Newyddion Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin
Taith i Lundain
– Adroddiad gan Teleri Haf Gravell Bl 12Fis diwethaf aeth criw o ddisgyblion Bro Myrddin sy’n ymwneud â’r Adran Gerdd neu’r Adran Addysg Grefyddol i Lundain am y diwrnod. Yn gyntaf, aethom i’r deml Hindŵaidd tu allan i Lundain.
Pan gyrhaeddom yr addoldy y peth cyntaf oedd yn rhaid gwneud oedd tynnu esgidiau am fod hyn yn arwydd o barch tuag at yr Hindŵaid ac hefyd er mwyn peidio treulio’r carpedi moethus!!!. Yna cawsom ein tywys i ran o’r adeilad lle’r oedd yr Hindŵiaid i gyd yn ymgynnull i addoli. Roedd cerddoriaeth Hindŵaidd i’w glywed yn y cefndir wrth iddynt addoli ac roedd hyn yn brofiad gwefreiddiol a rhyfedd iawn i’r rhan helaeth ohonom am nad oeddem wedi cael profiad tebyg o’r blaen. Roedd nifer o’r Hindŵiaid oedd yn y neuadd
fawr yn canu gyda’r gerddoriaeth ac roedd hyn yn amlwg yn rhan o’u gweddi. Ar ôl eistedd am dipyn yn y rhan penodol yma o’r adeilad, cawsom gyfle i gerdded o amgylch yr addoldy lle’r oedd cerfluniau o Dduwiau’r Hindŵaid o amgylch y lle i gyd.
Ar ôl bod yn y deml, roedd yn bryd dechrau ar ein taith i fynd i weld Joseff mewn theatr yn Llundain. Roedd pawb yn gyfarwydd â’r sioe yma ac yn edrych ymlaen yn fawr iawn i gael gweld Lee Mead yn perfformio ar ôl wythnosau yn pleidleisio iddo ar y gyfres hynod boblogaidd ar BBC1 ‘Any dream will do’, ac ni chawsom ein siomi gan ei berfformiad. Roedd yn sioe wych ac roedd pawb yn dawnsio i’r gerddoriaeth erbyn diwedd y perfformiad.
Fe wnaeth pawb fwynhau’r profiad o fynd i Lundain ,roedd yn ddiwrnod llawn gweithgareddau difyr ac yn brofiad unigryw i ni gyd.