Newyddion Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin

 

Gwyddbwyll: Llongyfarchiadau gwresog i Llywelyn Edwards a Rhys Nugent a fu’n cystadlu yn ‘Megafinal’ Sialens Gwyddbwyll Prydain Fawr yn Ysgol Gelli Fedw, Abertawe. Bu’r ddau’n cynrychioli Ysgol Bro Myrddin yn y gystadleuaeth, lle'r oedd tua 200 o chwaraewyr disglair De Cymru yn cystadlu am le yn y Gigafinal a gynhelir yn flynyddol yn Llundain. Chwe rownd oedd i’r gystadleuaeth a llwyddodd Llywelyn a Rhys i ennill tri phwynt yr un. Mae’n amlwg bod y ddau wedi gweithio’n ddiwyd a phleser oedd gweld safon eu gêmau yn ystod y dydd. Edrychwn ymlaen i weld eu datblygiad pellach yn y byd gwyddbwyll.

 

Hyfforddiant: Yn ystod tymor y Pasg cynhaliwyd gêm gwyddbwyll gydamserol yn yr ysgol a chafodd nifer o’r disgyblion gyfle i brofi’u doniau yn erbyn un o chwaraewyr cryfaf Cymru, Mr Dafydd Johnston. Pwrpas y gêm oedd datblygu sgiliau meddwl y timoedd yn ogystal â rhoi sialens i Mr Johnston, i chwarae yn erbyn yr holl gystadleuwyr ar yr un pryd. Roedd mwynhad y disgyblion yn amlwg a hoffai’r clwb gwyddbwyll ddiolch i Mr Johnston am ei waith hyfforddi yn ystod y prynhawn.


Siwan
:  Adroddiad gan Manon Haf Owen Bl 10

Perfformiodd “Cwmni Theatr Genedlaethol Cymru” ddrama enwog Saunders Lewis “Siwan,”  yn Theatr y Lyric Caerfyrddin, ar nos Lun a nos Fawrth, Mehefin y 9fed a’r 10fed.  Llwyddodd y cast profiadol i ddiddanu cynulleidfa werthfawrogol gyda’u dehongliad trawiadol o hen ffefryn cyfarwydd a seiliwyd ar hanes brenhines Llywelyn Fawr.  Gwelwyd trawsdoriad o’r hen a’r ifanc ochr yn ochr yn llenwi’r theatr ac yn mwynhau’r ddrama Gymraeg hon.