Newyddion Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin

 


 

Enillydd Pop Idol Caerfyrddin 2010

Bu llwyddiant mawr i Catrin Thomas blwyddyn un ar ddeg, yn y gystadleuaeth ‘Pop Idol’ Sir Gâr. Enillodd Catrin ei chystadleuaeth hi yn y categori 11-16 mlwydd oed, ac fe lwyddodd i ennill y gystadleuaeth gyfan trwy ei chanu anhygoel. Dywedodd Catrin ei bod yn falch iawn o ennill ond ei bod wedi cael sioc. Y gân ‘Hallelujah’ a enillodd y wobr iddi.

 

Gwobrau Efydd Dug Caeredin

Llongyfarchiadau i’r canlynol o flwyddyn 12 ar ennill eu Tystysgrifau Efydd Gwobr Dug Caeredin: Hannah Jameson, Betsan Evans, Naomi Elias, Nia Binding, Daniel Jones, Alex Osborne, Lowri Jones, Manon Owens, Gwen Page Roberts, Sara Jones, Bethan Randell, Bethan Evans, Gwyn Pierce, Fflur Rhys, Siomon O’Leary, Alis Lewis, Maria Mistry, Lindsey Wyke, Teleri Fflur Jones, Lisa Davies, Lema Imam, Sioned  Harries, Trystan Harries, Hannah Garrad, Nia Davies, Ceirios Davies a Ffion Rees.

 

Taith Daearyddiaeth i Gaerdydd

Ar y 31ain o Fawrth 2010, bu criw o ddisgyblion o flwyddyn 12 sy’n astudio Daearyddiaeth fel pwnc uwch Gyfrannol ar ymweliad a Chanol a Bae Caerdydd fel rhan o’u hymchwiliadau gwaith maes. Doedd y tywydd garw ag oer eithafol yn amlwg ddim yn adlewyrchu hwyliau gwresog y disgyblion, a mawr fu’r mwynhad wrth i ni gael ein tywys o gwmpas y Bae, ar droed, mewn bws ac mewn cwch hyd yn oed! Treuliwyd ychydig amser yng nghanol y ddinas yn holi trigolion yr ardal am eu harferion siopa, ac yna teithiwyd i Barc Adwerthu Croes Cwrlwys i orffen y daith, er mwyn arsylwi ar y mathau o fusnesau sydd wedi adleoli ar gyrion y ddinas. Bu’r ymweliad yn llwyddiant ysgubol, a hoffai’r disgyblion oll ddiolch i Mrs. Alwen Haf Owen am drefnu’r diwrnod llwyddiannus.  Diolch hefyd am gwmni Mrs. Tracy Jenkins a ddaeth i gynorthwyo.

 

Bore proffiliau

Ar ddydd Iau Ebrill 24ain cynhaliwyd Bore Proffiliau Blwyddyn 11.  Estynnwyd croeso i Mr Geraint Evans cynhyrchydd y Byd ar Bedwar i annerch y disgyblion yn ystod y cyfarfod ac i gyflwyno’r proffiliau. Cafwyd anerchiad pwrpasol a diddorol ganddo.

 

Ffug Etholiad Ysgol Bro Myrddin

Roedd hi’n ddiwrnod hanesyddol ar draws Cymru a Phrydain ar y 6ed o Fai, ac wrth i oedolion y wlad benderfynu ar dynged y wlad am y pedair blynedd nesaf, lledaenodd democratiaeth i blant ysgol Bro Myrddin hefyd, wrth i’r ffug-etholiad ysgol gydio yn nychymyg yr ysgol gyfan. Trefnwyd yr etholiad gan adran wleidyddiaeth yr ysgol.

 

Bu’r ymgeiswyr yn ymgyrchu am wythnos gyfan bron gyda’r polau opiniwn wedi eu rhannu rhwng y Blaid Lafur (Daniel Jones), y Blaid Geidwadol (Curon ‘Cameron’ Howells), y Democratiaid Rhyddfrydol (Siôn Evans), Plaid Cymru (Guto Ifan) a’r Monster Raving Loony Party (Tom Jones-Davies). Yn rhyfedd iawn y Monster Raving Loony Party a wnaeth ennill yr etholiad bum mlynedd yn ôl, ond roedd y pedwar arall yn benderfynol o gipio’r sedd y tro hwn.

 

Ar brynhawn Mercher cynhaliwyd Hawl i Holi gyda’r ymgeiswyr a rhoddwyd cyfle i bawb i wrando ar bolisïau’r pleidiau. Ar y diwrnod mawr cafwyd gwasanaeth ysgol gyda’r ymgeiswyr yn areithio, ac yn ceisio ennill pob pleidlais bosib.

 

Yna, daeth yr awr i fwrw pleidlais, gydag ystafell D2 yn ferw o gynnwrf drwy’r amser egwyl a chinio.

 

Canlyniadau'r Etholiad

Plaid Cymru- 137

Master Raving Looney- 107

Ceidwadwyr- 80

Llafur- 50

Democratiaid Rhyddfrydol- 46

 

Buddugoliaeth, felly, i Blaid Cymru.  Diolch yn fawr i bawb a bledleisiodd a diolch yn fawr i’r adran wleidyddiaeth am wneud yn siŵr bod democratiaeth wedi cyrraedd pawb yn yr ysgol ar ddiwrnod hanesyddol iawn.Manon Ifan blwyddyn 12 ar ennill Tlws yr Ifanc yn Eisteddfod Talgarreg yn ddiweddar

 

Enillydd Tlws yr Ifanc

Llongyfarchiadau i Manon Ifan blwyddyn 12 ar ennill Tlws yr Ifanc yn Eisteddfod Talgarreg yn ddiweddar.  Enillodd y wobr am ddau ddarn gwrthgyferbyniol, sgript a stori fer. 

 

Taith dros fywyd

Bu disgyblion o flwyddyn saith ac wyth yn cerdded i godi arian i elusen ymchwil i glefyd arennau yn ddiweddar.  Y disgyblion oedd Ben Curtis, Aled Rosser, Gwion Jones, Llew Charles, Ben Griffiths a Fflur Jones.