Pencampwyr Popty: Cafodd pedwar o fechgyn o flwyddyn 9 eu gwahodd i ymddangos ar raglen Nadolig “Popty” yn ddiweddar. Bu Ioan Hughes, Nathaniel Wilson, Sion Freeman a Gareth Spiers yn cynrychioli’r ysgol wrth gystadlu mewn tair cystadleuaeth megis carioci, wawffactor a chwis yn erbyn Ysgol y Strade. Aeth bws o gefnogwyr i Stiwdio’r Ffatri Bop yn y Rhondda a chawsant ddiwrnod llwyddiannus iawn gan ennill y teitl “Pencampwyr Popty 2007.” Edrychwn ymlaen i weld y bechgyn ar S4C ar ddiwrnod Nadolig.
Darllen miliwn o eiriau: Fel rhan o’r cynllun “Darllen Miliwn o Eiriau”, cafodd disgyblion o flwyddyn 7 eu diddanu gyda’r awdures a’r bardd Catrin Dafydd. Braf oedd gweld y plant wrth eu bodd yn gwrando’n astud ar gerddi difyr ac yn ymateb yn frwdfrydig i wahanol syniadau.
Gwaith tîm: Llongyfarchiadau i Scott Davies, Sioned Rees, Tomos Bull, Luke Mistry a Meghan Pitts o flwyddyn 8 am ddod yn ail mewn cwis “Rhaglen Cyswllt Craidd Ysgolion Cymru” a drefnwyd gan yr heddlu.
Hawddamor ffrindiau!: Aeth criw o ddisgyblion o flwyddyn saith i’r Lyric fore Mawrth diwethaf i fwynhau’r panto “Macsen” gan Gwmni Theatr Mega. Cawsant eu diddanu’n llwyr gan y cymeriadau lliwgar a braf oedd clywed cymaint o chwerthin yn y theatr.
Canolfan Sgiliau Adeiladwaith Sir Gâr: Mae contractwyr adeiladu lleol wedi dechrau ar eu gwaith ar safle’r ysgol. Y bwriad yw adeiladu gweithdy pwrpasol er mwyn cyflwyno cwrs Adeiladwaith o Fedi 2008 ymlaen i ddisgyblion Bl 10. Bydd ein disgyblion yn cael y cyfle i ennill Tystysgrif Sylfaenol cyfrwng Cymraeg mewn swyddi crefftau adeiladu wrth ddilyn y cwrs defnyddiol ac ymarferol hwn. Edrychwn ymlaen i gydweithio gydag Ysgol Y Frenhines Elisabeth ac Ysgol Rhydygors ar y prosiect anturus yma sydd wedi derbyn grant o bron £250,000 oddi wrth y Cynulliad yng Nghaerdydd.