Newyddion Ysgol Bro Myrddin

Cerddor Addawol: Daeth clod i un o ddisgyblion iau'r ysgol unwaith eto. Enillodd Catrin Price, ffliwtydd o Flwyddyn 8,  le yng Ngherddorfa Genedlaethol Prydain i blant dan 13. Yn ystod y flwyddyn bydd yn chwarae mewn cyngherddau mawreddog ym Mhrydain gan gynnwys cyngherddau yn Neuadd Bridgewater, Manceinion ac yn Neuadd y Frenhines Elizabeth yn y South Bank, Llundain. Daeth Catrin hefyd i’r rownd derfynol yng nghystadleuaeth Cerddorion Ifainc Dyfed 2006 am y trydydd tro yn olynol.

 

Ymweliadau: Yn ystod yr wythnos cyn y Nadolig, bydd disgyblion y chweched dosbarth yn cyfrannu’n ddiwylliannol yn y gymuned drwy ymweld ag ysbytai a chartrefi hen bobl. Ar y 13eg o Ragfyr bu parti dan ofal Mrs Meinir Richards a Mrs Helen Gibbon yn diddanu Cymdeithas Cyfeillion Ysbyty Glangwili ynghyd â meddygon, nyrsys a staff yn y Capel Bach. Aelodau’r grŵp oedd Rita Bevan, Manon Defis, Miriam Hopwood, Catrin Lewis, Elinor Lewis a Georgina Edwards. Bu grŵp mwy yn diddanu yng nghartref Argel ar y 14eg o Ragfyr ar gais Enfys Meldrum, disgybl ym Mlwyddyn 12 fu’n treulio cyfnod ar brofiad gwaith yno. Ar yr 21ain, byddant yn canu yn y Ganolfan Ddydd a thu allan i M&S.

 

Y Cyngor Ysgol: Llongyfarchiadau i’r disgyblion canlynol ar gael eu hethol ar gyngor yr ysgol: Hannah Nicholas, Siôn Waterworth, Sara Davies, Dewi Jones, Teleri Williams, Siôn Page, Catrin Phillips, Gethin Lewis, Georgina Edwards, Trystan Davies, Holly Kirk (ysgrifennydd), Haydn King (cadeirydd), Catrin Lewis, Rhys Jones a’r prif swyddogion,  Hanna Hopwood, Siôn Ifan. Mae’r cyngor yn trafod materion ysgol gan roi llais i farn disgyblion eraill. Ymhlith y pynciau sydd wedi’u trafod eleni mae Cymreictod, systemau newydd effeithiol yn y ffreutur a materion amgylcheddol. Sefydlwyd pwyllgor eco ac yn y flwyddyn newydd bydd yr aelodau yn casglu cardiau Nadolig ar gyfer eu hailgylchu.