Newyddion Ysgol Bro MyrddinGŵyl Ddewi: Dathlwyd dydd gŵyl ein nawddsant mewn sawl cywair ym Mro Myrddin eleni. Thema’r gwasanaeth estynedig oedd “Gwisg genhinen yn dy gap a gwisg hi yn dy galon.” Bu nifer o ddisgyblion yr ysgol yn cymryd rhan a chafwyd eitemau amrywiol oedd yn adlewyrchu traddodiadau’r Cymry. Unodd yr ysgol i ganu “Câr dy heniaith” a ddarllenwydgan Carys Bowen i ddechrau’r gwasanaeth. Y llefarydd rhwng yr eitemau oedd Rhiannon Mair Lewis. Disgyblion o ddosbarth 7-4
roddodd gyflwyniad am gefndir a gwaith Dewi. Cafwyd hanes cyfansoddi’r anthem genedlaethol gan Eleri Jenkins, Angharad Lewis a Hannah Hopwood gyda chymorth pwerbwynt. Ymhlith y datganiadau cerddorol cafwyd deuawd “Mor dirion dy drigfannau” gan Heledd a Lowri; “Ymlaen â’r Gân” gan y parti merched; “Chwalu muriau Jerico” gan y côr iau; “Popeth hardd sydd yn y byd” gan y côr hŷn a “Hen, hen hiraeth” gan y parti bechgyn hŷn. Yn ogystal cafwyd dawnsio modern a thraddodiadol gan y partïon iau a hŷn a datganiad gan y parti llefaru o Johnny gan T. James Jones. Arweiniodd Catrin Anna yr ysgol mewn gweddi cyn gorffen gyda’r emyn “Dros Gymru’n gwlad” a ddarllenwyd gan Bethan Watkins. Ar ôl y gwasanaeth, aeth grŵp pres yr ysgol ynghyd â rhai unigolion i ddiddanu yn y Ganolfan Ddydd yn y dref gyda phennaeth yr Adran Gerdd, Mrs Meinir Richards.Parhawyd â’r dathlu yn yr ysgol gyda gweithgareddau rhwng y llysoedd amser cinio, gwerthu losin du a cherddoriaeth fyw gan y grŵp Coda yn ystod y prynhawn. Roedd y disgyblion wedi talu punt y pen am gael gwisgo lliwiau coch, gwyn a gwyrdd ac fe drosglwyddir elw’r diwrnod i gronfa Eisteddfod Sir Gâr.Eisteddfod yr Urdd: Llongyfarchiadau i’r holl ddisgyblion a gystadlodd ar ran yr ysgol yn yr Eisteddfod Gylch. Bydd saith ar hugain o eitemau yn mynd ymlaen i’r Eisteddfod Sir.
Cystadleuaeth
1af
Grwp dawnsio disgo Bl 7-9
Grwp Teleri
Unawd merched Bl 7-9
Ceirios Davies Bl 9
Unawd chwythbrennau Bl 7-9
Catrin Price 8 -1
Llefaru unigol Bl 7-9
Mared Dafydd 8-1
Unawd llinynnol Bl 7-9
Ffion Bevan 8-1
Dawns disgo unigol Bl 7-9
Sioned Elin Davies 8-1
Grwp llefaru Bl 7-9
Parti Llinos Bl 9
Deuawd Bl 7-9
Heledd Evans a Lowri Howells Bl 9
Ensemble Bl 7-9
Grwp Caffi Cerdd
Dawns disgo unigol Bl 10-13
Elin Wyn Williams Bl 11
Alaw werin unigol Bl 7-9
Ceirios Davies Bl 9
Dawns greadigol Bl 7-9
Ysgol Bro Myrddin
Unawd allan o sioe gerdd
Sion Ifan Bl 13
Unawd llinynnol Bl 10-13
Helen Roberts Bl 12
Llefaru unigol Bl 10-13
Miriam Hopwood Bl 12
Unawd telyn Bl 10-13
Anne Denolm Bl 11
Unawd cerdd dant Bl 7-9
Ceirios Davies Bl 9
Dawns werin Bl 10-13
Parti Angharad Bl 13
Deuawd offerynnol Bl 10-13
Catrin Price + Anne Denolm
Deuawd cerdd dant Bl 9 ac iau
Siwan Jones + Beca Davies
Grwp llefaru Bl 10-13
Ysgol Bro Myrddin
Dawns unigol i ferched Bl 9 ac iau
Lleucu Walters Bl 8 (Hafodwennog)
Ensemble 15-25 oed
Grwp Telenet
Dawns unigol i fechgyn Bl 9 ac iau
Gareth Spiers Bl 8
Alaw werin unigol Bl 10-13
Sion Ifan Bl 13
Dawns werin unigol i ferched 15-25 oed
Leisa Fflur Davies Bl 11
Monolog Bl 10-13
Sion Ifan Bl 13