ÿþ<html> <head> <meta http-equiv="Content-Type" content="text/html; charset=unicode"> <title>Newyddion Ysgol Bro Myrddin</title> <style> <!-- p.MsoNormal {mso-style-parent:""; margin-bottom:.0001pt; font-size:12.0pt; font-family:"Times New Roman"; margin-left:0cm; margin-right:0cm; margin-top:0cm} --> </style> <meta http-equiv="Page-Enter" content="revealTrans(Duration=1.0,Transition=5)"> </head> <body bgproperties="fixed" text="#6500A8" style="font-family: Arial"> <blockquote> <blockquote> <p class="MsoNormal" align="center" style="text-align:center"> <font face="Comic Sans MS"><b><span lang="CY" style="font-size: 14.0pt"> Newyddion Ysgol Bro Myrddin</span></b></font></p> <p class="MsoNormal"><font face="Comic Sans MS"> <span lang="CY" style="font-size: 14.0pt">Llwyddiant ysgubol  disgrifiad teilwng o wythnos Siôn Ifan, prif ddisgybl yr ysgol, &nbsp;yn&nbsp; Eisteddfod&nbsp; Sir<img border="0" src="Sionifan.jpg" width="174" height="396" align="right"> Gâr. Anodd credu lle cafodd amser i chwarae prif ran mewn tri pherfformiad o r sioe gerdd Dagrau r Coed yn y Lyric, cymryd rhan yn y seremoni agoriadol, cyfarch y bardd Hywel Griffiths, cyn ddisgybl o r ysgol,&nbsp; yn nefod y<a href="siarcyh.JPG"><img border="0" src="siarcyh.JPG" width="272" height="202" align="left"></a> cadeirio, cystadlu mewn amryw o gystadlaethau fel unigolyn ac fel aelod o dîm a diddanu plant ym mhabell yr ysgol ar y maes! &nbsp;Cyflwynwyd iddo dlws Talent Radio Cymru gan neb llai na Ray Gravelle oedd wedi dewis gwneud ei ymddangosiad cyntaf cyhoeddus ar ôl ei lawdriniaeth ar lwyfan yr Urdd. At hynny, enillodd Ysgoloriaeth yr Eisteddfod i r cystadleuydd mwyaf addawol yn yr oedran 14  19 oed.&nbsp; Llwyddodd i gyrraedd y llwyfan mewn amryw o gystadlaethau a daeth yn gyntaf ar yr alaw werin, y fonolog ac fel aelod o r tîm siarad cyhoeddus lle cafodd ei enwi fel siaradwr addawol; daeth yn ail ar yr unawd i fechgyn, yr unawd sioe gerdd ac fel aelod o r grup ensemble lleisiol ac roedd yn aelod o r parti bechgyn hwn a r parti llefaru ddaeth yn drydydd. Daeth llwyddiant i ran unigolion eraill hefyd. Daeth Catrin Price ac Anne Denholm yn gyntaf ar y ddeuawd offerynnol; Catrin yn ail yn y gystadleuaeth chwythbrennau; Anne yn ail ar yr unawd telyn a Ffion Bevan yn drydydd ar yr unawd llinynnol. Cipiodd Elin Wyn Williams wobr gyntaf am ddawnsio disgo unigol&nbsp; a daeth Heledd Evans a Lowri Howells yn ail ar y ddeuawd. Cafodd y partïon canu iau lwyddiant arbennig Ddydd Iau gyda r parti merched yn dod yn gyntaf a r parti bechgyn a r côr mawr yn dod yn ail. Yn y cystadlaethau Gwaith Cartref, daeth cywaith Blwyddyn 7 yn fuddugol a Claire Roberts yn ail am gyfansoddi. Llongyfarchiadau!</span></font></p> </blockquote> <p>&nbsp;</p> <p align="center" style="text-align: center"><span lang="CY"> <font size="4" face="Comic Sans MS">&nbsp;</font></span></p> </blockquote> </body> </html>