fercher 27ain. Profiad gwych! Dyma gyfle arbennig i weld dros gant o bobl ifainc ar draws Gymru gyfan yn perfformio ar lwyfan Canolfan y Mileniwm. Archebwch eich tocynnau drwy gysylltu â Chanolfan y Mileniwm ar 08700 402000.
Coginio: Llongyfarchiadau mawr i Rhian Davies o flwyddyn 9 a Gwenllian Davies o flwyddyn 10 a ddaeth yn ail yng nghystadleuaeth goginio Sirol yr Urdd eleni. Fe fydd y ddwy yn mynd ymlaen i gystadlu yn yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaerdydd ym mis Mai. Pob hwyl iddynt!
Noson Wobrwyo: Ar yr 31ain o Fawrth, yn neuadd yr ysgol, cynhaliwyd noson i wobrwyo llwyddiannau academaidd y disgyblion. Gwobrwywyd cyn-ddisgyblion a disgyblion presennol am eu cyraeddiadau a’u hymdrechion yn ystod y cwrs TGAU a Safon Uwch. Ein siaradwr gwadd oedd Mr Sulwyn Thomas. Diolch iddo am ei araith ddifyr a bwysleisiodd “Dyma’ch dyfodol - peidiwch â’i wastraffu.” Diddanwyd y gynulleidfa gan amryw o eitemau cerddorol ac ymgomiau.
Dyfarnwyd Gwobr Ysgol Bro Myrddin i Dafydd Davies, Emily Carmichael a Haydn King am eu llwyddiant academaidd. Holly Kirk, Sarah John, Sioned Powell a Rhian Jones dderbyniodd Wobr Goffa Beti Hughes am eu llwyddiant academaidd yn yr arholiadau Safon Uwch ac am eu cyfraniad i fywyd diwylliannol a chymdeithasol yr ysgol. Cyflwynwyd Tlws Gareth Evans, am gyfraniad i fywyd diwylliannol yr ysgol i Miriam Hopwood a Nathan Ifans a thlws arall i Enfys Meldrum am ei hymdrech gyson ym mlwyddyn 12 a 13. Nathan Ifans dderbyniodd Wobr St Peters’ Players am gyfraniad i weithgareddau Drama ac Amy Davies dderbyniodd y wobr am waith creadigol o safon uchel yn y celfyddydau cain. Dyfarnwyd Tlws Coffa Rhian Denby Jones i Catrin Wyn Davies am yr ymdrech orau yn ystod y cwrs TGAU Hanes. Elin Phillips a dderbyniodd Dlws yr Adran Fusnes am yr ymdrech orau yn ystod y cwrs Busnes a Mair Parry Davies dderbyniodd dlws Andrew Rees am ei chyfraniad i fywyd cerddorol yr ysgol. Cyflwynwyd Tlws Hugh Griffiths i Rhodri Davies am yr ymdrech orau yn ystod y cwrs TGAU Gwyddoniaeth a Thlws Margaret Morris i Dafydd Evans am y perfformiad gorau yn Addysg Gorfforol ym Mlwyddyn 13. Dyfarnwyd Tlws Elin Ruth James i Indeg Jameson am y perfformiad gorau mewn pêl-rwyd a Thlws Addysg Gorfforol i Dafydd Williams. Llongyfarchiadau mawr i bawb a dderbyniodd dystysgrif neu wobr.