Elusennau: Cafwyd wythnos o weithgareddau i godi arian yr wythnos diwethaf gyda Donna Jones o Flwyddyn 12 yn trefnu. Dechreuwyd yr wythnos gyda gwasanaeth ysgol ar thema addas. Ar hyd yr wythnos, cafwyd amrywiol weithgareddau fel dyfalu nifer y losin, bechgyn y chweched yn gwirfoddoli i therapydd iechyd gwyro eu coesau, diwrnod gwisg eu hunain ddydd Iau ar thema Santes Dwynwen â’r chweched mewn gwisg ffansi a’r gêm Siôn a Siân Ddydd Gwener. Casglwyd cyfanswm o £1,400 ar gyfer Ymchwil y Galon a £280 o bunnoedd at Ysbyty Glangwili.
Newyddion Ysgol Bro Myrddin Newyddion Ysgol Bro MyrddinSioe Ffasiynau: Bydd disgyblion chweched dosbarth Adrannau Busnes a Hamdden yr ysgol yn trefnu Sioe fydd yn arddangos dillad Marks and Spencer yn neuadd yr ysgol ar yr 22ain o Chwefror am 7 yr hwyr. Llwyddodd y disgyblion i sicrhau arweinydd o fri ar gyfer y noson sef Huw (Ffash) Rees. Bydd tocynnau ar gael o’r ysgol a bydd pris mynediad sef £7 i oedolion a £5 i blant ysgol yn cynnwys lluniaeth. Rhennir elw’r noson rhwng dwy elusen sef Ymchwil Cancr y Fron Breakthrough a Ty Llywelyn, Glangwili.
Cystadleuaeth y Cogydd Ifanc: Cynrychiolwyd yr ysgol gan ddau dim yn y gystadleuaeth hon a drefnwyd gan Glwb Rotari Tywi a Chaerfyrddin yng Ngholeg Pibwrlwyd. Cafodd Angharad Morris a Naomi Elias hwyl ar y coginio tra bu Catrin McCabe a Ceirios Davies yn eu cynorthwyo. Y dasg oedd cynllunio, paratoi, coginio a gweini pryd o fwyd tri chwrs i ddau berson am lai na £14 mewn dwy awr. Daeth cogyddion o’r Llwyn Iorwg a’r Black Ox i feirniadu’r gystadleuaeth a daeth y cogydd enwog Dudley i wylio am gyfnod. Er na wnaethon nhw ennill cafwyd cynnyrch o safon ganddynt.
Rygbi: Llongyfarchiadau i Jason Harries gafodd ei ddewis i chwarae dros Gymru dan 18 yn Lille.